Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel teithiwr rheilffyrdd

Pan fyddwch yn prynu tocyn trên, byddwch yn ymrwymo i gytundeb gydag unrhyw gwmni trên y byddwch yn defnyddio'i wasanaeth. Mae hyn yn rhoi'r hawl i chi deithio ar y siwrnai a ganiateir gan eich tocyn. Yma, cewch wybod mwy am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel teithiwr rheilffyrdd.

Eich cytundeb â'r cwmnïau trên

Mae eich cytundeb â'r cwmnïau trên yn seiliedig ar 'Amodau Cludiant National Rail'. Mae'r rhain yn amlinellu:

  • y lefel sylfaenol o wasanaeth y gallwch ei ddisgwyl wrth deithio ar drên ym Mhrydain Fawr
  • eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel teithiwr

Eich hawliau pan rydych chi'n teithio ar drên

Cysylltu â'r cwmni trên

Mae gwefan Ymholiadau National Rail yn cynnwys rhestr o gwmnïau trên gyda dolenni at eu manylion cyswllt

Mae'r hawliau a restrir isod yn grynodeb o'r amodau cludiant ar gyfer teithiau ym Mhrydain Fawr. Mae gan bob cwmni gweithredu trenau siarter teithwyr hefyd, a allai amlinellu telerau gwell, ond nid gwaeth, na'r amodau cludiant. Gallwch gael copi o siarter teithwyr o orsaf, gan adran cysylltiadau cwsmer cwmni trên neu ar ei wefan.

Iawndal yn dilyn oedi a chanslo

Mae gennych chi hawl i gael iawndal os yw trên dros awr yn hwyr oherwydd problem sy'n dod dan reolaeth y diwydiant rheilffyrdd. Gallai hyn gynnwys gwaith peirianyddol sy'n rhedeg yn hwyr, er enghraifft, ond mae'n bosib na fydd yn cynnwys fandaliaeth na thywydd garw.

Dylech gael canran o bris y tocyn yn ôl. Mae hyn yn golygu y dylech gael o leiaf:

  • 20 y cant am docyn sengl
  • 10 y cant am docyn dychwelyd os bu oedi un ffordd
  • 20 y cant am docyn dychwelyd os bu oedi'r ddwy ffordd

Mae gennych hawl i ad-daliad llawn os caiff eich trên ei ganslo neu os yw'n hwyr iawn a'ch bod chithau'n penderfynu peidio teithio. Gallwch hawlio'r ad-daliad hwn ar gyfer unrhyw fath o docyn cyn belled na wnaethoch ddechrau eich siwrnai.

Help os nad ydych chi'n gallu mynd i unman oherwydd oedi

Os terfir ar eich taith am resymau sydd o fewn rheolaeth y diwydiant rheilffyrdd, mae'n rhaid i'r cwmni trenau eich helpu i gyrraedd pen eich taith. Os na allant ddefnyddio un o'u trenau nhw, dylent helpu drwy adael i chi deithio ar drên ar lwybr arall neu drwy drefnu:

  • tacsi
  • gwasanaeth bws yn lle trên
  • llety dros nos

Archebu

Os ydych chi'n archebu sedd, mae gennych hawl i eistedd yn y sedd honno. Os ydych chi'n gorfod sefyll am y siwrnai gyfan neu ran ohoni, mae gennych hawl i iawndal, a bydd y ffi archebu, os oedd yna un, yn cael ei had-dalu.

Mae'r un math o drefniadau'n berthnasol os byddwch yn archebu lle i gysgu neu le i gadw'ch beic, ac na ellir darparu hyn pan fyddwch chi'n teithio.

Mynediad at yr orsaf neu'r trên

Os ydych chi'n anabl neu â symudedd cyfyngedig, gallwch ofyn i'r cwmni trenau am gymorth gyda'r canlynol yn ystod eich siwrnai:

  • mynediad ar orsafoedd
  • newid platfform
  • rampiau i fynd ar drenau ac i ddod oddi arnynt

Er mwyn trefnu'r cymorth hwn, cysylltwch â'r cwmni trenau sy'n rheoli'r orsaf ar ddechrau'ch taith. Ceisiwch roi o leiaf 24 awr o rybudd.

Eich cyfrifoldebau pan rydych chi'n teithio ar drên

Yn ogystal â'ch hawliau, mae gennych chi gyfrifoldebau penodol pan fyddwch yn teithio ar y rheilffyrdd.

Gwneud yn siŵr bod gennych docyn dilys

Gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o amser i brynu tocyn. Peidiwch â mynd ar drên heb docyn, hyd yn oed os oes dipyn o giw yn y swyddfa docynnau. Os byddwch chi, mae'n bosib y gofynnir i chi dalu pris tocyn 'unrhyw adeg' llawn neu y cewch chi docyn cosb.

Mae'n rhaid i chi gael y tocyn cywir ar gyfer eich taith. Gwnewch yn siŵr:

  • ei fod yn dangos y manylion cywir ar gyfer eich siwrnai
  • y gellir ei ddefnyddio ar y llwybrau, y trenau ac ar yr amser rydych chi'n bwriadu teithio
  • nad yw wedi'i ddifrodi nac wedi newid
  • ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel – os byddwch yn ei golli neu os caiff ei ddwyn, allwch chi ddim teithio

Dangoswch eich tocyn pan ofynnir i chi wneud hyn. Os gwnaethoch brynu eich tocyn gyda Cherdyn Trên, mae'n rhaid i chi ddangos y cerdyn hefyd.

Mynd ar drên a newid trenau

Rydych chi'n gyfrifol am fynd ar y trên cywir ac am deithio yn y rhan iawn.

Sicrhewch eich bod yn gwneud y canlynol:

  • mynd oddi ar y trên a newid yn yr orsaf iawn
  • gadael digon o amser i newid trenau
  • cadw eich bagiau gyda chi drwy'r amser
  • mynd i eistedd neu sefyll yn yr adran dosbarth cyntaf dim ond os yw'ch tocyn yn caniatau hynny

Nid yw'r cwmni trên yn gyfrifol am unrhyw oedi na cholled os nad ydych wedi dilyn y cyfarwyddiadau hyn.

Gweld beth gewch chi fynd gyda chi

Dylech edrych beth gewch chi fynd gyda chi ar y trên. Rydych chi'n gyfrifol am bopeth rydych chi'n mynd gyda chi ar y trên, gan gynnwys beiciau neu anifeiliaid, ac mae'n rhaid i chi wneud yn siŵr nad ydyn nhw'n niweidio pobl eraill nac yn difrodi'r trên.

Rhowch label gyda'ch enw a'ch manylion cyswllt ar eich pethau. Nid yw'r cwmni trên yn gyfrifol os ydych chi'n colli eich bagiau neu os ydyn nhw'n cael eu dwyn. Mae'n bosib y bydd cwmnïau trên yn codi ffi arnoch i ddychwelyd eiddo sydd ar goll.

Sut mae cwyno am wasanaethau rheilffyrdd

Dilynwch y ddolen isod i gael cyngor ynglŷn â sut mae gwneud cwyn os nad ydych yn fodlon â'r gwasanaeth a ddarparwyd gan y cwmni trên.

Allweddumynediad llywodraeth y DU