Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth

Mae proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i amcangyfrif yn gyflym faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael. Mae hwn yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma. Bydd hefyd yn dweud wrthych beth yw'r cynharaf y gallwch ei gael. Cyn i chi ddefnyddio'r proffiliwr, darllenwch yr adran 'Gwybodaeth bwysig' isod.

Beth yw Pensiwn y Wladwriaeth?

I'r rhan fwyaf o bobl, mae i Bensiwn y Wladwriaeth ddwy ran, sef Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Efallai y bydd rhai unigolion yn cael Budd-dal Ymddeol Graddedig hefyd os gwnaethant dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn 5 Ebrill 1975. Bydd pobl wahanol yn cael symiau gwahanol.

I gael mwy o wybodaeth am Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth, gweler y dolenni canlynol.

Pwy ddylai ddefnyddio proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth

Mae proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth wedi'i anelu at bobl nad ydynt wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto. Os ydych eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd y proffiliwr yn llai perthnasol i chi. Ond efallai y bydd yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bwysig i chi am Bensiwn y Wladwriaeth.

Beth mae proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn ei gynnig i chi

Bydd y proffiliwr yn cynnig y canlynol:

  • amcangyfrif o faint o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a allai fod gennych hyd yma
  • manylion am faint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth y gallwch ei gael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma
  • y dyddiad cynharaf y gallwch gael eich Pensiwn y Wladwriaeth, yn seiliedig ar y rheolau sy'n gymwys i chi
  • gwybodaeth am sut y gallwch lenwi unrhyw fylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG)
  • gwybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys sut y gall newidiadau arfaethedig effeithio arnoch

Gan fod y proffiliwr yn defnyddio cyfrifiad syml, ni all ystyried pob sefyllfa a allai effeithio ar union nifer y blynyddoedd cymhwyso sydd gennych.

Wrth wneud penderfyniadau ynghylch eich sefyllfa ariannol yn y dyfodol, ni ddylech ddibynnu ar yr adnodd hwn heb ofyn am gyngor.

Amcangyfrif eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Ni fydd proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif i chi o unrhyw Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a, lle y bo'n briodol, Budd-dal Ymddeol Graddedig y gall fod gennych hawl i'w cael yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallwch ei gael yn dibynnu ar nifer o amgylchiadau, fel:

  • faint o arian rydych yn ei ennill bob blwyddyn yn ystod eich bywyd gwaith
  • p'un a ydych wedi eich eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth neu p'un a ydych erioed wedi cael eich eithrio

Gallwch gael gwybod mwy am eich hawl bosibl i Bensiwn y Wladwriaeth, gan gynnwys Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth a Budd-dal Ymddeol Graddedig, drwy gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth.

Bydd y ffordd y byddwch yn cael yr amcangyfrif hwn yn dibynnu ar b'un a ydych:

  • yn fenyw a anwyd cyn 6 Ebrill 1953, neu'n ddyn a anwyd cyn 6 Ebrill 1951
  • yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny, neu'n ddyn a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Defnyddio'r proffiliwr

Bydd proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn agor mewn ffenestr newydd. Bydd yn cymryd tua deg munud i'w gwblhau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Defnyddiwch y botymau 'Nesaf' a 'Nôl' ar bob sgrin i lywio drwy'r proffiliwr. Peidiwch â defnyddio botymau 'Ymlaen' a 'Nôl' eich porwr gwe, oherwydd gall hyn achosi gwallau.

Er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y wybodaeth orau bosibl, gofynnir i chi roi rhai manylion amdanoch chi eich hun. Gall hyn gynnwys gwybodaeth am unrhyw briod neu bartner sifil. Ni chaiff y wybodaeth hon ei storio na'i rhannu ag unrhyw un arall.

Gwybodaeth bwysig

Mae'r wybodaeth a roddir gan broffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar gyfraith y DU ar hyn o bryd, ac ar y wybodaeth a roddwch.

Newidiadau yn y dyfodol i Bensiwn y Wladwriaeth

Mae’r llywodraeth yn bwriadu symleiddio Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd unrhyw un sy’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn i’r diwygiadau gael eu cyflwyno yn parhau i dderbyn ei Bensiwn y Wladwriaeth yn unol â’r rheolau presennol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn yr Hydref.

Cynnydd yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Newidiodd Deddf Pensiynau 2011 yr oedran y gall rhai pobl gael Pensiwn y Wladwriaeth. Mae'r oedran Pensiwn y Wladwriaeth a roddwyd i chi gan y proffiliwr yn ystyried y newid.

Newid oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 67 oed

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i gynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 67 yn gynt na'r disgwyl. Os caiff ei gymeradwyo gan Senedd y DU, bydd y newid hwn yn effeithio ar bawb a anwyd rhwng 6 Ebrill 1960 a 5 Ebrill 1969 (gan gynnwys y dyddiadau hynny).

Dysgwch fwy am y cynigion diweddaraf.

Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth y tu hwnt i 67 oed

O dan y gyfraith gyfredol, bwriedir i oedran Pensiwn y Wladwriaeth ddechrau cynyddu i 68 o 2044. Byddai hyn yn effeithio ar unrhyw un a anwyd ar ôl 5 Ebrill 1977.

Mae'r llywodraeth yn ystyried sut y gallai oedran Pensiwn y Wladwriaeth adlewyrchu newidiadau o ran disgwyliad oes yn y dyfodol. Mae hyn yn debygol o olygu y caiff yr amserlen bresennol i gynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth i 68 ei diwygio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU