Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch chi'n ymddeol, fel arfer bydd gennych lai o incwm. Er mwyn eich helpu i ymdopi, efallai y cewch rai budd-daliadau a chymorth ariannol ar ben eich Pensiwn gan y Wladwriaeth. Mae rhai budd-daliadau'n seiliedig sail oedran, mae eraill yn dibynnu ar eich incwm. Mae lwfansau treth hefyd yn fwy hael ar ôl i chi gyrraedd 65 oed os yw eich incwm o dan ryw lefel benodol.
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy. I ddychwelyd i'r dudalen hon, defnyddiwch y botwm 'yn ôl'. Mae'n bosib hefyd y byddai'n fuddiol printio'r dudalen hon.
Mae eich cymhwysedd ar gyfer Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth yn dibynnu ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG). Gallwch ddewis hawlio eich Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth cyn gynted ag y cyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu gallwch ohirio hawlio a chael mwy'n ddiweddarach.
Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod yn codi yn y dyfodol. Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi awgrymiadau newydd ar gyfer cynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth. O Ragfyr 2018 bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod yn dechrau codi i gyrraedd 66 erbyn Ebrill 2020. Bydd hyn yn golygu y bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod yn codi’n gyflymach i 65 rhwng Ebrill 2016 a Thachwedd 2018. Bydd angen i unrhyw newid i’r amserlen gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried yr amserlen ar gyfer cynyddiadau yn y dyfodol i oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 66 i 68.
Mae Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn cael ei alw yn Ail Bensiwn y Wladwriaeth hefyd (yn flaenorol Cynllun Pensiwn ar sail Enillion y Wladwriaeth (SERPS)). Mae cymhwysedd yn seiliedig ar gyfuniad o'ch enillion o'ch gwaith a Chyfraniadau YG yr ydych wedi'u gwneud neu sydd wedi'u credydu ichi. Efallai y byddwch yn gymwys am resymau eraill, megis anabledd neu oherwydd eich bod wedi treulio amser yn gofalu am rywun. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael Pensiwn ychwanegol y Wladwriaeth yn awtomatig pan fyddwch yn hawlio Pensiwn sylfaenol y Wladwriaeth.
Os ydych yn 80 neu'n hŷn a heb unrhyw Bensiwn y Wladwriaeth neu un bach, efallai y gallwch hawlio'r Pensiwn i rai dros 80.
Os ydych chi wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso, gallwch wneud cais am Gredyd Pensiwn er mwyn dod â'ch incwm i isafswm wythnosol.
Mae’r oedran y gallwch gael Credyd Pensiwn - yr oedran cymhwyso - yn cynyddu’n raddol o 60 i 65 rhwng Ebrill 2010 a 2020. I gael gwybod yr oedran y gallech wneud cais am Gredyd Pensiwn, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi awgrymiadau newydd ar gyfer cynyddu oedran Pensiwn y Wladwriaeth. O Ragfyr 2018 bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer dynion a menywod yn dechrau codi i gyrraedd 66 erbyn Ebrill 2020. Bydd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod yn codi’n gyflymach i 65 rhwng Ebrill 2016 a Thachwedd 2018. Bydd angen i unrhyw newid i’r amserlen gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Mae’r llywodraeth hefyd yn ystyried yr amserlen ar gyfer cynyddiadau yn y dyfodol i oedran Pensiwn y Wladwriaeth o 66 i 68.
Mae newidiadau i oed Pensiwn y Wladwriaeth yn debygol o effeithio ar yr oed gofynnol ar gyfer Credyd Pensiwn.
Efallai y gallwch hawlio taliad i helpu gyda biliau tanwydd os ydych chi wedi cyrraedd yr oedran cymhwyso erbyn diwedd y drydedd wythnos o fis Medi. Mae’r oedran y gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf - yr oedran cymhwyso - yn cynyddu’n unol ag oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod.
I gael gwybod yr oedran y gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf, gallwch ddefnyddio cyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae yna hefyd £100 ychwanegol ar gael i gartrefi cymwys sy'n cynnwys rhywun dros 80 oed.
Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn Taliad Tywydd Oer i'ch helpu gyda chostau gwresogi ychwanegol pan fydd y tywydd yn oer iawn. Gwneir y taliadau'n awtomatig - does dim angen i chi hawlio.
Os ydych ar incwm isel efallai y gallwch hawlio hyd at £3,500 neu mewn rhai achosion £6,000 ar gyfer gwneud gwelliannau i systemau gwresogi eich cartref.
Gallwch gael y Lwfans Gweini os ydych yn 65 neu'n hwn ac angen cymorth gyda gofal personol oherwydd salwch neu anabledd.
Os ydych yn gofalu am berson anabl iawn, efallai y gallwch hawlio Lwfans Gofalwr. Os ydych yn anabl iawn, efallai y gall rhywun sy'n gofalu amdanoch hawlio Lwfans Gofalwr.
Os ydych yn cael budd-daliadau arbennig, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, byddwch yn cael £10 yn ychwanegol adeg y Nadolig.
Gall Taliad Angladd helpu gyda chost angladd syml ar gyfer rhywun a oedd yn agos atoch os mai chi sy'n gyfrifol am drefnu'r angladd.
Gall Grantiau Gofal Cymunedol a Benthyciadau Cyllidebu helpu gyda chost treuliau untro gan gynnwys eitemau ar gyfer y cartref, dillad ac esgidiau a rhai costau teithio.
Gellir talu Benthyciadau Argyfwng mewn argyfwng neu drychineb i helpu gyda chostau byw beunyddiol neu eitemau hanfodol. Maent ar gael os oes perygl difrifol i chi neu eich teulu ac yn methu â chael cymorth o unrhyw le arall.
Os ydych ar incwm isel ac yn talu rhent, efallai y gallwch hawlio Budd-dal Tai.
Efallai hefyd y gallwch hawlio Budd-dal Treth Cyngor os ydych ar incwm isel.
Mae gan pobl hŷn cymwys yr hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol ar adegau tawel yn unrhyw le yn Lloegr. Darllenwch ‘Tocynnau mantais a theithio ar fysiau am ddim’ i gael gwybod mwy.
Os ydych yn 60 oed neu'n hwn, efallai fod gennych hawl i gael cymorth gyda chostau iechyd amrywiol, yn cynnwys presgripsiynau, profion llygaid a gofal deintyddol.
Gallwch gael trwydded deledu am ddim os ydych yn 75 neu'n hwn - a thalu llai o ffi wrth adnewyddu rhwng 74 a 75 oed.
Gallwch hawlio pensiwn di-dreth os bu farw eich gŵr, gwraig, neu bartner sifil oherwydd iddynt wasanaethu mewn rhyfel neu os oeddynt yn derbyn Pensiwn Rhyfel neu lwfans cysylltiedig.
Lwfans personol di-dreth
Mae pawb yn cael lwfans personol di-dreth - swm o incwm y gallwch ei gael cyn bod angen talu treth. Os yw eich incwm yn llai na £22,900 ar gyfer y flwyddyn dreth 2010-2011 mae'r lwfans personol yn codi pan fyddwch yn 65 oed ac eto pan fyddwch yn 75 oed.
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac yn talu treth, a chi neu'ch partner wedi'ch geni cyn 6 Ebrill 1935, gallwch hawlio'r lwfans pâr priod.