Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n bosib y bydd rheolau Yswiriant Gwladol yn effeithio ar eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth. Yma cewch wybodaeth am y rheolau ar gyfer ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol, Yswiriant Gwladol ar y gyfradd ostyngol, a phryd y mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol. Os oes angen rhagor o help arnoch, gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi.
Hyd yn oed os oes gennych chi eisoes ddigon o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, mae'n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol nes byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi:
Os ydych chi’n talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, cewch roi’r gorau i’w talu os oes gennych ddigon o flynyddoedd cymhwyso i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol, mae’n bosib y bydd hyn yn effeithio ar fudd-daliadau profedigaeth eich gŵr gweddw/gwraig weddw neu’ch partner sifil os byddwch chi’n marw.
Bydd gofyn bod gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso ar gyfer eich bywyd gwaith i sicrhau bod eich gŵr gweddw/gwraig weddw neu’ch partner sifil yn cael budd-dal profedigaeth ar y gyfradd lawn.
Er mwyn cael budd-daliadau profedigaeth ar y gyfradd lawn, fel rheol, bydd angen i 90 y cant o’r blynyddoedd yn eich bywyd gwaith gyfrif fel blynyddoedd cymhwyso. Mae hyn yn wahanol i Bensiwn y Wladwriaeth, lle mai dim ond 30 o flynyddoedd cymhwyso fydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth ar y gyfradd lawn.
Yn y gorffennol, roedd modd i fenywod priod (a rhai gwragedd gweddw) ddewis naill ai:
Er i hyn ddod i ben yn 1977, gallai menywod a oedd eisoes yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol barhau i wneud hynny.
Nid yw cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol yn cyfrif at Bensiwn y Wladwriaeth. Fel rheol, allwch chi ddim cael Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref ar gyfer unrhyw gyfnod lle mae’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi cael eu talu ar gyfradd ostyngol. Fodd bynnag, o fis Ebrill 2010 ymlaen, mae’n bosib y gallwch chi gael y credydau i rieni a gofalwyr sydd wedi disodli’r cynllun Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref.
Byddwch yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol:
Byddwch hefyd yn rhoi’r gorau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol os nad ydych chi, am ddwy flynedd dreth yn olynol:
Os oes angen cyngor arnoch ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.
Fel rheol, ni fyddwch yn cael credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer unrhyw gyfnod rydych chi wedi’i dreulio yn y brifysgol.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai eich bod wedi derbyn credydau Yswiriant Gwladol ar gyfer y blynyddoedd treth pryd y cawsoch eich pen-blwydd yn 16, yn 17 neu’n 18 oed. Gelwir y rhain yn ‘credydau cychwynnol’. Daeth dyfarnu credydau cychwynnol newydd i ben o 6 Ebrill 2010 ymlaen.
Os ydych chi’n gweithio am gyfnod y tu allan i’r DU i gyflogwr o’r DU, ac yn dal i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd y cyfraniadau'n cyfrif ar gyfer eich blynyddoedd cymhwyso.
Ni fydd unrhyw gyfraniadau rydych chi wedi’u talu i system nawdd cymdeithasol gwlad arall pan oeddech yn gweithio y tu allan i’r DU yn cyfrif at eich blynyddoedd cymhwyso. Ni fydd y cyfraniadau hyn wedi cael eu defnyddio i gyfrifo eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth.
Fodd bynnag, bydd eich cyfraniadau nawdd cymdeithasol tramor yn cael eu hystyried pan fyddwch yn hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth os oeddech chi’n gweithio naill ai:
Cysylltwch â'r Ganolfan Bensiynau Ryngwladol am ragor o wybodaeth.
Os yw’ch rhagolwg yn dangos ei bod yn bosib na chewch chi Bensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, efallai y bydd modd i chi ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch wneud hyn drwy wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os nad ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol ambell flwyddyn, er enghraifft, oherwydd nad oeddech yn gweithio, neu am eich bod y tu allan i’r DU. Bydd y manylion yn cael eu cynnwys yn eich rhagolwg os yw hyn yn berthnasol i chi.
Ceir terfynau amser ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol. Fel rheol, gallwch lenwi’r bylchau yn y chwe blwyddyn dreth flaenorol. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod rhagor.
Er 6 Ebrill 2009, mae rheolau newydd wedi caniatáu i rai pobl dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ychwanegol. Gellir talu’r rhain yn ychwanegol at unrhyw gyfraniadau rydych chi wedi eu talu am y chwe blynedd ddiwethaf. Mae'n bosib y gallech chi wneud hyn am hyd at chwe blynedd o 6 Ebrill 1975 ymlaen:
Allwch chi ddim talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer unrhyw flwyddyn dreth os ydych chi’n talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd ostyngol drwy’r flwyddyn gyfan.
Ewch i ‘Oes angen i chi ychwanegu at eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol?’ i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau eraill am eich credydau neu’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cysylltwch â Chyllid a Thollau EM.