Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cyngor technegol ar gyfer defnyddio gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein

Mynnwch wybod pam na allwch gadw eich rhagolwg ar-lein a pha systemau TG sy'n gytûn. Hefyd, mynnwch wybod sut i gael eich rhagolwg ar-lein drwy Borth y Llywodraeth a sut i gael cyfrif os nad oes un gennych eisoes.

Ceisio cadw eich rhagolwg ar-lein ar ddisg neu yriant USB

Yn sgîl y gosodiadau diogelwch ar y system TG a ddefnyddir i gynhyrchu rhagolygon ar-lein nid yw'n bosibl cadw rhagolwg ar-lein ar ddisg neu yriant USB. Fodd bynnag, gallwch argraffu'r rhagolwg a'i gadw er mwyn cyfeirio ato yn y dyfodol.

Porwyr gwe a systemau gweithredu cytûn

Gallwch ddefnyddio'r systemau gweithredu a'r porwyr gwe a restrir isod i ddefnyddio gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein. Caiff fersiynau newydd eu profi o ran cydnawsedd wrth iddynt gael eu cyflwyno.

Os byddwch yn cael anawsterau wrth ddefnyddio un o'r opsiynau ar y rhestr, dylech edrych ar ffurfwedd eich cyfrifiadur personol/Mac. Yn benodol, dylech edrych ar y gosodiadau diogelwch.

System weithredu cyfrifiadur personol

Meddalwedd

  • MS Windows (Windows 95 neu ddiweddarach)
  • Windows (NT4 neu ddiweddarach)
  • Linux (Redhat – Gnome a KDE v7.1 neu ddiweddarach)

Porwr y we

  • MS Internet Explorer (gan gynnwys v8)
  • Mozilla
  • Linux (Efallai y bydd porwyr yn nodi bod y GG yn 'anniogel' (caiff hyn ei achosi gan swyddogaeth clo clap Mozilla ac nid yw'n adlewyrchu statws diogelwch y wefan)
  • Netscape Navigator (v4 neu ddiweddarach) – Windows neu Linux
  • Opera (v6) – Linux
  • Firefox

Rhaid bod eich porwr yn cynnwys JavaScript, yn galluogi cwcis ac yn gallu cefnogi SSL 128 bit.

System weithredu MacIntosh

Meddalwedd

  • Mac OS (v7.5 neu ddiweddarach)
  • Porwr y we
  • Safari neu Opera

Rhagolygon Pensiwn y Wladwriaeth a Phorth y Llywodraeth

Mae cyfrif Porth y Llywodraeth yn eich galluogi i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y llywodraeth yn ddiogel, ac mae'n atal defnydd heb awdurdodiad o'ch gwybodaeth bersonol. Er mwyn defnyddio gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein, rhaid i chi gofrestru gyda Phorth y Llywodraeth. Ond gweler isod os ydych yn fenyw a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny neu'n ddyn a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny.

Os oes cyfrif Porth y Llywodraeth gennych

Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar unwaith os oes cyfrif Porth y Llywodraeth gennych eisoes. Efallai fod cyfrif gennych am eich bod yn defnyddio un o wasanaethau ar-lein eraill y llywodraeth (fel unigolyn). Gallwch ddefnyddio eich Enw Defnyddiwr a'ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Ond bydd angen i chi aros am god actifadu ar gyfer y gwasanaeth ar-lein hwn drwy'r post.

Os nad oes cyfrif Porth y Llywodraeth gennych

Os nad oes cyfrif Porth y Llywodraeth gennych, caiff un ei greu ar eich cyfer pan fyddwch yn gwneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein am y tro cyntaf. At ddibenion diogelwch, caiff eich 'Enw Defnyddiwr' ei anfon drwy'r post gan Borth y Llywodraeth, ynghyd â chod actifadu.

Bydd yn rhaid i chi actifadu'r gwasanaeth hwn o fewn 28 diwrnod i gael y cod. Dim ond unwaith y bydd angen i chi ddefnyddio'r cod actifadu.

Menywod a anwyd ar 6 Ebrill 1953 neu ar ôl hynny: dynion a anwyd ar 6 Ebrill 1951 neu ar ôl hynny

Ni fyddwch yn gallu defnyddio gwasanaeth rhagweld Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein tra bo diweddariadau hanfodol yn cael eu gwneud i'r gwasanaeth i adlewyrchu rhai newidiadau i reolau Pensiwn y Wladwriaeth. Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein hyd nes y bydd ar gael i chi ei ddefnyddio. Mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn bwriadu ailgyflwyno gwasanaeth ar-lein y bydd pawb yn gallu ei ddefnyddio erbyn diwedd 2012.

Allweddumynediad llywodraeth y DU