Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pryd mae eich taliad credydau treth nesaf yn daladwy?

Telir eich taliadau credydau treth bob wythnos neu bob pedair wythnos, yn dibynnu ar yr hyn y gwnaethoch ei ddewis pan wnaethoch eich cais i hawlio. Os bydd eich diwrnod talu arferol ar ŵyl y banc, dylech gael eich taliad yn gynharach nag arfer.

Sut i gael gwybod pryd mae’ch taliad nesaf yn daladwy

Bydd eich hysbysiad dyfarniad yn rhoi dyddiad eich taliad cyntaf. Felly, gallwch ddefnyddio hwn i ganfod pryd y mae’ch taliad nesaf yn daladwy – yn dibynnu ar ba mor aml y cewch eich talu.

Ffordd arall o wneud hyn yw edrych ar eich datganiad banc i weld ar ba ddyddiad y talwyd y taliad diwethaf i’ch cyfrif.

Dyddiadau talu gwyliau banc am 2012

O bryd i’w gilydd, efallai y bydd eich diwrnod talu arferol ar yr un diwrnod â gŵyl y banc. Golyga hyn y cewch eich taliad ychydig ddiwrnodau’n gynharach.

Ni waeth a ydych chi’n byw yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Os bydd gŵyl y banc yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, bydd eich taliad yn dal i gael ei dalu’n gynharach.

Mae’r tabl isod yn dangos i chi ba daliadau y caiff eu talu’n gynnar, a phryd y dylech gael eich talu.

Mis y dyddiad y mae’r taliad yn daladwy Y dyddiad y gwneir eich taliad
Mawrth 19 Mawrth 2012 (Gogledd Iwerddon yn unig) 16 Mawrth 2012
Ebrill 6 Ebrill 2012 (Dydd Gwener y Groglith) 5 Ebrill 2012
9 Ebrill 2012 (Dydd Llun y Pasg) 5 Ebrill 2012
Mai 7 Mai 2012 (gŵyl y banc Calan Mai) 4 Mai 2012
Mehefin 4 Mehefin 2012 (gŵyl y banc y gwanwyn) 1 Mehefin 2012
5 Mehefin 2012 (Jiwbilî Diemwnt y Frenhines) 1 Mehefin 2012
Gorffennaf 12 Gorffennaf 2012 (Gogledd Iwerddon yn unig) 11 Gorffennaf 2012
Awst 6 Awst 2012 (yr Alban yn unig) 3 Awst 2012
27 Awst 2012 (gŵyl y banc yr haf) 24 Awst 2012
Tachwedd 30 Tachwedd 2012 (Gŵyl San Andreas – yr Alban yn unig) 29 Tachwedd 2012
Rhagfyr 25 Rhagfyr 2012 (Dydd Nadolig) 24 Rhagfyr 2012
25 Rhagfyr 2012 (Gŵyl San Steffan) 24 Rhagfyr 2012
27 Rhagfyr 2012 (Gogledd Iwerddon yn unig) 24 Rhagfyr 2012

Nid ydych wedi cael eich taliad

Os nad ydych wedi cael eich talu dylech edrych eto ar eich cyfrif banc. Weithiau ni fydd systemau bancio electronig yn gwbl gyfredol. Mae’n bosib bod eich taliad yn eich cyfrif, ond nad yw’n ymddangos ar eich datganiad eto.

Neu, efallai eich bod wedi symud yn ddiweddar, a’ch bod heb roi gwybod i’r Swyddfa Credyd Treth beth yw’ch cyfeiriad newydd. Os na fydd y Swyddfa Credyd Treth yn gallu cysylltu â chi, mae’n bosib y bydd yn dod â'ch taliadau credydau treth i ben. Gallwch atal hyn rhag digwydd drwy roi gwybod iddynt mewn da bryd os byddwch yn newid cyfeiriad.

Os bydd angen rhagor o gymorth neu gyngor arnoch gallwch ffonio’r Llinell Gymorth Credyd Treth.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU