Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio ar reilffyrdd: prisiau a chonsesiynau

Gallwch brynu gwahanol fathau o docynnau trên gan ddibynnu ar pryd rydych chi'n bwriadu teithio, lle rydych chi'n bwriadu mynd a phryd byddwch chi'n talu am docyn. Yma, cewch wybod am y gwahanol brisiau, sut mae arbed arian ar docynnau a sut mae cael gostyngiadau gyda Cherdyn Trên.

Sut mae cael gwybodaeth am amserlenni a phris tocyn trên

Gallwch gael gwybodaeth am amseroedd trên neu am bris tocynnau gwasanaethau ledled Prydain Fawr drwy:

  • ffonio Ymholiadau National Rail ar 08457 48 49 50 – ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos
  • edrych ar wefan Ymholiadau National Rail neu ddefnyddio cynlluniwr taith Cross & Stitch
  • cysylltu â'r cwmni trên

Dewis tocynnau rhatach

Mae Passenger Focus yn rhoi cyngor am ddewis y tocynnau rhataf a chael y fargen orau ar eich tocyn tymor

Dewis eich tocyn

Ceir chwe phrif fath o docyn, er ei bod yn bosib nad yw pob un o'r rhain yn cael eu cynnig ar gyfer pob siwrnai:

  • unrhyw adeg
  • adegau tawel
  • adegau tawel – uwch (super off-peak)
  • ymlaen llaw
  • tymor (bob wythnos, bob mis neu am unrhyw gyfnod mwy na hynny hyd at flwyddyn)

Caiff dau blentyn dan bump oed deithio am ddim ar eich tocyn chi. Os ydych chi'n teithio gyda mwy na dau blentyn neu blant rhwng 5 ac 16 oed, bydd angen i bob un ohonynt gael tocyn cyfradd plant.

Fel arfer, gallwch arbed arian ar eich tocynnau drwy wneud y canlynol:

  • archebu tocyn ymlaen llaw
  • teithio ar adegau nad ydynt yn oriau brig

Mae'n bosib y bydd modd i chi hefyd gael disgownt ar eich tocyn os ydych chi'n teithio mewn grŵp sy'n cynnwys tri oedolyn neu ragor.

Tocynnau hawl i deithio

Mae gan ambell orsaf nad oes ganddynt beiriant tocynnau na swyddfa docynnau beiriant 'tocynnau hawl i deithio'. Gallwch brynu tocyn hawl i deithio, drwy ddefnyddio arian mân yn unig, ac yna mynd ar y trên. Byddwch yn talu unrhyw arian ychwanegol yn nes ymlaen ar y daith. Mae tocyn hawl i deithio yn ddilys am ddwy awr.

Os ydych chi'n teithio o orsafoedd llai lle na allwch brynu tocynnau, efallai y bydd modd i chi dalu ar y trên. Edrychwch yn yr orsaf am hysbysiadau sy'n rhoi gwybodaeth am hyn.

Tocynnau trên a bws (Plusbus)

Os ydych chi'n bwriadu teithio ar drên ac ar fws, mae'n bosib y bydd modd i chi arbed arian drwy brynu un tocyn ar gyfer y ddau, drwy ddefnyddio Plusbus. Gyda Plusbus, gallwch deithio faint fynnwch o amgylch y trefi ar y naill ben a'r llall i'ch taith ar y trên, gan gynnwys teithiau i'r orsaf drenau ac oddi yno.

Cardiau Trên – consesiynau ar deithio ar drenau

Fel arfer, rhoddir Cerdyn Trên a cherdyn llun i chi - rhaid i chi ddangos y ddau o'r rhain pan fyddwch yn prynu eich tocyn i hawlio arian i ffwrdd a phan fyddwch yn teithio

Gallwch arbed hyd at draean ar y rhan fwyaf o docynnau trên os byddwch yn prynu Cerdyn Trên. Gyda rhai Cardiau Trên, ceir cyfyngiadau o ran amser a phrisiau. Holwch cyn prynu'r Cerdyn Trên neu cyn ei ddefnyddio i brynu unrhyw docynnau eraill.

Yn ogystal â'r Cardiau Trên a restrir isod, ceir ystod eang o Gardiau Trên lleol a rhanbarthol eraill sy'n rhoi gostyngiadau sylweddol. Gallwch hefyd gael tocyn 'Ranger' neu 'Rover' sy'n eich galluogi i deithio ar ddiwrnodau arbennig mewn ardaloedd penodol. Mae gostyngiadau Cerdyn Trên yn ddilys ar y tocynnau hyn hefyd.

Cerdyn trên 16-25

Mae'r Cerdyn Trên hwn yn costio £26, ac mae ar gyfer y rheini sydd rhwng 16 a 25 oed a'r rheini sydd dros 26 oed ac mewn addysg amser llawn. Ceir fersiwn tair blynedd, sydd ar gael ar-lein yn unig, sy'n costio £65.

Cerdyn Trên i Bobl Anabl

Os ydych chi'n anabl, gallech ddefnyddio Cerdyn Trên i Bobl Anabl i gael disgownt ar y rhan fwyaf o docynnau safonol neu ddosbarth cyntaf ar eich cyfer chi a chyfaill i chi. Mae cerdyn blwyddyn yn costio £18 a cherdyn tair blynedd yn costio £48.

Cerdyn Trên i Bobl Hŷn

Mae Cerdyn Trên i Bobl Hŷn (ar gyfer pobl 60 oed a hŷn) yn costio £26 am flwyddyn a £65 am dair blynedd (ar-lein yn unig).

Cerdyn Trên Rhwydwaith

Os ydych chi'n teithio ar y trên yn ne ddwyrain Lloegr er mwynhad, gallwch brynu Cerdyn Trên Rhwydwaith am £25. Mae'r Cerdyn Trên hwn yn rhoi traean i ffwrdd oddi ar y rhan fwyaf o docynnau trên oedolion safonol. Os oes hyd at dri oedolyn yn teithio gyda chi, byddan nhw hefyd yn cael traean oddi ar bris eu tocynnau. Gallwch hefyd deithio gyda phedwar plentyn (rhwng 5 a 15 oed) ac arbed 81 y cant ar bris tocyn bob plentyn.

Cerdyn Trên Teulu a Ffrindiau

Gall unrhyw un brynu Cerdyn Trên Teulu a Ffrindiau – y pris yw £26 am flwyddyn neu £65 am dair blynedd (ar-lein yn unig). Gyda'r Cerdyn Trên hwn, gallwch arbed traean ar bris eich tocyn os ydych chi'n teithio gydag o leiaf un plentyn sydd dan 15 oed. Gall hyd at dri oedolyn arall a thri phlentyn arall deithio gyda deiliad y cerdyn a'r plentyn cyntaf. Bydd pris tocyn bob plentyn yn gostwng 81 y cant.

Cerdyn Trên Lluoedd EM

Mae'r rheini sy'n aelodau gweithredol o'r lluoedd, eu gwŷr/gwragedd a'u plant dibynnol yn gymwys i gael disgownt ar bris tocynnau trên gyda Cherdyn Trên Lluoedd EM, sy'n costio £15.

Allweddumynediad llywodraeth y DU