Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth yr ydych wedi'i gael wrth deithio ar drên, gallwch wneud cwyn. Yma, cewch wybod â phwy i gysylltu, beth ddylai eich cwyn ei ddweud a beth i'w wneud os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb.
Dylech ddeall eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel teithiwr ar y rheilffordd er mwyn gwybod a oes sail i'ch cwyn
Cysylltwch â'r cwmni trenau dan sylw os yw'ch cwyn yn ymwneud â thocynnau a theithio ar drên, gan gynnwys pethau fel:
Ceir rhestr o gwmnïau trên ym Mhrydain Fawr a dolenni at eu manylion cyswllt ar wefan National Rail. Gallwch hefyd weld pa gwmni sy'n rhedeg pa orsaf.
Os gwnaethoch brynu eich tocyn gan adwerthwr – oddi ar wefan gwerthu tocynnau, er enghraifft – cysylltwch â nhw'n uniongyrchol os nad ydych yn fodlon â'u gwasanaeth.
Cysylltwch â'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn uniongyrchol ar gyfer cwynion ynglŷn â'u hymddygiad neu ar gyfer mater cyffredinol yn ymwneud â phlismona.
Cysylltwch â Network Rail ar 08457 11 41 41 os ydych chi'n poeni am bethau fel:
Cwynion am ystyriaethau iechyd a diogelwch
Mae'n gyfrifoldeb ar gwmnïau trên a gweithredwyr gorsafoedd i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio'n ddiogel. Rhaid iddynt wneud yn siŵr bod gweithdrefnau ar waith, er enghraifft, i atal pobl rhag cael damweiniau mewn gorsafoedd, drwy lithro neu ddisgyn er enghraifft. Os ydych chi'n bryderus nad yw cwmni trên neu weithredwr gorsaf yn gwneud hynny'n ddiogel, cysylltwch â nhw'n gyntaf. Gall y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd hefyd ymchwilio i gwynion gan aelodau o'r cyhoedd ynglŷn ag arferion anniogel yn y diwydiant rheilffyrdd.
Mae gan Passenger Focus dempled i'ch helpu i ysgrifennu llythyr i gwyno am oedi neu ffoniwch eu llinell gymorth ar 0300 123 2350 er mwyn cael cyngor
Mae'n syniad da gwneud cwyn pan mae'r broblem yn codi drwy gysylltu ag aelod o staff yn yr orsaf neu ar y trên. Os na allwch gwyno ar y pryd, dylech wneud cwyn yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod i'r broblem.
Dylai eich llythyr roi'r rheswm dros eich cwyn a disgrifiad o'r hyn ddigwyddodd. Dylech gynnwys cymaint o wybodaeth â phosib, megis:
Os yw'ch cwyn yn ymwneud â gwybodaeth gan linell gymorth gwasanaethau cwsmer neu Wasanaeth Ymholiadau National Rail, dylech gynnwys:
Ynghyd â'r llythyr, dylech anfon unrhyw:
Ewch â chopi o bopeth y byddwch yn ei anfon a gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf bod y llythyr wedi cael ei dderbyn. Os na fyddwch yn cael ateb o fewn deg diwrnod gwaith, ffoniwch y corff a oedd i fod i dderbyn y llythyr er mwyn gwneud yn siŵr ei fod wedi cyrraedd.
Dylech allu datrys eich cwyn gyda'r cwmni trên neu'r corff dan sylw.
Os nad ydych yn fodlon â'r ymateb a gewch ynglŷn â'ch cwyn, gallwch apelio at Passenger Focus. Os yw'ch cwyn yn ymwneud â siwrnai ar reilffordd yn Llundain, cysylltwch â Travelwatch Llundain.
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ymateb a gewch gan Network Rail, cysylltwch â'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd.
Os nad ydych chi'n fodlon â'r ffordd y mae Passenger Focus, Travelwatch Llundain neu'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd yn delio â'ch apêl, gwnewch gŵyn yn syth iddyn nhw.
Os ydych chi dal yn anfodlon gyda’ch cwyn am Passenger Focus neu’r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd, cysylltwch â’r Ombwdsmon Seneddol.
Ar gyfer problemau gyda Travelwatch Llundain, cysylltwch â'r Ombwdsmon Llywodraeth Leol.
Os ydych chi'n meddwl bod pris tocyn ar gyfer gwasanaeth rheilffordd yn rhy ddrud, cysylltwch â'r cwmni trên yn gyntaf. I gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chwyno am bris tocyn, dilynwch y ddolen isod.