Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O fis Gorffennaf 2010 ymlaen, bydd cynllun cynilo newydd ar gael a gefnogir gan y llywodraeth, sef ‘Y Porth Cynilo’. Bwriedir y cynllun ar gyfer pobl oedran gweithio sydd ar incwm is, a’i nod yw eu helpu i ddod i arfer â chynilo. Bydd y llywodraeth yn ychwanegu 50 ceiniog am bob £1 a gynilir mewn cyfrif Porth Cynilo
Gallwch agor cyfrif Porth Cynilo os ydych yn cael un o'r canlynol:
Hefyd, rhaid i chi fod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig (DU).
Mae preswylio’n arferol yn y DU yn golygu eich bod fel arfer yn byw yn y DU neu eich bod yn un o'r canlynol:
Os ydych chi’n gymwys i gael cyfrif, bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon llythyr atoch i gadarnhau hyn, ynghyd â manylion yn egluro sut a ble y gallwch gael cyfrif. Does dim angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EM – caiff y llythyr ei anfon atoch yn awtomatig.
Anfonir y llythyr atoch ynghyd â manylion ynghylch ble y gallwch gael cyfrif. Mae hyn yn cynnwys manylion y 'darparwyr cyfrifon', megis banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd a Swyddfa’r Post. Ar ôl cael y llythyr, dylech gysylltu ag un o’r darparwyr cyfrifon hyn i wneud cais am gyfrif.
Peidiwch â phoeni os na chewch chi lythyr yn syth. Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon y llythyrau at bawb sy’n gymwys o fewn tua chwe mis. Byddwch yn dal i gael llythyr hyd yn oed os yw eich amgylchiadau wedi newid ers i'r Porth Cynilo gael ei lansio.
Ar ôl agor eich cyfrif cewch gynilo faint a fynnoch gyda’ch darparwr cyfrifon, hyd at £25 y mis. Ar ôl i’ch cyfrif fod ar agor am ddwy flynedd, bydd y llywodraeth yn rhoi 50 ceiniog i chi am bob £1 rydych wedi’i chynilo. Bydd eich darparwr cyfrifon yn talu’r arian hwn i chi – does dim angen i chi wneud cais i Gyllid a Thollau EM i gael yr arian.
Peidiwch â phoeni os yw £25 y mis yn swnio'n ormod – cewch gynilo faint bynnag o arian ag y dymunwch, a hynny pryd bynnag y dymunwch. Gallwch hefyd dynnu’ch arian o'r cyfrif os bydd arnoch angen gwneud hynny, a byddwch yn dal i gael arian gan y llywodraeth ar y swm rydych wedi'i gynilo.
Dim ond un cyfrif Porth Cynilo y cewch ei agor yn ystod eich oes, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn ei agor ar yr adeg orau i chi.
Bydd cyfrifon y Porth Cynilo ar gael o ddiwedd mis Gorffennaf 2010 ymlaen, a bydd Cyllid a Thollau EM yn ysgrifennu atoch os ydych chi'n gymwys.
Does dim angen i chi wneud dim byd, ond efallai y byddai’n werth holi i weld a ydych chi’n gymwys i gael unrhyw un o’r budd-daliadau neu’r credydau treth a grybwyllir uchod.