Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio ar fws am ddim yn Lloegr ar gyfer pobl hŷn ac anabl

Mae gan bobl hŷn ac anabl sy’n gymwys hawl i deithio am ddim ar fysiau lleol unrhyw le yn Lloegr yn ystod cyfnodau tawelach. Yma cewch wybod a ydych chi'n gymwys, a ble a sut gallwch chi ddefnyddio eich cerdyn bws am ddim.

Ble gallwch chi ddefnyddio eich cerdyn bws

Os ydych chi’n byw y tu allan i Loegr

Yma cewch wybodaeth am deithio ar fysiau am ddim mewn ardaloedd eraill yn y DU

Os ydych chi’n gymwys i gael cerdyn bws am ddim, gallwch ei ddefnyddio unrhyw le yn Lloegr yn ystod cyfnodau ‘tawelach’. Mae cyfnodau tawelach yn golygu:

  • rhwng 9.30 am ac 11.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • drwy’r dydd ar benwythnosau ac ar wyliau cyhoeddus

Gwasanaethau y tu allan i Loegr

Dim ond yn Lloegr y gallwch chi ddefnyddio cerdyn bws Lloegr. Nid yw’n caniatáu i chi deithio am ddim ar fysiau yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon. Os ydych chi’n byw y tu allan i Loegr, bydd angen i chi wneud cais am gerdyn gwahanol gan eich cyngor lleol.

Pwy sy’n gymwys i gael cerdyn bws ar gyfer pobl hŷn

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, bydd gennych hawl i gael cerdyn bws sy’n eich galluogi i deithio am ddim ar fysiau lleol yn ystod cyfnodau tawelwch ar ôl i chi gyrraedd yr ‘oedran cymwys’. Os cawsoch eich geni ar ôl 5 Ebrill 1950, mae’r oedran y byddwch chi'n gymwys yn gysylltiedig â newidiadau yn oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod. Mae hyn yn effeithio ar ddynion a menywod.

Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950

Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950, rydych chi’n gymwys i gael y cerdyn bws ar gyfer pobl hŷn ar ôl eich pen-blwydd yn 60 oed.

Menywod a aned ar ôl 5 Ebrill 1950

Os ydych chi’n fenyw a aned ar ôl 5 Ebrill 1950, byddwch yn gymwys i gael cerdyn bws ar gyfer pobl hŷn pan gyrhaeddwch chi’r oedran pensiwn.

Dynion a aned ar ôl 5 Ebrill 1950

Os ydych chi’n ddyn a aned ar ôl 5 Ebrill 1950, byddwch yn gymwys pan gyrhaeddwch chi'r oedran pensiwn ar gyfer menywod a aned ar yr un diwrnod â chi.

Gallwch ganfod pryd y byddwch chi’n gymwys drwy nodi pa ryw ydych chi a’ch dyddiad geni yng nghyfrifiannell oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950

Os cawsoch eich geni cyn 6 Ebrill 1950, rydych chi’n gymwys i gael y cerdyn bws ar gyfer pobl hŷn ar ôl eich pen-blwydd yn 60 oed.

Pwy sy’n gymwys i gael cerdyn bws ar gyfer pobl anabl

Os ydych chi’n byw yn Lloegr ac yn 'anabl gymwys', rydych chi’n gymwys i gael cerdyn bws ar gyfer pobl anabl. Mae hyn yn golygu eich bod:

  • yn ddall neu’n rhannol ddall
  • yn hollol fyddar neu’n drwm iawn eich clyw
  • heb leferydd
  • ag anabledd, neu wedi dioddef anaf, sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i gerdded
  • heb freichiau neu’n methu defnyddio eich dwy fraich a hynny yn y tymor hir
  • ag anabledd dysgu

Rydych hefyd yn anabl gymwys os byddai eich cais am drwydded yrru yn cael ei wrthod dan adran 92 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 (ffitrwydd corfforol). Fodd bynnag, ni fyddwch yn gymwys os gwrthodwyd eich cais am eich bod wedi camddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson.

Sut mae cael eich cerdyn bws

Cysylltwch â'ch cyngor lleol i gael gwybod pwy sy’n cyhoeddi cardiau bws ar gyfer pobl hŷn ac anabl yn eich ardal.

Cardiau bws yn Llundain – y cerdyn Freedom

Os ydych chi’n anabl gymwys neu’n gymwys o ran oedran ac yn byw yn Llundain Fwyaf, gallwch wneud cais am gerdyn Freedom. Mae hyn yn eich galluogi i deithio am ddim ar hyd holl rwydwaith Transport for London. Ar y rhan fwyaf o wasanaethau, gallwch ddefnyddio’r cerdyn unrhyw bryd. Gallwch hefyd ddefnyddio eich cerdyn Freedom ar gyfer Lloegr gyfan, ond dim ond yn ystod cyfnodau tawelach y tu allan i Lundain y cewch chi ddefnyddio’r cerdyn hwn.

Ewch i wefan Freedom Pass i gael gwybod rhagor am ddefnyddio’r cerdyn a sut mae gwneud cais i gael un.

Teithio i Gymru neu’r Alban os ydych chi'n byw ger y ffin

Efallai y bydd gan eich cyngor drefniadau arbennig ar eich cyfer i deithio rhwng Lloegr a Chymru neu Loegr a’r Alban os ydych chi’n byw yn agos at y ffin. Holwch eich cyngor lleol pan fyddwch chi’n gwneud cais am eich cerdyn

Sut mae defnyddio eich cerdyn bws

I ddefnyddio’ch cerdyn bws ar fysiau lleol yn Lloegr, dangoswch eich cerdyn i'r gyrrwr wrth fynd ar y bws. Os oes peiriant darllen (reader) wedi’i osod ar y bws, cyffyrddwch y peiriant darllen gyda'ch cerdyn. Does dim angen i chi gael tocyn er mwyn teithio, ond ar rai gwasanaethau efallai y bydd y gyrrwr yn rhoi tocyn dim pris i chi er mwyn cofnodi nifer y teithwyr.

Pa wasanaethau eraill sydd wedi'u cynnwys

Efallai fod eich cyngor lleol yn cynnig consesiynau teithio eraill, megis teithio am ddim yn ystod cyfnodau prysur yn y bore, gwasanaeth cludiant cymunedol, prisiau gostyngol ar drenau neu docynnau cydymaith. Fel rheol, dim ond yn yr ardal leol y gallwch ddefnyddio'r rhain.

Gwasanaethau nad ydynt wedi'u cynnwys

Chewch chi ddim defnyddio eich cerdyn bws gyda’r gwasanaethau canlynol:

  • gwasanaeth lle gellir cadw’r rhan fwyaf o seddi, fel bysiau moethus
  • gwasanaeth sy’n rhedeg am lai na chwe wythnos, fel bysiau gwennol i ddigwyddiadau arbennig
  • gwasanaeth i dwristiaid, fel teithiau mewn bws heb do, neu wasanaethau ar gerbydau o ddiddordeb hanesyddol
  • gwasanaeth bws a drefnir yn lle trên – gwasanaethau wrth gefn ar gyfer trenau
  • gwasanaeth lle bo’r pris yn cynnwys elfennau ‘ychwanegol’, fel lluniaeth neu barcio car

Er hynny, mae amryw o gwmnïau bysiau yn cynnig i bobl hŷn ac anabl deithio am ddim. Holwch y cwmni bysiau am ragor o wybodaeth.

Additional links

Race Online 2012

Gwella cyfleoedd byw y 10 miliwn o bobl sydd heb fod arlein erioed o’r blaen

Allweddumynediad llywodraeth y DU