Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae mudiadau gwirfoddol yn sylweddoli bod pobl hŷn yn dod â chyfoeth o sgiliau ac arbenigedd i wirfoddoli. Drwy drosglwyddo eich sgiliau a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu, gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau newydd a gwella eich lefelau iechyd a ffitrwydd cyffredinol.
P'un a ydych chi'n dal i weithio neu wedi ymddeol, mae nifer o bethau i'w cofio os penderfynwch ddod yn wirfoddolwr. Bydd angen i chi gyfrifo faint o amser y gallwch ei roi, a pha mor hyblyg y bydd angen i'ch oriau fod. Bydd y rhan fwyaf o elusennau mawr yn talu costau teithio. Ond os ydych chi'n ystyried gwirfoddoli gyda mudiad llai, efallai y bydd rhaid i chi dalu am eich teithio eich hun.
Mae llawer o wahanol brosiectau y gallwch gymryd rhan gyda hwy'n lleol. Gall neilltuo awr neu ddwy yr wythnos yn unig wneud gwahaniaeth go iawn yn eich ardal leol.
Yn aml, mae pobl hŷn yn addas ar gyfer swyddogaethau mentora neu hyfforddi. Gallwch ddefnyddio eich sgiliau a'ch profiadau bywyd gwerthfawr i helpu pobl eraill i ddatblygu eu sgiliau ac ennill hyder. Yn gyfnewid am hynny, gallwch ddatblygu eich sgiliau ymwneud-â-phobl eich hun ac aros yn weithgar.
Mae sawl ffordd y gallwch helpu'r amgylchedd drwy wirfoddoli. Yn aml, rhedir prosiectau cadwraeth yn lleol gan gynghorau a mudiadau gwirfoddol. Hefyd, ceir 'campfeydd gwyrdd' a drefnir gan Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, sy'n eich helpu i ddod yn heini a helpu ar yr un pryd.
Gellir cael llawer o foddhad o weithio gydag anifeiliaid a gall ddarparu meysydd diddordeb newydd. Mae nifer o elusennau anifeiliaid sy'n cynnig cyfleoedd i wirfoddoli, o weithio'n uniongyrchol gydag anifeiliaid mewn canolfannau achub i helpu i drefnu digwyddiadau i elusennau. Gallwch hefyd helpu i fonitro'r bywyd gwyllt yn eich ardal leol.
Gyda'r math hwn o wirfoddoli, bydd gweithiwr yn gwirfoddoli gyda chefnogaeth y cyflogwr, naill ai yn ystod oriau gwaith neu y tu allan iddynt. Os ydych chi'n ystyried sefydlu cynllun gwirfoddoli yn y gwaith, bydd yn rhaid i chi benderfynu sut fyddech chi'n hoffi cymryd rhan. Hefyd bydd yn rhaid i chi benderfynu beth rydych chi eisiau ei wneud i helpu.
Sefydliad sy'n darparu cyfleoedd gwirfoddoli i bobl dros hanner cant oed yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yw'r Rhaglen Wirfoddoli i Bobl Hŷn a Phobl sydd wedi Ymddeol. Caiff gwirfoddolwyr wneud beth bynnag y dymunant, a dewis pryd i'w wneud. Ceir amrywiaeth eang o weithgareddau a phrosiectau – mewn grwpiau neu'n unigol. Mae'r gweithgareddau'n cynnwys gwau, prosiectau amgylcheddol, gwneud ffrindiau a llawer mwy.