Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae dwy ffordd y gallwch gael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth. Gallwch ofyn am gyfriflen dros y ffôn neu drwy'r post. Mynnwch wybod pa wybodaeth y bydd ei hangen arnoch, pwy i'w ffonio, neu sut i lawrlwytho ffurflen a ble i'w hanfon.
Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i wneud cais am gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth:
Gallwch ffonio Canolfan Bensiwn y Dyfodol i gael cyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth. Cyn i chi ffonio, gwnewch yn siŵr bod gennych eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law. Bydd angen y wybodaeth hon ar gynghorwyr er mwyn gallu gweld eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Bydd Canolfan Bensiwn y Dyfodol yn anfon cyfriflen atoch drwy'r post o fewn tua 10 diwrnod gwaith.
Os ydych yn byw yn y DU, gallwch ffonio Canolfan Bensiwn y Dyfodol ar 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm.
Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, dylech ffonio +44 191 218 3600 (ffôn testun +44 191 218 2051). Mae'r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.
I gael cyfriflen drwy'r post, bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gais a'i chwblhau. Isod, ceir dolenni i ddau fersiwn o'r ffurflen gais:
Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
England
Efallai y bydd yn cymryd tua 10 diwrnod gwaith i baratoi eich cyfriflen o'r dyddiad y bydd eich cais yn cyrraedd.