Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymddeol yn gynnar - yr effaith ar eich pensiwn

Os byddwch chi'n ymddeol yn gynnar neu'n rhoi'r gorau i'ch gwaith oherwydd i’ch swydd gael ei dileu, oherwydd afiechyd, neu am resymau eraill, mae'n bosib y bydd hynny'n effeithio ar Bensiwn y Wladwriaeth a phensiynau eraill y mae gennych yr hawl iddynt. Bydd angen i chi wybod beth yw'r holl opsiynau sydd gennych ar gyfer pensiynau er mwyn sicrhau bod gennych ddigon i fyw arno ar ôl i chi ymddeol.

Oedran ymddeol a hawlio'ch pensiwn

Er y cewch ymddeol unrhyw bryd, dim ond ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth y cewch gael Pensiwn y Wladwriaeth.

55 mlwydd oed yw'r oedran cynharaf y gallwch hawlio pensiwn cwmni neu bensiwn personol – ond bydd hyn yn dibynnu ar reolau eich cynllun pensiwn. Os byddwch yn ymddeol oherwydd afiechyd, mae’n bosib y gallwch hawlio’ch buddion cyn yr oedran hwn.

Os ydych chi’n dioddef o afiechyd difrifol, a bod eich disgwyliad oes yn llai na blwyddyn o ganlyniad i’r afiechyd, gallwch ymddeol unrhyw bryd. Gallwch gymryd hyd at 100 y cant o’ch cronfa bensiwn fel taliad unswm di-dreth. Os ydych chi’n briod, neu os oes gennych chi bartner sifil, gall 50 y cant o’r gronfa bensiwn gael ei ddal gan y cynllun. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio er mwyn darparu pensiwn i’ch gweddw neu’ch partner.

Newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Mae’r oedran y byddwch yn cael eich Pensiwn y Wladwriaeth yn cynyddu. I gael gwybod mwy, gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Effaith ymddeol yn gynnar ar Bensiwn y Wladwriaeth

Os byddwch yn ymddeol cyn oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ni fyddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth yn syth. Pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai y byddwch yn cael llai na phetaech wedi parhau i weithio, oherwydd eich bod yn cael Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth drwy gronni digon o 'flynyddoedd cymwys'. Blwyddyn gymhwyso yw blwyddyn dreth lle rydych wedi talu digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar eich enillion. Mae hefyd yn cynnwys blwyddyn ble yr ydych yn cael eich trin fel petaech wedi talu digon, neu wedi cael eich credydu gyda chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Rhoi hwb i’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Ar hyn o bryd, efallai y gallwch wella’ch cofnod cyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn sawl ffordd:

  • efallai y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol
  • os byddwch yn gwneud gwaith rhan amser neu waith achlysurol ac yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, efallai y bydd hyn yn ychwanegu at eich cofnod o gyfraniadau

Pryd gewch chi hawlio pensiwn personol neu bensiwn cwmni?

Bydd angen i chi holi ynghylch eich opsiynau ar gyfer ymddeol yn gynnar gyda chynllun pensiwn eich cwmni, eich cynllun pensiwn personol neu eich cynllun pensiwn cyfranddeiliaid. Mae'r rheolau'n amrywio o ran a allwch chi ymddeol a phryd y gallwch chi ymddeol. Er enghraifft, mae nifer o gynlluniau yn caniatáu ymddeol yn gynnar os na fyddwch yn gallu parhau yn eich swydd oherwydd nam corfforol neu feddyliol.

Effaith ymddeol yn gynnar ar drefniadau 'pwrcasu arian'

Os ydych yn aelod o gynllun pensiwn personol, cynllun pensiwn cyfranddeiliaid neu gynllun pwrcasu arian galwedigaethol (cwmni), dyma'r prif bwyntiau i'w cofio:

  • byddwch wedi talu i mewn am lai o flynyddoedd, felly bydd eich cronfa bensiwn yn llai
  • bydd angen i'ch cronfa bensiwn ddarparu incwm i chi dros fwy o amser, ac felly bydd y pensiwn y byddwch yn ei gael yn llai

Enghraifft

Os dechreuoch dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35, gyda disgwyliad oes o 85:

  • os byddwch yn ymddeol yn 55 rhaid i'r gronfa a gronnwyd dros 20 mlynedd bara am 30 mlynedd
  • os byddwch yn ymddeol yn 65 rhaid i'r gronfa a gronnwyd dros 30 mlynedd bara am 20 mlynedd

Fodd bynnag, os byddwch yn ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd a'ch salwch yn debygol o gael effaith ar eich disgwyliad oes, bydd rhai darparwyr yn fodlon cynyddu'ch pensiwn i ystyried eich salwch.

Effaith ymddeol yn gynnar ar gynlluniau 'cyflog terfynol'

Gyda'r cynlluniau hyn, bydd y pensiwn a gewch wrth ymddeol fel arfer wedi'i seilio ar ffracsiwn o'ch cyflog. Mae’r ffracsiwn hwn wedyn yn cael ei luosi gyda nifer y blynyddoedd yr oeddech yn aelod o'r cynllun. Felly, os byddwch yn ystyried ymddeol yn gynnar, mae’n debyg y byddwch yn derbyn llai o bensiwn.

Os dechreuoch chi dalu i mewn i'ch pensiwn yn 35, a'r pensiwn yn seiliedig ar 1/80 o'ch cyflog terfynol, yna:

  • byddai ymddeol yn 55 yn rhoi 20/80 o'ch cyflog terfynol
  • byddai ymddeol yn 65 yn rhoi 30/80 o'ch cyflog terfynol

Mae nifer o gynlluniau hefyd yn lleihau'r cyfanswm blynyddol o bensiwn y byddant yn ei dalu os byddwch yn hawlio taliadau cyn oedran ymddeol arferol y cynllun. Mae hyn yn ystyried y bydd eich pensiwn yn cael ei dalu am gyfnod hirach.

Enghraifft

Mae gan y cynllun pensiwn y mae Michael yn aelod ohono oedran ymddeol arferol o 60. Mae Michael yn ymddeol yn 58 mlwydd oed, ar ôl cronni pensiwn sy'n 35/80 o'i gyflog terfynol. Bydd y cynllun pensiwn yn lleihau cyfradd flynyddol y pensiwn 5 y cant ar gyfer bob blwyddyn os yw pensiwn yn cael ei hawlio’n gynnar. Golyga hyn y bydd pensiwn Michael yn cael ei leihau deg y cant oherwydd i Michael ddechrau hawlio dwy flynedd yn gynnar.

Pwyntiau i'w hystyried ynglŷn â’ch pensiwn cwmni

Wrth edrych ar bensiynau cwmni, cofiwch:

  • mae’n bosib na fydd cynllun eich cwmni yn eich caniatáu i hawlio eich pensiwn cyn oedran ymddeol arferol y cynllun
  • os byddwch yn ymddeol yn gynnar oherwydd afiechyd efallai y bydd gan reolau’r cynllun ddarpariaethau arbennig sy'n fodd i chwyddo'r pensiwn
  • os bydd eich swydd yn cael ei dileu gyda phensiwn, gallech ddewis peidio â chymryd y pensiwn a gadael iddo gronni – cymharwch unrhyw drefniant ymddeol yn gynnar arbennig gyda'r posibiliadau eraill
  • os ydych yn gobeithio dod o hyd i waith arall, holwch ynghylch y rheolau ar gyfer trosglwyddo eich hen bensiwn i gynllun pensiwn cyflogwr newydd – cysylltwch â gweinyddwr eich cynllun pensiwn
  • os ydych wedi cael sawl swydd, bydd angen manylion eich holl hawliau pensiwn arnoch

Mae'r rhain yn faterion cymhleth ac efallai y byddai o fudd ichi gael cyngor annibynnol.

Diffyg yn y pensiwn - yr opsiynau a chael cyngor

Os na fydd eich pensiwn yn ddigon ar eich cyfer ar ôl i chi ymddeol, dyma rai opsiynau i feddwl amdanynt:

  • prynu blynyddoedd ychwanegol mewn cynllun cyflog terfynol (os caniateir hyn)
  • cynyddu eich cyfraniadau i gynllun cwmni neu gynllun personol – gallwch gynilo cymaint ag y dymunwch chi mewn unrhyw nifer o gynlluniau pensiwn (er mai dim ond hyd at derfyn penodol y gallwch chi gael gostyngiad treth – dilynwch y ddolen isod at ‘Rheolau pensiwn o fis Ebrill 2006 ymlaen’ i gael gwybod mwy)
  • defnyddio buddsoddiadau treth-effeithlon megis Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) i gefnogi eich pensiwn
  • olrhain hawliau pensiwn o swyddi blaenorol

Yn y sefyllfa hon, mae'n bwysig eich bod yn cael cyngor yn gynnar gan gynghorydd ariannol cymwys.

Allweddumynediad llywodraeth y DU