Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os ydych wedi cael eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth a bod angen help arnoch gyda'r termau a ddefnyddir, bydd y dudalen hon yn helpu i'w hegluro. Os oes angen rhagor o help arnoch neu os oes gennych fwy o gwestiynau, defnyddiwch y manylion cyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth.

Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth

Dalen-nodwch y dudalen hon i gael y wybodaeth ddiweddaraf am eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Gall faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y byddwch yn ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fod yn wahanol i'r amcangyfrif a nodir yn eich rhagolwg.

Pam y gallai fod yn wahanol?

Ar 6 Ebrill 2012 dilewyd yr opsiwn i eithrio i gynllun cyfraniadau diffiniedig.

Ar y dyddiad hwnnw, cawsoch eich dychwelyd i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn aelod o'r canlynol:

  • cynllun cyfraniadau diffiniedig y gweithle (a elwir weithiau yn gynllun pensiwn galwedigaethol neu'n gynllun pensiwn cwmni) a eithriwyd cyn 6 Ebrill 2012
  • cynllun pensiwn personol neu gynllun pensiwn cyfranddeiliaid a eithriwyd cyn 6 Ebrill 2012

Os gwnaethoch ymuno â Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2012 oherwydd y newid hwn, ni fydd eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dangos effaith y newid.

Sut y gall y newid hwn effeithio ar yr amcangyfrif o'ch Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Yn eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth rhoddir dau ffigur amcangyfrifedig ar gyfer eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Nid yw'r newid yn effeithio ar y ffigur cyntaf sef Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth sy'n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma.

Fodd bynnag, gall effeithio ar yr ail ffigur sef Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw'r ffigur a ddangosir yn cynnwys unrhyw swm ychwanegol o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael o 6 Ebrill 2012 am nad ydych wedi'ch eithrio mwyach.


Os ydych wedi'ch eithrio ar sail cyflog ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am 'Bensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth' drwy fynd i'r ddolen ganlynol.

Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref – beth ydyw?

Roedd Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref yn diogelu eich hawl i gael Pensiwn y Wladwriaeth os oeddech yn cael budd-daliadau penodol a'ch bod yn gofalu am un o'r canlynol:

  • plentyn
  • unigolyn a oedd yn sâl
  • unigolyn a oedd yn anabl

Mae Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref wedi'i ddisodli gan gredydau ar gyfer pobl a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny.

Gweler 'Gofalu a'ch pensiwn' am ragor o wybodaeth am gredydau i ofalwyr.

Gweler 'Pensiwn y Wladwriaeth i rieni' am ragor o wybodaeth am gredydau i rieni.

Hawliau Pensiwn y Wladwriaeth priod neu bartner

Os nad yw eich priod neu'ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, dylai wneud cais am ragolwg Pensiwn y Wladwriaeth neu gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth ei hun. Os yw eisoes wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad yw'n cael ei Bensiwn y Wladwriaeth, dylai gysylltu â'r Gwasanaeth Pensiwn.

Eithrio o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth

Mae eithrio yn golygu eich bod wedi ymuno â phensiwn cwmni, pensiwn cyfranddeiliaid neu bensiwn personol a all ddisodli'r Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth cyfan, neu ran ohono.

Os oes gostyngiad wedi'i eithrio ar eich rhagolwg, gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM (CThEM).

Rhagor o help i ddeall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth

Os oes angen rhagor o help arnoch i ddeall eich rhagolwg, mae canllaw y gallwch ei lawrlwytho.

Cysylltu â Chanolfan Bensiwn y Dyfodol

Os oes rhagor o gwestiynau gennych am gynnwys eich rhagolwg yna cysylltwch â Chanolfan Bensiwn y Dyfodol.

Yswiriant Gwladol

Am ragor o wybodaeth am sut mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth gweler y dudalen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU