Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gweithio ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth – eich opsiynau

Nid yw’r ffaith eich bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu ei bod yn rhaid i chi roi'r gorau i weithio. Gallwch barhau i weithio a chael Pensiwn y Wladwriaeth os dymunwch. Yma, cewch wybod am fanteision gweithio am gyfnod hwy a'r opsiynau sydd ar gael i chi.

Gweld pryd fyddwch chi'n cael Pensiwn y Wladwriaeth a chynllunio eich sefyllfa ariannol

Mae’r oedran cynharaf y gallwch gael Pensiwn y Wladwriaeth yn codi. Gallwch weld pryd fyddwch chi’n cael Pensiwn y Wladwriaeth ar ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Pan fyddwch chi'n penderfynu a ydych am weithio ar ôl cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi gyfrifo faint o arian fydd gennych chi pan fyddwch yn hŷn.

Ystyried eich opsiynau cyflogaeth

Os ydych chi'n penderfynu eich bod am barhau i weithio, yna efallai y byddwch yn awyddus i ystyried opsiynau gweithio hyblyg. Defnyddir y geiriau 'gweithio hyblyg' i ddisgrifio unrhyw batrwm gweithio sydd wedi'i addasu er mwyn diwallu eich anghenion chi. Mae hyn yn cynnwys lleihau eich oriau er mwyn cael rhagor o amser i chi'ch hun.

Efallai y byddwch chi'n penderfynu eich bod am chwilio am swydd newydd a gwneud rhywbeth gwahanol. Neu efallai y byddwch chi'n penderfynu dechrau gweithio i chi'ch hun.

Cymerwch olwg ar yr astudiaethau achos canlynol i weld sut mae gwahanol bobl wedi mynd ati i barhau i weithio pan oeddent yn hŷn.

Os nad oes arnoch angen yr incwm ychwanegol ond eich bod am aros yn weithgar ac yn rhan o fyd gwaith, gallech ystyried gwirfoddoli.

Cael gwybod y manteision i barhau i weithio

Os byddwch chi'n penderfynu dal ati i weithio, mae’n debygol y byddwch yn mynd â rhagor o arian adref gyda chi oherwydd ni fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol o gwbl pan fyddwch chi dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os byddwch yn parhau i weithio ar ôl oedran Pensiwn y Wladwriaeth gallwch barhau i dderbyn Pensiwn y Wladwriaeth gydag unrhyw enillion os dymunwch. Fodd bynnag, os yw’n well gennych ohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth am y tro, gallwch gynyddu’r swm a gewch pan fyddwch yn penderfynu hawlio.

Newidiadau i’r gyfraith ynghylch ymddeol

Mae’r oedran ymddeol diofyn, a oedd yn caniatáu eich cyflogwr i’ch gorfodi chi i ymddeol pan fyddwch yn 65 oed, yn cael ei ddileu.

Os na wnaethoch dderbyn rhybudd o’ch cyflogwr cyn 6 Ebrill 2011, ni allwch gael eich gorfodi i ymddeol gan ddefnyddio’r oedran ymddeol diofyn. Mewn sawl achos, golyga hyn y dylech allu ymddeol pan fydd yr amser yn iawn i chi. Gall eich cyflogwr dim ond eich gorfodi i ymddeol os gall hyn gael ei gyfiawnhau’n wrthrychol yn yr amgylchiadau penodol. Os tybiwch fod eich cyflogwr yn eich trin yn annheg oherwydd eich oedran, gallwch herio hyn mewn tribiwnlys cyflogaeth. Gweler 'Gwahaniaethu ar sail oedran' i gael rhagor o wybodaeth am gyfiawnhad gwrthrychol.

Chi sy'n gyfrifol am siarad â'ch cyflogwr am eich opsiynau ymddeol. Os ydych chi am barhau i weithio gall fod yn bosibl i chi newid eich patrwm a'ch oriau gwaith.

Ni fydd y newid hwn yn y gyfraith ynghylch yr oedran ymddeol diofyn yn effeithio ar oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os nad ydych yn siŵr faint yw eich Pensiwn y Wladwriaeth gallwch gael gwybod drwy ddefnyddio cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU