Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n meddwl bod pris tocyn trên yn rhy ddrud neu ei bod yn rhy ddrud i dalu am barcio mewn gorsaf, cysylltwch â'r cwmni trên. Pan fydd cwmnïau trên yn pennu prisiau, mae'n rhaid iddynt ddilyn y gyfraith gystadleuaeth. Yma, cewch gyngor ynghylch cwyno am brisiau uchel tocynnau trên neu gostau parcio car mewn gorsafoedd, a sut mae'r gyfraith gystadleuaeth yn effeithio ar hyn.
Manylion cyswllt cwmnïau trên
Mae gwefan Ymholiadau National Rail yn cynnwys rhestr o'r cwmnïau trên a'u manylion cyswllt
Bydd cwmnïau trên yn pennu pris tocynnau a chostau parcio mewn gorsafoedd ar eu llwybrau nhw. Gallant ymateb i gwestiynau neu gwynion sy'n ymwneud â phrisiau tocynnau a chostau parcio car.
Bydd pris ambell docyn safonol yn cael ei reoleiddio (ei fonitro) gan y llywodraeth fel rhan o gytundebau gyda'r cwmnïau trên. Gall eich cwmni trên ddweud wrthych a yw'r tocyn rydych chi'n sôn amdano yn cael ei reoleiddio. Os yw'ch cwyn yn ymwneud â'r modd y mae pris tocynnau'n cael eu rheoleiddio, dylech gysylltu â'r adran briodol yn y llywodraeth.
Ewch i 'Gwasanaethau rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr' i gael mwy o wybodaeth ynghylch sut mae pris tocynnau'n cael ei fonitro a chyngor ynghylch pa adran i gysylltu â hi. Mae 'Cwyno am wasanaethau rheilffyrdd' yn cynnwys cyngor ynghylch beth i'w ddweud yn eich cwyn a sut mae dilyn trywydd y gŵyn wedyn.
Bydd cwmnïau trên yn cystadlu am gontractau'r llywodraeth ('masnachfreintiau'), er mwyn:
Pan fyddant yn rhedeg eu masnachfraint, mae cwmnïau trên yn gorfod cadw at y gyfraith gystadleuaeth. Yn unol â Deddf Cystadleuaeth 1998, mae'n anghyfreithlon i gwmnïau trên wneud rhai pethau, megis:
Os bydd cwmni trên yn cadw at y gyfraith gystadleuaeth, ni fydd y prisiau a osodant ar gyfer tocynnau yn anghyfreithlon o uchel.
Mae pris tocyn trên yn annhebygol o fod yn anghyfreithlon o uchel:
Os nad ydych chi'n fodlon â phris parcio mewn gorsaf drenau, cysylltwch â gweithredwr yr orsaf
Nid yw'r prisiau a godir mewn meysydd parcio ceir mewn gorsafoedd yn cael eu rheoleiddio – bydd gweithredwr yr orsaf yn penderfynu faint i'w godi. Mae'n annhebygol y bydd cost parcio ceir mewn gorsaf yn torri'r gyfraith gystadleuaeth.
Ni fydd modd ymchwilio i gost parcio'r orsaf oni bai ei fod yn ddrutach na chost naw allan o ddeg o feysydd parcio yn yr ardal ac:
Mae gan y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd bwerau i ymchwilio pan fydd cwmni trên wedi torri'r gyfraith gystadleuaeth. Os ydych chi'n meddwl bod pris tocyn neu gost parcio car yn anghyfreithlon o uchel, gallwch gwyno i'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd. Rhaid i chi roi eich cwyn ar bapur a darparu tystiolaeth ategol – ceir canllawiau ar y ffurflen gwyno ynghylch sut i wneud hyn.