Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch yn dewis parhau i weithio wrth i chi fynd yn hŷn, mae sawl opsiwn ar gael. Efallai yr hoffech ystyried lleihau eich oriau, neu ddod o hyd i swydd yn gwneud rhywbeth gwahanol. Dyma rai enghreifftiau o sut mae pobl fel chi wedi mynd ati i barhau i weithio pan oeddent yn hŷn.
Oedran: 73
Mae Ben yn rhedeg cwmni llwyddiannus sy'n darparu cynfasau ar gyfer cychod. Ar ôl dioddef rhwystr ariannol ychydig o amser cyn yr adeg roedd wedi bwriadu ymddeol, penderfynodd barhau i weithio.
"Gan fy mod i'n hunangyflogedig, roeddwn i wedi buddsoddi arian mewn cronfa er mwyn darparu ar fy nghyfer i a'm gwraig pan fyddwn i'n troi'n 65 oed. Yn anffodus, pan ddaeth yr amser i hawlio'r arian, nid oedd wedi aeddfedu i'r graddau roedden ni wedi'u disgwyl. Pan eisteddais i a'm gwraig i lawr i wneud y symiau gwelson ni fod ymddeoliad eithaf diflas o'n blaenau."
"Rwy'n dal i ennill digon i sicrhau y galla i a'm gwraig fwynhau safon byw dda"
"Roeddwn i'n gwybod bod angen i mi barhau i weithio er mwyn i ni allu mwynhau ein blynyddoedd hŷn. Gan fy mod i wastad wedi bod yn heini ac yn iach, cadw fy musnes i fynd oedd yr opsiwn gorau i mi."
Rwyf wedi lleihau faint o waith rwy'n ei wneud yn raddol, gan drosglwyddo'r gwaith i rai o'r bobl ifanc yn y maes hwn. Rwy'n dal i ennill mwy na digon i sicrhau y galla i a'm gwraig fwynhau safon byw dda - mynd allan am brydau bwyd, dawnsio a gwyliau bob blwyddyn.
Rydyn ni'n dau'n hawlio Pensiwn y Wladwriaeth nawr, ond mae'r cronfeydd ychwanegol rwyf wedi'u cynilo dros y pum mlynedd diwethaf yn rhoi tawelwch meddwl i mi na fydd angen i ni straffaglu pan fydda i'n rhoi'r gorau i'r gwaith yn gyfan gwbl."
Oedran: 68
Pan gyrhaeddodd Esther oedran Pensiwn y Wladwriaeth penderfynodd ddod o hyd i ffordd o barhau i ennill arian tra'n gwneud rhywbeth mae'n dwli arno.
"Rwyf wedi gweithio mewn archfarchnad am y tri deg mlynedd diwethaf, yn gwneud popeth o lenwi'r silffoedd, i weithio wrth y mannau talu, y tu ôl i gownter y deli ac yn y pen draw, cael fy nyrchafu'n oruchwylydd llawr y siop."
"Rwy'n cael cadw'n heini a gwneud rhywbeth rwy'n dwli arno”
Wrth i mi nesáu at oedran ymddeol, roeddwn i'n gwybod fy mod i am barhau i weithio, ond roeddwn i wedi cael digon o fywyd yn yr archfarchnad. Gan fy mod i wastad wedi dwli ar arddwriaeth, penderfynais i ofyn a oedd unrhyw swyddi ar gael yn y ganolfan arddio leol. Doedd dim, ond gadawais i fy enw a'm rhif ffôn gyda nhw ac, ar ôl ychydig fisoedd, gwnaethon nhw ffonio a chynnig cyfweliad i mi. Fe es i, a dydw i erioed wedi difaru.
Rwyf nawr yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn y ganolfan arddio. Mae'r cyflog tipyn yn llai wrth gwrs, ond mae'n braf cael rhywbeth ar ben fy mhensiwn. Gorau oll, rwy'n cael cadw'n heini a gwneud rhywbeth rwy'n dwli arno."
Oedran: 67
Mae Indra'n gweithio mewn siop leol ac nid yw'n bwriadu gadael eto. Mae gwaith rhan-amser yn ei helpu i ofalu am ei wraig sy'n anabl drwy gynnig cydbwysedd rhwng ei waith a'i fywyd cartref.
"Yn 63 oed, gwnes i ymddeol o'm swydd gyda banc ar y stryd fawr. Ar ôl chwe mis o deimlo braidd yn ddiwerth, penderfynais chwilio am swydd ran-amser. Rwyf wedi bod yn gweithio yn fy swydd newydd fel cynorthwy-ydd gwerthu ers ychydig dros dair blynedd bellach.
"Yn ogystal â'r manteision ariannol rwy'n gweithio gyda thîm da"
Mae gweithio mewn siop leol yn golygu nad oes gen i'r ffwdan a'r oriau hir a oedd yn dechrau mynd yn strach yn y banc. Cafodd fy ngwraig lawdriniaeth rai blynyddoedd yn ôl sy'n golygu ei bod hi'n cael trafferth symud o gwmpas. Er ein bod ni'n ffodus i gael help gan ein teulu, rwy'n hoffi bod gartref ychydig ddiwrnodau bob wythnos er mwyn gofalu amdani a rhoi trefn ar y tŷ.
Rwy'n hapus i barhau i weithio cyhyd ag y galla i. Mae'r arian ychwanegol yn sicr yn helpu ac rwy'n hoffi teimlo fy mod i'n gwneud rhywbeth defnyddiol. Rwyf hefyd yn gwybod, drwy beidio â hawlio Pensiwn y Wladwriaeth ar unwaith, y bydda i i'n cael mwy pan fydda i'n penderfynu ymddeol.
Oedran: 66
Gweithiodd Alice ym maes trafnidiaeth gyhoeddus am sawl blwyddyn, ond oherwydd arthritis, penderfynodd hi gymryd swydd sy'n llai llafurus.
"Ers fy nhridegau hwyr rwyf wedi gwneud swyddi amrywiol yn y depo bysiau lleol. Yn anffodus, yn fy chwedegau cynnar cefais ddiagnosis o arthritis, sydd wedi gwaethygu, felly roedd hi'n fwy anodd bod ar fy nhraed a symud o gwmpas. Roeddwn i'n gwybod fy mod i'n dal am weithio ond doeddwn i ddim yn siŵr pa opsiynau oedd gen i.
"Yn fy swydd newydd, rwyf ar fy eistedd fel arfer, sy'n golygu y galla i barhau i ennill bywoliaeth"
Am resymau iechyd, penderfynais i gymryd ymddeoliad cynnar o'r bysiau. Roedd gen i bensiwn gweddol dda, sydd wedi golygu y galla i fforddio gweithio'n rhan-amser mewn archfarchnad nawr. Mae cyfeillgarwch y timau amrywiol yn wych, ac oherwydd y galla i eistedd wrth y man talu, galla i barhau i ennill arian heb fod ar fy nhraed drwy'r dydd, sydd wir yn fy helpu i reoli fy nghyflwr.