Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd eich rhagolwg ar-lein yn rhoi amcangyfrif i chi o'ch Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar y rheolau presennol. Darllenwch ymlaen i gael manylion am newidiadau yn y dyfodol a all effeithio ar ychydig o'r wybodaeth yn eich rhagolwg ar-lein.
O ganlyniad i welliannau sy'n cael eu gwneud i'r gwasanaethau ar-lein, ni fydd y gwasanaeth rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein ar gael yn ystod y penwythnosau canlynol:
Gallwch gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth ar-lein os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol:
Fodd bynnag, bydd angen i chi gofrestru gyda Phorth y Llywodraeth bob tro y byddwch am ddefnyddio'r gwasanaeth, hyd yn oed os ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth o'r blaen. Am y rheswm hwn, mae'r Gwasanaeth Pensiwn yn awgrymu eich bod yn gwneud cais am eich rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post yn hytrach na defnyddio'r gwasanaeth ar-lein.
Ar hyn o bryd ni allwch ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein i gael amcangyfrif o'ch Pensiwn y Wladwriaeth os ydych:
Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth hyd nes y bydd y gwasanaeth ar-lein ar gael i chi ei ddefnyddio eto.
Yn y cyfamser, gallwch gael amcangyfrif o'r Pensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael drwy ddefnyddio'r proffiliwr Pensiwn y Wladwriaeth neu ofyn am gyfriflen Pensiwn y Wladwriaeth.
Gall faint o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth fod yn wahanol i'r amcangyfrif a nodir yn eich rhagolwg.
Pam y gallai fod yn wahanol?
Ar 6 Ebrill 2012 dilewyd yr opsiwn i eithrio i gynllun cyfraniadau diffiniedig.
Ar y dyddiad hwnnw, cawsoch eich dychwelyd i Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych yn aelod o'r canlynol:
Os gwnaethoch ymuno â Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2012 oherwydd y newid hwn, ni fydd eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth yn dangos effaith y newid.
Sut y gall y newid hwn effeithio ar yr amcangyfrif o'ch Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth
Yn eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth rhoddir dau ffigur amcangyfrifedig ar gyfer eich Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Nid yw'r newid yn effeithio ar y ffigur cyntaf sef Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth sy'n seiliedig ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol hyd yma.
Fodd bynnag, gall effeithio ar yr ail ffigur sef Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Nid yw'r ffigur a ddangosir yn cynnwys unrhyw swm ychwanegol o Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth y gallech ei gael o 6 Ebrill 2012 am nad ydych wedi'ch eithrio mwyach.
Os ydych wedi'ch eithrio ar sail cyflog ni fydd y newid hwn yn effeithio arnoch.
Os oes angen cyngor ar fudd-daliadau, pensiynau a chredydau arnoch, defnyddiwch y gyfrifiannell ar-lein i weld beth y gallech ei gael
I weld ffeiliau PDF bydd angen Adobe Reader arnoch. Mae’r rhaglen ar gael yn rhwydd os nad yw gennych eisoes