Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad oes gennych hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn llawn, mae’n bosib y gallwch ei gynyddu. Os oes gan eich priod neu’ch partner sifil rywfaint o flynyddoedd cymhwyso o’u cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol, fe allech chi wella’ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Mae’n bosib y gallwch gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, neu gynyddu eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ar sail cofnod Yswiriant Gwladol eich priod neu’ch partner. Fe allech fod yn gymwys i gael hyn os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol:
Hefyd, i ddynion priod neu bartneriaid sifil yn unig, fe allech fod yn gymwys os ganwyd eich gwraig neu’ch partner sifil ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny.
Bydd faint gewch chi’n dibynnu ar gofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich priod neu’ch partner. Yn 2012-13 fe allech chi gael hyd at £64.40 yr wythnos. Mae hyn yn wir hyd yn oed os nad ydych yn gymwys am ddim Pensiwn y Wladwriaeth ar sail eich cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.
Does dim rhaid i chi fod yn byw gyda’ch priod neu’ch partner sifil i gael y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth hwn. A does dim rhaid i chi aros iddyn nhw ddechrau hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.
Beth sydd wedi newid?
Yn flaenorol, dim ond menywod priod oedd yn gallu cael y Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth hwn. Mae dynion priod a phartneriaid sifil bellach yn gallu gwneud hyn, cyn belled â’u bod yn bodloni’r amodau.
Hefyd, roedd rhaid i fenyw briod aros nes bod ei gŵr wedi hawlio ei Bensiwn y Wladwriaeth ei hun cyn cael unrhyw gynnydd. Bellach, mae hi’n gallu hawlio cynnydd hyd yn oed os nad yw ef wedi hawlio ei Bensiwn y Wladwriaeth ei hun. Mae hyn ar yr amod eu bod nhw ill dau wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r trefniadau hyn yr un mor berthnasol i ddynion priod a phartneriaid sifil.
Mae’n rhaid bod chi a’ch priod neu’ch partner sifil wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Hefyd, os ydych chi’n ŵr priod neu bartner sifil, rhaid bod chi a’ch gwraig neu’ch partner sifil wedi cael eu geni ar 6 Ebrill 1950 neu ar ôl hynny. Mae hyn yn golygu:
Os ydych chi’n fenyw briod, gallech gael budd o’r cynnydd hwn ni waeth os ganwyd eich gŵr cyn, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1950.
Bydd yr union ddyddiad sy’n berthnasol i chi’n dibynnu ar pryd y cyrhaeddoch chi a’ch priod neu’ch partner sifil oed Pensiwn y Wladwriaeth.
Pan fyddwch chi a’ch priod neu'ch partner sifil ill dau wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, fe allech chi gael budd.
Pan fyddwch chi ill dau wedi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth eich hun dylech gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y mae gennych hawl iddo yn awtomatig yn seiliedig ar gofnod Yswiriant Gwladol eich partner.
Os nad ydych wedi clywed gan y Gwasanaeth Pensiwn erbyn y dyddiad y byddwch chi a’ch partner yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth, dylech ffonio’r Gwasanaeth Pensiwn.
Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0845 060 0265. Mae llinellau ar agor rhwng 8.00 am ac 8.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cofiwch na ellir talu’r symiau ychwanegol nes bod y ddau ohonoch wedi cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth.