Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall ymddeol fod yn gyfle rhagorol i wneud y pethau yr ydych wastad wedi dymuno'u gwneud, neu efallai eich bod yn chwilio am syniadau am weithgareddau nad oeddech chi erioed wedi meddwl y byddech chi'n eu mwynhau. Sut bynnag, mae amrywiaeth o gyfleoedd y gallech eu mwynhau ar ôl ymddeol.
Mae mudiadau gwirfoddol yn sylweddoli bod pobl hŷn yn dod â chyfoeth o sgiliau ac arbenigedd i wirfoddoli. Drwy drosglwyddo eich sgiliau a'r hyn yr ydych wedi'i ddysgu, gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae gwirfoddoli hefyd yn ffordd dda o wneud ffrindiau newydd a gwella eich lefelau iechyd a ffitrwydd cyffredinol.
Gall dysgu fod yn hwyl ac yn ffordd wych o ymlacio a chymdeithasu. Does dim rhaid iddo fod yn ffurfiol a does dim rhaid i chi ddysgu ar gyfer cymhwyster. Mae cyrsiau am ddim yn hawdd dod o hyd iddynt ac os mai dysgu am hwyl yw'ch bwriad, gallwch ddewis unrhyw beth sydd o ddiddordeb i chi.
Os ydych chi dros 50, mae'n bosib y bydd gennych fwy o amser i ddilyn eich diddordebau. Neu efallai eich bod yn chwilio am ddiddordeb neu weithgarwch newydd i'w ddilyn yn eich amser rhydd.
Nid yw cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn golygu bod rhaid i chi roi'r gorau i weithio - boed hwnnw'n waith cyflog neu'n waith gwirfoddol. Cewch ddewis dal i weithio tra'n derbyn Pensiwn y Wladwriaeth, neu ohirio hawlio'ch Pensiwn a chael mwy yn nes ymlaen.