Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Crwneriaid, post-mortem a chwest

Meddyg neu gyfreithiwr sy'n gyfrifol am ymchwilio i farwolaethau mewn sefyllfaoedd penodol yw'r crwner, a gall hefyd drefnu archwiliad post-mortem o'r corff, os oes angen un. Ymchwiliad cyfreithiol i achosion ac amgylchiadau marwolaeth yw cwest.

Pryd yr hysbysir y crwner o farwolaeth

Os digwydd marwolaeth mewn unrhyw un o'r amgylchiadau canlynol, gall y meddyg hysbysu'r crwner:

  • ar ôl damwain neu anaf
  • ar ôl afiechyd diwydiannol
  • yn ystod triniaeth lawfeddygol
  • cyn adfer ar ôl anaesthetig
  • os yw achos y farwolaeth yn anhysbys
  • os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu'n annaturiol - er enghraifft, hunanladdiad, damwain neu orddos cyffuriau neu alcohol
  • os oedd y farwolaeth yn sydyn a heb eglurhad - er enghraifft, baban yn marw'n sydyn (marwolaeth yn y crud)

Yn ogystal â hyn, os nad yw'r meddyg sy'n cyflwyno'r dystysgrif feddygol yn gweld yr ymadawedig ar ôl y farwolaeth, neu yn ystod y 14 diwrnod cyn y farwolaeth, rhaid hysbysu'r crwner am y farwolaeth.

Caiff unrhyw un sy'n pryderu ynghylch achos marwolaeth hysbysu'r crwner am y mater, ond yn y rhan fwyaf o achosion, meddyg neu'r heddlu fydd yn hysbysu'r crwner am farwolaeth.

Beth sy'n digwydd ar ôl hysbysu'r crwner am farwolaeth

Efallai mai'r crwner fydd yr unig berson a chanddo'r gallu i bennu achos y farwolaeth. Bydd y meddyg yn ysgrifennu ar y Rhybudd Ffurfiol bod y farwolaeth wedi'i chyfeirio at y crwner. Cyflwynir y Rhybudd Ffurfiol i chi gan y meddyg sy'n bresennol, ac mae'n ddogfen sy'n egluro sut yr ydych yn cofrestru'r farwolaeth.

Yna, bydd y crwner yn penderfynu a ddylai fod ymchwiliad pellach i'r farwolaeth - ac ni chaiff y cofrestrydd gofrestru'r farwolaeth tan y caiff wybod am benderfyniad y crwner. Golyga hyn, fel arfer, y caiff yr angladd ei ohirio hefyd. Pan fydd post-mortem wedi'i gynnal, rhaid i'r crwner roi caniatâd ar gyfer amlosgi.

Post-mortem

Mewn rhai achosion, bydd angen i'r crwner drefnu post-mortem. Archwiliad meddygol o'r corff yw hwn er mwyn darganfod mwy am achos y farwolaeth. Yn yr achosion hyn, eir â'r corff i'r ysbyty er mwyn cynnal yr archwiliad hwn.

Nid oes gennych hawl i wrthwynebu post-mortem a orchmynnwyd gan y crwner, ond dylech ddweud wrth y crwner os oes gennych wrthwynebiad cryf ar sail crefydd neu ar sail arall. Mewn achosion lle hysbysir crwner am farwolaeth am nad oedd y person wedi gweld meddyg yn y 14 diwrnod blaenorol (28 yng Ngogledd Iwerddon), bydd y crwner yn ymgynghori â meddyg yr ymadawedig, ac fel arfer ni fydd angen trefnu post-mortem.

Os bydd y post-mortem yn dangos i'r person farw o ganlyniad i achosion naturiol, bydd y crwner yn rhoi hysbysiad o hyn (a elwir yn Ffurflen Binc B - Ffurflen 100), fel y gellir cofrestru'r farwolaeth. Fel arfer, anfonir yr hysbysiad yn uniongyrchol at y cofrestrydd, ond mewn rhai achosion, gellir ei roi i chi i'w ddanfon. Os yw'r corff i gael ei amlosgi, bydd y crwner hefyd yn rhoi'r ffurflen i ganiatáu hyn i chi (a elwir yn Dystysgrif ar gyfer Amlosgi - Ffurflen E).

Cwestau

Ymchwiliad cyfreithiol i achos meddygol ac amgylchiadau marwolaeth yw cwest. Fe'i cynhelir yn gyhoeddus - weithiau gyda rheithgor - gan grwner, mewn achosion lle'r oedd y farwolaeth:

  • yn dreisgar neu'n annaturiol
  • wedi digwydd yn y carchar neu yn nalfa'r heddlu

neu pan

  • fydd achos y farwolaeth yn dal i fod yn ansicr ar ôl post-mortem

Bydd crwneriaid yn cynnal cwestau dan yr amgylchiadau hyn, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth dramor (ac y caiff y corff ei ddychwelyd i Brydain). Os caiff corff ei golli (ar y môr, fel arfer) gall crwner gynnal cwest drwy orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol os yw'n debygol bod y farwolaeth wedi digwydd yn ardal awdurdodaeth y crwner.

Os cynhelir cwest, rhaid i'r crwner hysbysu'r canlynol:

  • priod neu bartner sifil yr ymadawedig
  • y perthynas agosaf (os yw'n wahanol i'r un uchod)

ac

  • y cynrychiolydd personol (os yw'n wahanol i'r un uchod)

Gall perthnasau hefyd fynd i gwest a gofyn cwestiynau i dystion - ond dim ond cwestiynau am achos meddygol ac amgylchiadau'r farwolaeth. Caiff perthnasau hefyd ofyn i gyfreithiwr eu cynrychioli, ond nid oes cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer hyn.

Gallai fod yn arbennig o bwysig i gael cyfreithiwr i'ch cynrychioli os achoswyd y farwolaeth gan ddamwain ffordd, damwain yn y gweithle, neu amgylchiadau eraill a allai arwain at hawlio iawndal. Allwch chi ddim cael cymorth cyfreithiol ar gyfer hyn.

Allweddumynediad llywodraeth y DU