Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd cyn 6 Ebrill 1953 neu ddynion a anwyd cyn 6 Ebrill 1951

Os ydych yn fenyw a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1953, neu'n ddyn a gawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1951, gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hwn yn seiliedig ar eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a bydd yn rhoi amcangyfrif i chi o'ch Pensiwn sylfaenol ac ychwanegol y Wladwriaeth.

Gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch i wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth

Os ydych wedi cael llythyr yn ddiweddar i actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i wneud cais am ragolwg:

  • eich rhif YG (a rhif eich diweddar briod neu'ch cyn-briod neu eich diweddar bartner sifil neu'ch cyn-bartner sifil, os yw wedi marw, os ydych wedi ysgaru neu os yw eich partneriaeth sifil wedi'i diddymu)
  • manylion y mathau o gyfraniadau YG rydych yn eu talu (mae hyn yn dibynnu, er enghraifft, a ydych yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig)
  • manylion unrhyw briodasau, partneriaethau sifil (gan gynnwys priodasau wedi'u dirymu neu bartneriaethau sifil wedi'u diddymu)
  • manylion unrhyw amser rydych wedi'i dreulio yn gweithio y tu allan i'r DU
  • manylion eich cyflog presennol os cewch eich talu gan gyflogwr (yn hytrach na bod yn hunangyflogedig)

Os nad ydych yn siŵr pa fath o gyfraniadau YG rydych yn eu talu, gweler 'Cyflwyniad i gyfraniadau Yswiriant Gwladol'.

Sut mae cael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth?

Os ydych yn byw yn y DU, gallwch gael rhagolwg ar-lein, dros y ffôn neu drwy'r post. Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, gallwch gael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post.

Cael rhagolwg ar-lein

Gallwch gael rhagolwg ar-lein os yw pob un o'r amodau canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn byw yn y DU
  • rydych yn fenyw sy'n fwy na phedwar mis i ffwrdd o’ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth (ond gweler isod os ydych yn fenyw sy’n 60 oed neu’n hŷn)
  • nid ydych yn weddw neu mae eich partner sifil yn dal i fyw
  • nid ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto
  • mae gennych gyfrif Porth y Llywodraeth

Er mai nod y Gwasanaeth Pensiwn yw darparu rhagolwg ar-lein i bawb sy'n dymuno defnyddio'r gwasanaeth hwn, nid yw hyn bob amser yn bosibl. Os na all Y Gwasanaeth Pensiwn roi rhagolwg i chi ar-lein, gall anfon rhagolwg atoch drwy'r post.

Os ydych yn fenyw sy’n 60 oed neu’n hŷn

Os ydych yn fenyw sy’n 60 oed neu’n hŷn dylech gysylltu â’r Ganolfan Bensiynau’r Dyfodol cyn ceisio cael rhagolwg drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth

Os ydych wedi cael llythyr yn ddiweddar i actifadu eich cyfrif Porth y Llywodraeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol.

Cael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post

Os na allwch gael rhagolwg ar-lein, gallwch gael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post.

Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help pellach arnoch i ddeall beth mae'n ei olygu, darllenwch 'Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth'.

Yswiriant Gwladol a'ch rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help arnoch i ddeall yr effaith y gall Yswiriant Gwladol ei chael ar eich rhagolwg, darllenwch y canlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU