Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael credydau tuag at Bensiwn y Wladwriaeth

Weithiau, mae’n bosib na fyddwch yn gallu talu Yswiriant Gwladol, er enghraifft, os ydych yn sâl, yn ddi-waith neu’n gofalu am rywun. Mewn llawer o achosion, efallai y cewch gredydau gan y llywodraeth tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth am yr adeg honno. Yma, cewch wybod pwy all gael credydau ac a oes angen i chi wneud rhywbeth.

Diogelu’ch Pensiwn gan y Wladwriaeth gyda chredydau Yswiriant Gwladol

Y mae’n bosib y gallech fod yn gymwys i Bensiwn y Wladwriaeth ar sail credydau a dderbyniwyd am gyfnod dan sylw. Y mae’n bosib y gallech fod yn gymwys i beth Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar sail credydau yn unig. Gan ddibynnu ar eich sefyllfa, mae’n bosib y bydd eich credydau’n cyfrannu at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd.

Gallwch gael credydau mewn amryw o ffyrdd gwahanol. Yn aml, byddwch yn cael y credydau’n awtomatig, ond mewn rhai achosion bydd angen i chi wneud cais amdanynt. Dyma'r gwahanol ffyrdd o gael credydau Yswiriant Gwladol.

Credydau ar gyfer pobl ifanc rhwng 16 a 18 oed

Os oeddech chi rhwng 16 a 18 oed cyn 6 Ebrill 2010, gan amlaf roeddech chi’n cael eich credydu yn awtomatig â chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Ni fydd unrhyw ddyfarniad newydd yn cael ei roi o 6 Ebrill 2010 ymlaen.

Mae’r credydau Yswiriant Gwladol hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig (nid Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).

Does dim angen i chi wneud dim er mwyn cael y credydau.

Credydau ar gyfer pobl mewn hyfforddiant amser llawn

Os ydych chi’n hŷn na 18 oed ac yn dilyn hyfforddiant amser llawn, byddwch chi'n cael credydau, ar yr amod ei fod yn hyfforddiant cymeradwy ac nad yw’n para mwy na blwyddyn.

Mae cyrsiau a noddir gan y llywodraeth yn cael eu cymeradwyo’n awtomatig. Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr prifysgol.

Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig (nid Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).

Os yw’r cwrs hyfforddi yn cael ei noddi gan y llywodraeth, does dim angen i chi wneud dim byd er mwyn cael y credydau. Fel arall, bydd angen i chi wneud cais i Gyllid a Thollau EM (HMRC).

Credydau ar gyfer rhieni a gofalwyr

Efallai y cewch chi gredydau os ydych chi’n gofalu am rywun.

Efallai y cewch chi gredydau os ydych:

  • yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 12
  • yn ofalwr maeth cofrestredig
  • yn gofalu am un neu ragor o bobl sy’n sâl neu’n anabl am o leiaf 20 awr yr wythnos

Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Mae’r credydau hefyd yn werth hawlio os ydych chi’n hunangyflogedig neu os oes gennych enillion is yr ydych ar incwm isel oherwydd eu bod yn eich helpu i fod yn gymwys am Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Gan amlaf, does dim angen i chi wneud dim byd os ydych eisoes yn hawlio un o’r canlynol:

  • Lwfans Gofalwr
  • Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 12 oed
  • Cymhorthdal Incwm a'ch bod yn gofalu am rywun ar lefel sylweddol yn rheolaidd

Fel arall, bydd angen i chi wneud cais am y credydau.

Gweler ‘Gofalu a’ch pensiwn’ i gael gwybod mwy ynghylch credydau ar gyfer gofalwyr.

Gweler ‘Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer rhieni’ i gael gwybod mwy ynghylch credydau ar gyfer rhieni.

Credydau ar gyfer oedolion penodol sy’n gofalu am blentyn dan 12 oed

Mae credydau cyfraniadau Yswiriant Gwladol newydd wedi cael eu cyflwyno gan y llywodraeth o’r flwyddyn dreth 2011/12 ymlaen. Efallai y gallwch gael y credydau hyn os ydych chi’n gofalu am blentyn dan 12 oed ac rydych chi’n oedolyn o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Budd-daliadau Profedigaeth penodol.

Does dim angen i chi wneud dim byd nawr. Dim ond ar ôl diwedd y flwyddyn dreth 2011/12 y gellir gwneud ceisiadau am y credydau hyn.

Os hoffech wneud cais am y credydau hyn does dim angen i chi wneud rhywbeth nawr. Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei darparu ym mis Medi 2012.

Amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth

Gall amlinellydd Pensiwn y Wladwriaeth eich helpu i ganfod a fydd y newidiadau yn y system gredydau yn effeithio arnoch chi. Mae’r offeryn syml hwn yn eich helpu i amcangyfrif yn gyflym faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallech fod ag hawl iddo a pha bryd y gallwch wneud cais amdano. Os ydych chi’n meddwl bod angen i chi wneud cais am gredydau, gallwch ffonio Llinell Ymholiadau'r Credyd Gofalwr ar 0845 608 4321 (Ffôn testun 0845 604 5312).

Credydau ar gyfer pobl ddi-waith sy’n chwilio am waith

Os ydych chi’n ddi-waith ac yn ceisio chwilio am waith, fe allwch chi gael credydau ar yr amod:

  • eich bod yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith
  • eich bod ar gael i weithio a'ch bod yn mynd ati'n frwd i chwilio am waith, ac nad ydych mewn addysg nac yn gwneud 16 awr neu fwy o waith cyflogedig

Mae’r credydau hyn yn cyfrif tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn unig (nid Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth).

Os ydych chi’n cael Lwfans Ceisio Gwaith, does dim rhaid i chi wneud dim byd. Fel arall, bydd yn rhaid i chi gysylltu â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Credydau ar gyfer pobl sy’n sâl, yn anabl neu ar absenoldeb mamolaeth

Os na allwch chi weithio oherwydd salwch, anabledd neu am eich bod ar gyfnod mamolaeth, fe allwch chi gael credydau. Mae angen i chi fod yn hawlio un o'r canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd/Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Lwfans Mamolaeth
  • Tâl Salwch Statudol
  • Atodiad neu Lwfans i'r Anghyflogadwy

Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae gennych hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Os na allwch chi weithio am fwy na blwyddyn oherwydd salwch neu anabledd, efallai y cewch gredydau tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth hefyd. Gan ddibynnu ar ba fudd-dal rydych chi’n ei hawlio, efallai y bydd angen i chi wneud cais i gael credydau.

Pobl sy’n cael Credyd Treth Gwaith

Os ydych chi’n hawlio Credyd Treth Gwaith, fe allwch chi gael credydau (oni bai eich bod eisoes yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)). Mae hyn yn cynnwys pobl hunangyflogedig sy’n gymwys ar gyfer yr Eithriad Enillion Isel.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, mae gennych hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Credydau ar gyfer partneriaid aelodau o luoedd Ei Mawrhydi

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil gofrestredig ag aelod o luoedd Ei Mawrhydi mae’n bosib nad ydych yn talu YG y DU. Os ydych yn mynd dramor gyda nhw wedi iddynt gael ei leoli yno, mae’n bosib nad ydych yn talu YG y DU.

O ganlyniad, efallai fod gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol a allai effeithio ar eich hawl i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.

Os cafodd eich partner ei leoli ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, efallai y bydd yn bosib i chi wneud cais am gredyd Yswiriant Gwladol a allai gynyddu'ch Pensiwn gan y Wladwriaeth. I gael mwy o wybodaeth, llwythwch y daflen isod.

Allweddumynediad llywodraeth y DU