Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer Prydeinwyr sy'n byw dramor

Os ydych yn ystyried byw dramor pan fyddwch yn ymddeol, byddwch dal yn gallu hawlio Pensiwn y Wladwriaeth. Yma cewch wybod sut y telir Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi’n byw dramor. Sut i dalu treth ar eich Pensiwn y Wladwriaeth a gyda phwy y dylech gysylltu os byddwch chi’n symud dramor.

Hawlio Pensiwn y Wladwriaeth a chithau’n byw dramor

Gallwch hawlio Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw y tu allan i'r DU. Cewch y codiadau blynyddol sy’n gysylltiedig-â-chwyddiant dim ond os ydych yn byw:

  • yn Ardal Economaidd Ewrop
  • yn y Swistir
  • mewn gwlad sydd â chytundeb nawdd cymdeithasol â'r DU, ac mae'r cytundeb hwnnw'n caniatáu am gynnydd blynyddol Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU

Os ydych yn byw y tu allan i'r ardaloedd hynny, ni fydd gennych hawl i'r codiadau sydd fel arfer yn digwydd yn flynyddol. Fodd bynnag, os byddwch yn dychwelyd i fyw i’r DU, cynyddir eich Pensiwn y Wladwriaeth i'r lefelau presennol.

Sut i hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth y DU os ydych yn byw dramor

Os ydych yn Brydeiniwr sy’n byw dramor ac wedi gweithio yn y DU yn unig, dylech gysylltu â Chanolfan Pensiwn Ryngwladol i hawlio Pensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych yn Brydeiniwr sy’n byw dramor ac rydych yn gweithio dramor ar hyn o bryd, dylech hawlio Pensiwn y Wladwriaeth drwy’r wlad ble’r ydych dal yn talu cyfraniadau.

Os ydych yn Brydeiniwr sy’n byw dramor ac wedi talu cyfraniadau dramor diwethaf, dylech hawlio Pensiwn y Wladwriaeth drwy’r wlad ble fuoch yn talu cyfraniadau diwethaf.

Sut y telir Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor

Os ydych yn byw dramor, gellir talu Pensiwn y Wladwriaeth i chi yn uniongyrchol i un o’r canlynol:

  • banc yn y wlad lle rydych chi’n byw
  • banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU

Os mai dim ond rhan o’r flwyddyn y byddwch yn ei dreulio dramor

Os ydych yn rhannu'ch amser rhwng y DU a gwlad dramor, bydd yn rhaid i chi ddewis ym mha wlad yr ydych am gael Pensiwn y Wladwriaeth. Nid oes modd talu'r pensiwn mewn un wlad am ran o'r flwyddyn, ac mewn gwlad arall am weddill y flwyddyn.

Os penderfynwch ddychwelyd i fyw i'r DU

Yn y sefyllfa hon, gallwch ofyn i Bensiwn y Wladwriaeth gael ei dalu i gyfrif banc yn y DU.

Talu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth

Bydd eich sefyllfa dreth yn dibynnu ar y canlynol:

  • a ydych yn cael eich ystyried yn unigolyn 'nad yw'n preswylio yn y DU' at ddibenion treth
  • y wlad lle rydych chi’n byw

Os ydych yn treulio rhan o'ch amser yn y DU a’r rhan arall dramor, mae'n debyg y byddwch yn cael eich ystyried yn unigolyn sy’n preswylio yn y DU. Os byddwch yn symud i fyw dramor yn barhaol, mae'n debyg y cewch eich ystyried yn unigolyn nad yw'n preswylio yn y DU.

Os nad ydych yn preswylio yn y DU, bydd eich sefyllfa dreth yn dibynnu ar a ydych yn byw mewn gwlad gyda 'chytundeb trethiant dwbl' â'r DU ai peidio. Mae hyn yn golygu na fydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ar Bensiwn y Wladwriaeth, ond bydd yn drethadwy yn y wlad lle rydych chi’n byw.

Os ydych yn byw mewn gwlad heb ‘gytundeb trethiant dwbl' bydd yn rhaid i chi dalu treth y DU ac efallai y cewch eich trethu eto dramor.

Mae'n syniad da ceisio cyngor am dalu treth ar Bensiwn y Wladwriaeth os ydych yn byw dramor. Gallwch gysylltu â Phreswylfa Cyllid a Thollau EM.

Gwneud cyfraniadau Pensiwn y Wladwriaeth os ydych yn gweithio dramor

Os ydych yn gweithio dramor, mae’n bosib eich bod yn gallu talu i gynllun Pensiwn y Wladwriaeth y wlad lle rydych chi’n gweithio. Gallwch wneud hyn yng ngwledydd Ardal Economaidd Ewrop ac mewn rhai gwledydd eraill, megis Canada a Seland Newydd, lle ceir trefniadau arbennig.

Yn dibynnu ar eich cyfnod yn gweithio dramor, gellir trefnu bod eich cyfraniadau'n cael eu credydu i'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn y DU neu gallech gael dau bensiwn – un o'r DU ac un o'r wlad lle buoch yn gweithio ac yn byw. Penderfynir ar hyn pan gyrhaeddwch oed Pensiwn y Wladwriaeth, gan roi ystyriaeth i ble rydych yn byw.

Gyda phwy y dylech gysylltu cyn symud dramor

Os ydych yn symud dramor i fyw, bydd angen i chi roi gwybod i’r canlynol:

  • Y Ganolfan Bensiynau Ryngwladol (os ydych eisoes yn cael Pensiwn y Wladwriaeth)
  • Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Cyllid a Thollau EM
  • eich Swyddfa Dreth

Bydd gofyn hefyd i chi roi eich cyfeiriad newydd iddynt.

Fel arfer, bydd y Gwasanaeth Pensiwn yn anfon ffurflen atoch ryw bedwar mis cyn i chi gyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth. Bydd y ffurflen hon yn gofyn am unrhyw yswiriant sydd gennych mewn gwledydd eraill ac am eich sefyllfa o ran preswylio mewn gwledydd eraill. Os byddwch yn cyrraedd oed Pensiwn y Wladwriaeth mewn llai na tri mis ac nad ydych wedi cael y ffurflen hon, dylech gysylltu â'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU