Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut bydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei gyfrifo

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dod yn gymwys i rywfaint o Bensiwn y Wladwriaeth. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar sawl blwyddyn gymhwyso o gyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi’i chronni. Yma cewch wybod mwy ynghylch sut y cyfrifir Pensiwn y Wladwriaeth.

Cronni blynyddoedd cymhwyso

Bydd faint o Bensiwn y Wladwriaeth gewch chi’n dibynnu ar sawl blwyddyn gymhwyso Yswiriant Gwladol sydd gennych. Bydd pob blwyddyn gymhwyso yn cyfrif tuag at Bensiwn y Wladwriaeth.

Byddwch chi fel arfer â blynyddoedd cymhwyso os ydych chi:

  • mewn gwaith cyflogedig amser llawn neu ran amser
  • yn hunangyflogedig
  • yn gofalu am rywun am dros 20 awr yr wythnos
  • yn cael budd-dal plant
  • yn cael rhai budd-daliadau penodol
  • yn dilyn hyfforddiant amser llawn

Mae’r gweithgareddau hyn yn golygu eich bod un ai’n talu Yswiriant Gwladol neu’n cael eich credydu ag Yswiriant Gwladol gan y llywodraeth. Cewch flwyddyn gymhwyso am bob blwyddyn lle byddwch wedi cronni digon o Yswiriant Gwladol.

I gael Pensiwn sylfaenol llawn y Wladwriaeth, mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl gael 30 o flynyddoedd cymhwyso. I wneud yn siŵr bod gennych chi ddigon o flynyddoedd cymhwyso, mae’n bosib y gallwch ychwanegu blynyddoedd drwy wneud taliadau ychwanegol a elwir yn gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Bydd yn dal yn rhaid i chi barhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol nes i chi gyrraedd eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni waeth faint o flynyddoedd cymhwyso sydd gennych chi. Ar ôl bod gennych 30 o flynyddoedd cymhwyso, mae’n bosib y byddwch yn dal i allu i wneud cyfraniadau tuag at Bensiwn ychwanegol y Wladwriaeth.

Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, bydd y llywodraeth yn edrych ar eich cofnod Yswiriant Gwladol i gyfrifo faint o arian y mae gennych chi hawl i’w gael. Os bydd gennych chi lai na 30 o flynyddoedd cymhwyso, cewch lai na’r swm llawn o Bensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.

Blynyddoedd cymhwyso i bobl a gyrhaeddodd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 6 Ebrill 2010

Fel arfer, mae ar ddynion a aned cyn 6 Ebrill 1945 angen 44 o flynyddoedd cymhwyso. Fel arfer, mae ar fenywod a aned cyn 6 Ebrill 1950 angen 39 o flynyddoedd cymhwyso. Gweler ‘Bod yn gymwys i gael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth’ i gael gwybod mwy.

Cyfranu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth: mythau a ffeithiau

Gall y system ar gyfer cyfrannu tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth fod yn gymhleth. Dyma rai mythau cyffredin ynghylch cronni Pensiwn y Wladwriaeth – a’r ffeithiau.

Myth: "Rhaid i chi fod yn gweithio i wneud cyfraniadau Yswiriant Gwladol"

Ffaith: Fel arfer gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn wirfoddol, hyd yn oed os nad ydych yn gweithio, ond ceir cyfyngiadau amser. Ond, efallai na fydd angen i chi wneud hyn os ydych chi’n cael credydau Yswiriant Gwladol gan y llywodraeth. Er enghraifft, efallai y cewch chi gredydau os ydych chi:

  • yn ddi-waith ond wrthi'n chwilio am waith
  • yn hawlio rhai o Fudd-daliadau’r Wladwriaeth
  • yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Myth: "Does dim diben cynilo arian ar gyfer ymddeol – yr unig beth mae hyn yn ei olygu yw eich bod yn cael llai o Bensiwn y Wladwriaeth"

Ffaith: Ni fydd y swm y byddwch yn ei gynilo yn cael dim effaith ar Bensiwn y Wladwriaeth. Ni waeth a oes gennych chi gyfrifon cynilo, pensiynau personol, eiddo neu ffynonellau eraill o incwm, bydd eich Pensiwn gan y Wladwriaeth yn parhau'r un fath.

Mae pobl weithiau’n drysu rhwng Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn, sy’n seiliedig ar brawf modd. Os ydych chi ar incwm isel pan fyddwch wedi ymddeol, efallai y cewch Gredyd Pensiwn i ychwanegu at eich incwm o Bensiwn y Wladwriaeth.

Os ydych chi dros 65 gallwch barhau i dderbyn Credyd Pensiwn hyd yn oed os yw eich incwm (gan gynnwys pensiwn a chynilion) yn:

  • hyd at tua £189 yr wythnos ar gyfer unigolyn sengl
  • hyd at tua £277 ar gyfer cyplau

Y mae’r £10,000 cyntaf o gynilion yn cael ei llwyr anwybyddu, ar gyfer cynilion yn uwch nag hwn byddwn yn cymryd £1 yr wythnos i ystyriaeth am bob £500 neu ran £500. Mae hyn yn golygu y dylech fod mewn gwell sefyllfa na phetaech chi heb gynilo dim.

Rhoi gwybod i’r Gwasanaeth Pensiwn am newid mewn amgylchiadau

Yma cewch wybod beth y mae angen i chi roi gwybod amdano, megis newid cyfeiriad neu fanylion banc.

Allweddumynediad llywodraeth y DU