Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn ysgrifennu atoch cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd yn egluro eich opsiynau, gan gynnwys sut i wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth neu sut y gallwch oedi cyn gwneud cais. Mynnwch wybod beth y dylech ei wneud os nad yw'n cysylltu â chi.

Pryd y gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth

Gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw oedran Pensiwn y Wladwriaeth yr un fath i bawb, felly bydd angen i chi ganfod beth yw'ch un chi.

Bydd Y Gwasanaeth Pensiwn yn ysgrifennu atoch bedwar mis cyn i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y llythyr yn dweud wrthych a oes angen i chi wneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn cael budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol, efallai na fydd angen i chi wneud cais.

Sut i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth

Y ffordd fwyaf cyfleus i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth yw ar-lein. Mae hwn yn wasanaeth diogel sydd ar gael 24 awr y dydd. Mae’n eich galluogi i wneud eich hawl ar eich cyflymder eich hun a gallwch arbed eich hawl ar unrhyw adeg a dychwelyd iddi yn ddiweddarach.

Gallwch hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein os:

  • ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • ydych wedi derbyn llythyr gan Y Gwasanaeth Pensiwn

Sut i hawlio’ch Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon neu dramor.

Os ydych yn cael budd-daliadau nawdd cymdeithasol penodol mae’n bosib ni fydd angen i chi wneud cais.

Os nad ydych yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein gallwch gysylltu â’r llinell Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth:

Ffôn: 0800 731 7898
Ffôn testun: 0800 731 7339

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 8pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen gais Pensiwn y Wladwriaeth, ei hargraffu, ac yna ei chwblhau a'i hanfon i'ch Canolfan Bensiwn leol. Ond gall hyn gymryd mwy o amser na chysylltu dros y ffôn.

Cwsmeriaid sy'n siarad Welsh

Gall cwsmeriaid sy'n siarad Welsh ac yn byw yng Nghymru:

  • ffonio llinell hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar 0800 731 7936 (rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus)
  • defnyddio’r gwasanaeth ffôn testun ar 0800 731 7013 os oes gennych nam ar eich lleferydd neu eich clyw (rhwng 8.00 am ac 8.00 pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio gwyliau cyhoeddus)

Beth i’w wneud os nad ydych yn cael ei cysylltu ynghylch Pensiwn y Wladwriaeth

Os nad ydych wedi clywed gan Bensiwn y Wladwriaeth pan rydych yn dri mis o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd angen i chi gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 7898. Ffôn testun: 0800 731 7339, dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 8pm (ac eithrio gwyliau cyhoeddus).

Rhestr wirio o'r hyn fydd ei angen arnoch wrth wneud eich cais

Bydd angen y canlynol arnoch wrth law pan fyddwch yn gwneud cais:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich cyfeiriad presennol a'r cod post, yn ogystal â'ch dau gyfeiriad blaenorol
  • os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, bydd angen manylion eich gŵr, gwraig neu bartner sifil arnom, mae hyn yn cynnwys rhif Yswiriant Gwladol
  • dyddiad eich priodas neu bartneriaeth sifil
  • os ydych wedi ysgaru neu'n weddw neu fod eich partneriaeth sifil wedi'i diddymu neu fod eich partner sifil wedi marw, bydd angen dyddiadau perthnasol arnom hefyd
  • manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliadau nawdd cymdeithasol rydych chi neu eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn eu cael neu'n aros i glywed amdanynt
  • eich rhif nawdd cymdeithasol a dyddiadau perthnasol yr oeddech y tu allan i’r DU - os ydych wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU
  • manylion y cyfrif rydych am i’ch Pensiwn y Wladwriaeth gael ei dalu’n uniongyrchol i mewn iddo

Mae'r holl wybodaeth rydych yn ei rhoi i ni'n gyfrinachol. Er mwyn sicrhau gwasanaeth o ansawdd uchel, caiff pob galwad ffôn ei recordio at ddibenion diogelwch, hyfforddi ac ansawdd.

Bod yn gymwys ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth

Mae eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mynnwch wybod sut rydych yn gymwys i gael eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch

Er mwyn cael amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallwch ei gael, gweler 'Cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth'.

Sut y telir Pensiwn y Wladwriaeth

Telir pob budd-dal, pensiwn a lwfans i mewn i gyfrif o'ch dewis, er enghraifft eich cyfrif banc. Dyma'r dull mwyaf diogel, cyfleus ac effeithlon o dalu.

Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall neu os oes angen gofalwr arnoch i gasglu eich arian, gallwch enwebu cynorthwy-ydd i gasglu eich pensiwn neu eich budd-dal ar eich rhan.

Oedi cyn gwneud cais am eich Pensiwn y Wladwriaeth

Nid oes yn rhaid i chi hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Efallai y byddwch yn gallu oedi cyn gwneud cais amdano (ei ohirio). Gallwch naill ai cael Pensiwn y Wladwriaeth ychwanegol bob wythnos yn ogystal â'ch Pensiwn y Wladwriaeth wythnosol arferol neu gyfandaliad trethadwy. Gweler 'Gohirio Pensiwn y Wladwriaeth' am ragor o wybodaeth

Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid

Dylech ddweud wrth Y Gwasanaeth Pensiwn os ydych yn:

  • symud cartref
  • mynd i'r ysbyty neu'n dod allan o'r ysbyty
  • mynd y tu allan i'r DU i fyw neu am ymweliad hir
  • mynd i gartref gofal

Mynd i'r ysbyty

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ni fydd hyn yn effeithio ar eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Ond os cewch Gredyd Pensiwn, efallai y bydd yn gostwng os byddwch yn yr ysbyty am fwy na phedair wythnos.

Allweddumynediad llywodraeth y DU