Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Talu am angladd

Mae'n werth gwneud yn siŵr bod digon o arian i dalu am gostau unrhyw angladd y bydd angen i chi, o bosib, fod yn gyfrifol am ei drefnu.

Cyfrifoldeb dros dalu

Os ydych yn trefnu angladd, chi fydd yn gyfrifol am dalu'r bil. Felly, i ddechrau arni, dylech wneud yn siŵr eich bod yn gwybod o ble bydd yr arian yn dod ac a fydd digon ohono ar gael. Bydd y rhan fwyaf o drefnwyr angladdau'n gofyn am daliad cyn i'r profiant (sef tystiolaeth swyddogol bod yr ewyllys yn ddilys) gael ei roi, felly mae'n werth ystyried ymlaen llaw sut y gallwch dalu am angladd, a allwch gael gafael ar y swm hwnnw o arian yn rhwydd, a'r gwahanol ffyrdd y gellir talu'r gost.

Costau i'w hystyried

Bydd y ffioedd angladdau a'r ffioedd claddu (am gael defnyddio'r capel i gynnal gwasanaeth ynddo, neu'r tâl am gladdu'r ymadawedig, er enghraifft) yn amrywio, yn dibynnu ar eich awdurdod lleol. Gallwch weld beth yw'r ffioedd hyn gan eich awdurdod lleol chi drwy ddefnyddio'r gwasanaeth chwilio isod.

Telir costau ar gyfer gwasanaethau ychwanegol - fel darparu arch, a gofalu am yr ymadawedig cyn yr angladd - i'r trefnwr angladdau. Gall y costau hyn amrywio cryn dipyn ymhlith gwahanol drefnwyr angladdau, felly mae'n ddefnyddiol cael mwy nag un amcan bris a chymharu costau a gwasanaethau. Dylai bod trefnwyr angladdau yn gallu darparu rhestrau manwl o brisiau i chi.

Bydd trefnwyr angladdau'n cyfeirio at ffioedd 'treuliau'. Dyma'r taliadau y byddan nhw'n eu gwneud ar ran eraill - am y tystysgrifau meddygon, am y gweinidog, am roi hysbysiadau mewn papurau newydd, am y blodau neu'r amlosgfa er enghraifft. Gallwch ofyn i'r trefnwr angladdau am amcanbris ar bapur yn egluro'r ffioedd hyn.

Sut i dalu

Gellir talu costau angladd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys:

  • gydag arian o ystâd yr ymadawedig
  • drwy unrhyw gynllun angladd yr oedd yr ymadawedig yn meddu arno, neu eu cynllun angladd wedi'i dalu ymlaen llaw - bydd angen i chi fynd drwy eu gwaith papur i weld a oes cynllun o'r fath yn bodoli
  • gydag unrhyw arian a dalwyd o bolisi yswiriant bywyd neu gynllun pensiwn

Bydd cyfrif banc y person a fu farw wedi ei rewi (onid oedd yn gyfrif ar y cyd). Mewn rhai achosion, efallai y bydd y banc neu'r gymdeithas adeiladu'n cytuno i ryddhau arian i dalu am gostau'r angladd, er nad oes raid iddynt wneud hynny nes y rhoddir profiant. Os na fyddant yn rhyddhau arian, efallai y bydd yn rhaid i chi neu'r ysgutor dalu a chael yr arian yn ôl o'r ystâd yn ddiweddarach.

Cymorth gyda chostau os ydych chi ar incwm isel

Os ydych chi'n ei chael yn anodd talu am angladd y mae'n rhaid i chi ei drefnu, efallai y cewch Daliad Angladd o'r Gronfa Gymdeithasol gan yr Asiantaeth Budd-Daliadau. Mae'n bosib y cewch daliad os ydych chi neu'ch partner yn cael un o'r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Tai
  • Budd-dal y Dreth Gyngor
  • Lwfans Ceisio Gwaith (ar sail incwm)
  • Credyd Treth i Bobl Anabl
  • Credyd Treth i Deuluoedd sy’n Gweithio

Os byddwch yn cael Taliad Angladd, bydd angen iddo gael ei dalu'n ôl o ystâd yr ymadawedig. Mae'r 'ystâd' yn golygu unrhyw arian, eiddo a phethau eraill fel polisïau yswiriant yr oedd y person ymadawedig yn berchen arnynt. Nid yw tŷ neu eiddo personol a adewir i'r gŵr neu'r wraig weddw, neu'r partner sifil sydd dal yn fyw, yn cael eu cyfrif yn rhan o'r ystâd.

Ceir mwy o wybodaeth yn yr erthygl Taliadau Angladd a welir yn y ddolen isod.

Os na allwch gael math arall o gymorth

Os nad oes neb yn gallu, neu os nad oes neb yn fodlon trefnu'r angladd a thalu amdano, efallai y bydd y cyngor lleol (yr awdurdod iechyd mewn rhai achosion) yn gwneud hynny, ond dim ond pan nad yw'r angladd eisoes wedi ei drefnu. Efallai y bydd y cyngor hefyd yn gwneud cais am arian o ystâd yr ymadawedig i dalu am yr angladd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU