Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am newid yn eich cyfeiriad, manylion banc neu amgylchiadau eraill

Os bydd eich amgylchiadau'n newid, gall hyn effeithio ar eich pensiwn a'ch budd-daliadau. Er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr holl fudd-daliadau y mae hawl gennych i'w cael, mae angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau. Mynnwch wybod beth sydd angen i chi roi gwybod amdano, megis newid mewn cyfeiriad neu fanylion banc.

Beth yw 'newid mewn amgylchiadau'?

Gallwch roi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy ffonio:

Y Gwasanaeth Pensiwn ar 08456 060 265

Gall newid mewn amgylchiadau olygu newid yn y canlynol:

  • eich gwybodaeth bersonol - er enghraifft, eich manylion banc neu farwolaeth partner neu briod
  • eich amgylchiadau byw - er enghraifft, symud cartref neu fynd i'r ysbyty
  • eich sefyllfa ariannol - er enghraifft, cael budd-daliadau eraill

Gweler yr adran 'Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt' isod am ragor o enghreifftiau o newid mewn amgylchiadau.

Pam bod angen i chi roi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Gall newid yn eich amgylchiadau effeithio ar faint y cewch eich talu a pha fudd-daliadau y gallwch eu cael.

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn os bydd newid yn eich amgylchiadau a'ch bod yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth
  • Pensiwn Dros 80 Oed
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Tanwydd Gaeaf - gweler hefyd y ddolen 'Taliad Tanwydd Gaeaf' isod

Bydd y Gwasanaeth Pensiwn yna yn cadarnhau bod y swm cywir yn cael ei dalu i chi a'ch bod yn cael y budd-daliadau cywir.

Gweler yr adran 'Sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn a rhoi gwybod am newidiadau' isod i gael rhif ffôn a chyfeiriad eich canolfan bensiwn.

Sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn a rhoi gwybod am newidiadau

Dylech ffonio'r Gwasanaeth Pensiwn ar 08456 060 265 er mwyn rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau. Bydd yn gallu gwneud unrhyw newidiadau i'ch amgylchiadau neu'ch manylion.

Ni all y Gwasanaeth Pensiwn dderbyn newidiadau i'ch manylion personol drwy neges e-bost nac ar-lein am nad yw'n ddiogel.

Newidiadau y mae angen i chi roi gwybod amdanynt

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau er mwyn sicrhau y caiff y swm cywir ei dalu i chi a'ch bod yn cael y budd-daliadau cywir. Gweler yr adran 'Sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn' uchod. Gallai newid mewn amgylchiadau gynnwys unrhyw un o'r canlynol:

Eich gwybodaeth bersonol

  • eich manylion banc
  • newid cyfeiriad
  • eich enw
  • eich statws fel unigolyn anabl neu ddim yn anabl mwyach
  • statws priodasol
  • partneriaeth sifil
  • marwolaeth partner neu briod
  • statws gwaith gwirfoddol
  • bod eich partner neu'ch priod yn symud i mewn gyda chi neu'n symud i ffwrdd

Os nad yw eich priod neu'ch partner yn dibynnu arnoch yn ariannol a'i fod yn symud i mewn neu allan o'ch cartref, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn.

Eich cartref

  • eich bod yn symud cartref
  • eich bod chi neu rywun rydych yn hawlio ar ei gyfer yn mynd i'r ysbyty (gweler 'Mynd i'r ysbyty' am ragor o wybodaeth, isod)
  • eich bod yn mynd i'r carchar yn bwrw dedfryd llys
  • eich bod yn cael gofal preswyl neu'n symud i gartref nyrsio
  • bod eich morgais neu eich benthyciad wedi’i dalu neu’n cynyddu
  • bod rhywun yn dod i fyw yn eich tŷ

Os ydych chi’n symud dramor

Dylech gysylltu â’r Ganolfan Bensiwn Rhyngwladol os ydych chi’n symud dramor.

Eich sefyllfa ariannol

  • os cewch unrhyw fudd-daliadau eraill
  • newidiadau i’ch incwm
  • newidiadau i’ch cynilion neu'ch buddsoddiadau
  • eich pensiwn galwedigaethol
  • eich bod yn dechrau neu'n rhoi'r gorau i wneud gwaith â thal

Os cewch Gredyd Pensiwn a bod Cyfnod Incwm Asesedig wedi'i ddyfarnu i chi, nid oes angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn am newidiadau yn eich:

  • cynilion a buddsoddiadau
  • pensiynau galwedigaethol

Rhoi gwybod am farwolaeth - pwy i gysylltu â nhw

Bydd angen i chi roi gwybod i'r Gwasanaeth Pensiwn pan fydd rhywun wedi marw fel y gall roi'r gorau i dalu ei bensiwn. Gweler yr adran 'Sut i gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn a rhoi gwybod am newidiadau' uchod am fanylion cyswllt y Gwasanaeth Pensiwn.

Mynd i'r ysbyty - sut mae'n effeithio ar eich budd-daliadau

Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ni fydd hyn yn effeithio ar eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth. Ond os cewch Gredyd Pensiwn, efallai y bydd yn gostwng os byddwch yn yr ysbyty am fwy na phedair wythnos.

Allweddumynediad llywodraeth y DU