Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth yw rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth?

Mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn rhoi gwybodaeth fanylach i chi am faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’n seiliedig ar gofnod eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol. Yma cewch ragor o wybodaeth am eich rhagolwg.

Beth mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn ei gynnwys?

Mae rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth yn rhoi amcangyfrif i chi o'r ddau bensiwn hyn:

  • Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth (a elwir hefyd yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth ac a elwid yn flaenorol yn Gynllun Pensiwn y Wladwriaeth ar sail Enillion (SERPS))

Gweler ‘Deall eich rhagolwg Pensiwn y Wladwriaeth’ i gael gwybodaeth bwysig am newidiadau mewn rheolau a allai effeithio ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Pa wybodaeth gewch chi mewn rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth?

Yn benodol, bydd eich rhagolwg yn rhoi’r wybodaeth ganlynol i chi:

  • nifer y blynyddoedd cymhwyso (nifer y blynyddoedd rydych wedi gwneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG), neu yr ystyrir eich bod wedi talu neu wedi cael credydau YG) ar gofnod eich cyfraniadau YG ar hyn o bryd
  • amcangyfrif o werth eich Pensiwn y Wladwriaeth ar hyn o bryd, yn seiliedig ar yr wybodaeth ar gofnod eich cyfraniadau YG ar hyn o bryd
  • amcangyfrif o faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech chi ei gael ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ar sail y rhagdybiaethau a wnaed ynghylch y cyfraniadau YG y gallech eu gwneud neu’r credydau YG y gallech eu cael rhwng dyddiad y rhagolwg a'r dyddiad y byddwch chi’n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
  • rhagolwg o faint y gallech ei gael drwy ohirio hawlio eich Pensiwn y Wladwriaeth
  • gwybodaeth am sut y gallech gynyddu'ch Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth
  • yr effaith ar Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth os ydych wedi'ch contractio allan, naill ai drwy gynllun pensiwn cwmni neu bensiwn personol
  • gwybodaeth ynghylch a allwch chi gynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth drwy ddefnyddio cofnod cyfraniadau YG eich diweddar gymar neu'ch cymar blaenorol, neu eich diweddar bartner sifil neu'ch partner sifil blaenorol (os yw'n berthnasol)

Gweler ‘Cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth’ i gael rhagor o wybodaeth am sut mae cael rhagolwg o Bensiwn y Wladwriaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU