Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth dros y ffôn neu drwy'r post i fenywod a anwyd cyn 6 Ebrill 1953 neu ddynion a anwyd cyn 6 Ebrill 1951

Os hoffech gael rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth, ond nid ydych am ddefnyddio'r gwasanaeth ar-lein neu ni allwch eu defnyddio, gallwch gael rhagolwg dros y ffôn neu drwy'r post. Mynnwch wybod pwy i'w ffonio neu sut i lawrlwytho ffurflen a ble i'w hanfon.

Cael rhagolwg dros y ffôn

Gallwch ffonio Canolfan Bensiwn y Dyfodol i gael rhagolwg os yw'r ddau amod canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o'ch oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • nid ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto

Bydd Canolfan Bensiwn y Dyfodol yn llenwi'r ffurflen i chi ac yn anfon rhagolwg atoch drwy'r post o fewn tua 10 diwrnod gwaith.

Os ydych yn byw yn y DU, gallwch ffonio Canolfan Bensiwn y Dyfodol ar 0845 3000 168 (ffôn testun 0845 3000 169). Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am ac 8.00 pm.

Os ydych yn byw y tu allan i'r DU, dylech ffonio +44 191 218 3600 (ffôn testun +44 191 218 2051). Mae'r llinell ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 5.00 pm.

Cael rhagolwg drwy'r post

I gael rhagolwg drwy'r post, mae'n rhaid i'r ddau amod canlynol fod yn berthnasol i chi:

  • rydych yn fwy na 30 diwrnod i ffwrdd o oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • nid ydych wedi cyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth eto

Bydd angen i chi lawrlwytho ffurflen gais a'i chwblhau. Isod, ceir dolenni i ddau fersiwn o'r ffurflen gais:

  • dylai'r fersiwn cyntaf gael ei argraffu a'i gwblhau â llaw
  • gall yr ail fersiwn gael ei gwblhau ar eich cyfrifiadur cyn ei argraffu

Dylech anfon y ffurflen rydych wedi'i chwblhau i'r:

Future Pension Centre
The Pension Service
Tyneview Park
Whitley Road
Newcastle upon Tyne
NE98 1BA
England

Efallai y bydd yn cymryd tua 10 diwrnod gwaith i baratoi eich rhagolwg o'r dyddiad y bydd eich cais yn cyrraedd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU