Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn cynnwys dwy ran, sef Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth a Phensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Bydd pobl yn cael gwahanol swm o bob un. Yma, cewch wybod beth ydynt a phwy fydd yn eu cael.
Yn 2012-13, £107.45 yr wythnos yw Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth ar gyfer unigolyn. Bydd rhai pobl yn cael mwy na hyn, oherwydd eu bod yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth ar ben Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Sylfaenol
Bydd y rhan fwyaf o bobl (ond nid pawb) yn cael rhywfaint o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, a bydd y swm y bydd pobl yn ei gael yn amrywio. Bydd faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar nifer y blynyddoedd cymhwyso y byddwch yn eu cronni.
Ychwanegol
Bydd rhai pobl hefyd yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.
Bydd a fyddwch yn ei gael a faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar sawl peth,
gan gynnwys eich cofnod Yswiriant Gwladol a faint y byddwch yn ei ennill wrth weithio.
Gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yr un pryd â Phensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar 6 Ebrill 2010 neu ar ôl hynny, bydd angen 30 o flynyddoedd cymhwyso arnoch i gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth Golyga hyn na fyddwch yn cronni mwy o hawl i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, ond os byddwch yn gweithio, bydd yn rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol nes y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae hwn yn gymwys hyd yn oed os oes eisoes gennych 30 mlynedd o gyfraniadau.
Yn wahanol i Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, nid oes terfyn ar nifer y blynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth. Gallwch ddal ati i gyfrannu at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth nes y byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Unwaith i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ni fyddwch bellach yn talu Yswiriant Gwladol.
Os oes arnoch angen mwy na 30 o flynyddoedd cymhwyso
Mae ar rai pobl angen lleiafswm o flynyddoedd cymhwyso i gael unrhyw Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth, er enghraifft:
Mae Dan yn dechrau cael blynyddoedd cymhwyso yn 16 mlwydd oed, wrth iddo hyfforddi. Mae'n dechrau gweithio yn 18 mlwydd oed ac mae’n cael ei gyflogi’n llawn amser nes ei fod yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sef 68 iddo ef. Mae'n talu Yswiriant Gwladol am bob blwyddyn y mae'n gweithio sy’n cynnwys cyfraniadau tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth am bob un o’r blynyddoedd hyn. Mae hyn yn golygu: