Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch teithwyr rheilffyrdd

Mae'n ddiogel teithio ar y rheilffyrdd ym Mhrydain, ond mae'n dal yn bwysig eich bod yn cadw golwg ar eich eiddo ac yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o'ch cwmpas. Yma, cewch gyngor ynghylch sut i ddiogelu eich hun a theimlo'n fwy diogel pan rydych chi ar drên neu mewn gorsaf.

Bod yn ddiogel mewn gorsafoedd ac ar y trên

Gall gorsafoedd fod yn orlawn o bobl ar adegau prysur ac efallai y byddwch yn teimlo'n agored i niwed wrth aros mewn gorsafoedd gwag a hithau'n dywyll. Pan fyddwch yn defnyddio gorsafoedd trên, gwnewch yn siŵr eich bod yn ddiogel drwy:

  • edrych ar yr amserlen cyn cyrraedd yr orsaf fel eich bod yn lleihau'r amser y mae’n rhaid i chi aros ar y platfform
  • sefyll mewn mannau sydd wedi'u goleuo'n dda a cheisio aros yn agos at bobl eraill neu yng ngolwg camerâu teledu cylch cyfyng
  • bod yn ymwybodol o bobl o'ch cwmpas a cheisio ymddangos yn hyderus ac yn bendant o le rydych chi'n mynd pan fyddwch yn gadael yr orsaf

Mynd ar y trên

Pan fyddwch yn mynd ar drên, gwnewch yn siŵr eich bod:

  • yn dewis cerbyd yr ydych yn teimlo'n gyfforddus ynddo – ewch i ran arall o'r trên os ydych chi'n teimlo'n nerfus neu'n agored i niwed
  • yn gwybod lle mae'r larwm argyfwng – mae'n bosib y byddwch chi'n teimlo'n fwy diogel os ydych chi'n gwybod lle i gael cymorth os bydd ei angen arnoch

Gorsafoedd trên mwy diogel: y cynllun gorsafoedd diogel

Mae mwy na thraean o bob gorsaf drenau yn rhan o'r cynllun gorsafoedd diogel. Mae hyn yn golygu bod cwmnïau gweithredu gorsafoedd wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod teithwyr a staff yr orsaf yn teimlo'n ddiogel, a hynny drwy wella diogelwch yr orsaf.

Mae'n rhaid i orsafoedd sydd wedi'u hachredu dan y cynllun ddangos eu bod yn gweithio i sicrhau bod yr orsaf yn ddiogel drwy wneud pethau fel:

  • defnyddio paent gwrth graffiti ar y waliau a'r ffensys er mwyn atal fandaliaeth
  • gosod camerâu teledu cylch cyfyng a'u monitro'n gyson
  • darparu golau da drwy'r orsaf ac ar y platfformau
  • gwneud yn siŵr bod cynllun yr orsaf yn glir, gydag arwyddion clir yn dangos lle mae pob mynedfa ac allanfa
  • dangos arwyddion, mapiau ac amserlenni a mannau i deithwyr gael cymorth
  • cynnal arolwg defnyddwyr i weld a yw'r teithwyr yn teimlo'n ddiogel yn defnyddio'r orsaf

Dylai'r staff fod wedi cael hyfforddiant i helpu teithwyr ac i batrolio'r orsaf, yn enwedig yn ystod cyfnodau tawel. Dylent ymateb yn gyflym i unrhyw broblemau, rhoi gwybodaeth i deithwyr yn gyson ac annog teithwyr i roi gwybod am unrhyw droseddau.

Dylai'r gorsafoedd sydd wedi'u hachredu dan y cynllun gorsafoedd diogel ddangos 'datganiad o fwriad' mewn lle amlwg yn yr orsaf. Mae hyn yn nodi:

  • gyda phwy y dylech gysylltu er mwyn rhoi gwybod am gwynion a digwyddiadau
  • y cyfnod hiraf y byddai'n rhaid i chi ei aros wrth ofyn am gymorth gan staff
  • ymrwymiad yr orsaf i ddiogelwch personol ei staff, sy'n cynnwys erlyn unrhyw un sy'n bygwth neu'n ymosod ar aelod o staff

I gael rhestr o orsafoedd achrededig, dilynwch y ddolen isod.

Gofalu am eich eiddo

Cadwch lygad ar eich eiddo pan rydych chi ar y trên ac yn yr orsaf – yn enwedig pan mae hi'n brysur iawn a llawer o bobl yno. Gwnewch yn siŵr bod eich bagiau:

  • yn cael eu cau gan sip neu glo – dylech gadw pethau gwerthfawr, fel eich waled neu'ch chwaraewr mp3 o'r golwg
  • yn cael eu cadw mewn man lle rydych chi'n gallu eu gweld ar y trên – os ydyn nhw'n rhy fawr i'w cadw gyda chi

Os ydych chi'n meddwl eich bod yn debygol o gysgu ar y trên, rhowch un fraich drwy strap eich bag. Daliwch yn agos atoch i’w ddiogelu.

Os gwelwch fag neu becyn wedi'i adael, rhowch wybod i staff yr orsaf neu i un o swyddogion yr heddlu ar unwaith.

Defnyddio ffôn symudol

Mae lladron yn tueddu i dargedu ffonau symudol mewn gorsafoedd neu ar drenau gorlawn. Pan fyddwch yn defnyddio eich ffôn ar drên neu mewn gorsaf:

  • byddwch yn ymwybodol o'ch amgylchiadau
  • ceisiwch beidio â cherdded a siarad
  • cadwch eich ffôn pan nad ydych yn ei ddefnyddio a pheidiwch â'i adael

Ewch i 'Diogelu eich ffôn symudol' i gael rhagor o gyngor ynghylch atal rhywun rhag dwyn eich ffôn symudol.

Sut mae riportio trosedd ar y rheilffyrdd

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn gweithio ar y rheilffyrdd er mwyn diogelu teithwyr a staff y rheilffyrdd.

Os ydych chi'n gweld digwyddiad, neu'n rhan o ddigwyddiad, ar drên neu mewn gorsaf, dylech ymateb mewn ffordd sy'n teimlo'n gyfforddus i chi. Gall hwn fod:

  • gweiddi i roi gwybod i staff y rheilffordd
  • ffonio'r heddlu – ffoniwch 999 mewn argyfwng

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ddiogel yn gyntaf, yna galwch am gymorth. Gallwch ymyrryd os ydych chi'n teimlo'n ddigon hyderus, neu gallwch fod yn dyst ar ôl y digwyddiad.

Os byddwch chi'n dyst i drosedd neu'n dioddef trosedd eich hun, ffoniwch yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 0800 40 50 40.

Allweddumynediad llywodraeth y DU