Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiwn y Wladwriaeth i rieni

O 6 Ebrill 2010 ymlaen, mae rhieni yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol tuag at eu Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych chi’n gofalu am blentyn dan 12 oed neu os ydych yn ofalwr maeth cofrestredig, efallai eich bod yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol.

Credydau i rieni

Mae’n bosib y bydd gennych hawl i Bensiwn y Wladwriaeth drwy’r dalu Yswiriant Gwladol. Nid yw llawer o rieni’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, er enghraifft os na fyddant yn gweithio, neu os bydd eu henillion yn isel.

Mae system gredydau Yswiriant Gwladol ar waith yn awr er mwyn helpu rhieni i fod ag hawl i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Efallai y byddwch yn gymwys i gael credyd Yswiriant Gwladol mewn wythnos benodol os oes un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn neu blant dan 12 mlwydd oed
  • rydych yn ofalwr maeth cymeradwy

Rydych yn dal yn gymwys i gael y credydau Yswiriant Gwladol hyn os ydych chi'n fenyw briod ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd is. Mae gennych hawl i gael y credydau Yswiriant Gwladol hyn ar yr amod eich bod yn bodloni’r amodau cymhwyso hyn. Mae’r credydau Yswiriant Gwladol hefyd yn fuddiol os ydych yn hunangyflogedig neu os oes gennych enillion isel gan eu bod yn golygu y gallech fod ag hawl i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Gallwch gyfuno’r credydau Yswiriant Gwladol â chyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn cael blwyddyn gymhwyso. Mae hyn hefyd yn berthnasol i fathau eraill o gredydau Yswiriant Gwladol y mae’n bosib eich bod yn gymwys i’w cael.

Mae’n rhaid i’ch credydau Yswiriant Gwladol a’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol gael eu gwneud yn yr un flwyddyn dreth er mwyn i chi allu eu cyfuno fel hyn.

Os yw aelod o’r teulu yn gofalu am blentyn ar eich rhan, efallai y mae’n bosib trosglwyddo eich credyd Yswiriant Gwladol iddynt. Am ragor o wybodaeth gweler ‘Cael credydau treth tuag at Bensiwn y Wladwriaeth’.

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

Hyd at 5 Ebrill 2010, roedd nifer o bobl a oedd yn gofalu am eraill yn gymwys ar gyfer cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP). Roedd hwn yn helpu i ddiogelu eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer y blynyddoedd pan nad oeddech yn gweithio neu pan oedd eich enillion yn isel. Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2010, byddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol yn hytrach na Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref.

Roedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn gweithio drwy leihau nifer y blynyddoedd a oedd eu hangen i gael Pensiwn y Wladwriaeth. Roedd ar gael os oeddech chi:

  • yn cael Budd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed
  • yn ofalwr maeth cymeradwy

Roedd y credydau Yswiriant Gwladol newydd i rieni a gofalwyr yn disodli Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref o 6 Ebrill 2010 ymlaen. Os oeddech chi gyda blynyddoedd o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref cyn 6 Ebrill 2010, byddai hyd at 22 mlynedd o’r blynyddoedd hyn wedi cael eu newid yn gredydau Yswiriant Gwladol. Bydd y rhain yn mynd tuag at Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Nid oeddech yn gymwys ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref os dewisoch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y gyfradd is.

Trosglwyddo Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref rhwng partneriaid

Os oeddech chi’n gofalu am y plant ond mai’ch partner oedd yn cael y Budd-dal Plant, gallech wneud cais am gynnwys unrhyw gyfnodau o Ddiogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar eich cyfrif Yswiriant Gwladol. Efallai yr hoffech wneud hyn am nad oes angen Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar eich partner am ei fod yn gweithio ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Gallwch hefyd wneud cais am drosglwyddo’r credydau newydd ar gyfer rhieni.

Gallwch lwytho’r ffurflen gais berthnasol oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Cael y credydau Yswiriant Gwladol newydd – a oes angen i chi wneud unrhyw beth?

Os ydych chi’n cael Budd-dal Plant ar gyfer plant dan 12 oed, ni fydd angen i chi wneud cais am eich credydau Yswiriant Gwladol.

Fel arall, bydd yn rhaid i chi wneud cais am unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol y gallech fod yn gymwys i’w cael. Dylech geisio gwneud hyn cyn diwedd y flwyddyn dreth sy’n dilyn y flwyddyn pan oeddech yn gofalu. Er y mae’n bosib y caiff ceisiadau hwyr eu derbyn. Os ydych chi’n credu y gallech fod yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol rhwng 6 Ebrill 2011 a 5 Ebrill 2012, dylech wneud cais amdanynt. Bydd angen i chi wneud cais cyn 5 Ebrill 2013. Daeth y system newydd hon i rym ar 6 Ebrill 2010, felly dyma’r dyddiad cynharaf y gallech gael y credydau Yswiriant Gwladol hyn.

Os ydych chi’n ofalwr maeth cofrestredig, bydd angen i chi wneud cais i Gyllid a Thollau EM. Gallwch lwytho’r ffurflen gais i rieni a gofalwyr oddi ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Bydd arnoch angen llythyr gan yr awdurdod lleol neu’r Asiantaeth sy’n eich cyflogi i gadarnhau’r cyfnod rydych chi wedi cael eich cofrestru ar ei gyfer.

Allweddumynediad llywodraeth y DU