Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau rheilffordd ym Mhrydain Fawr

Mae gwahanol gyrff yn gyfrifol am redeg gwasanaethau trenau a rheilffyrdd Prydain, ac am eu diogelwch. Yma, cewch wybod pwy sy'n gyfrifol am redeg y trenau, rheoli'r gorsafoedd, cynnal y traciau a'r signalau a diogelwch y rheilffyrdd.

Rheoli'r gwasanaethau trên

Mae cwmnïau trên yn gyfrifol am y canlynol:

  • rhedeg y trenau ar eu siwrnai
  • rheoli'r gorsafoedd ar eu llwybrau – er bod rhai gorsafoedd yn cael eu rheoli gan Network Rail ac eraill yn cael eu rhedeg gan fwy nag un cwmni
  • pennu pris y tocyn a phrisiau parcio mewn gorsafoedd, a phennu amserlenni'r gwasanaeth gyda Network Rail

Am beth mae'r llywodraeth yn gyfrifol

Mae'r Adran Drafnidiaeth a Transport Scotland yn gwerthu 'masnachfreintiau' i gwmnïau trên i redeg gwasanaethau trên. Mae masnachfraint yn gytundeb rhwng y cwmni trenau a'r llywodraeth. Mae'r contract yn amlinellu'r gofynion y mae'n rhaid i'r cwmni eu bodloni, gan gynnwys:

  • pennu isafswm y gwasanaethau y mae'n rhaid i'r cwmni eu rhedeg
  • rhoi gwybodaeth i deithwyr am amseroedd trenau a gwasanaethau, gan gynnwys pan fydd trenau'n hwyr neu'n cael eu canslo
  • sicrhau teithiau diogel, glân a dibynadwy i deithwyr

Mae'r cytundebau masnachfraint hyn rhwng y cwmni trenau a'r llywodraeth i'w gweld ar wefan yr Adran Drafnidiaeth. Gallwch edrych ar wefan Ymholiadau National Rail er mwyn cael manylion cyswllt pob cwmni trên a rhestr o weithredwyr gorsafoedd.

Pennu prisiau

Bydd pris ambell docyn safonol yn cael ei fonitro gan y llywodraeth fel rhan o gytundebau masnachfraint. Gelwir y prisiau hyn yn 'brisiau rheoledig' – fel arfer, maent yn docynnau i gymudwyr sy'n teithio ar adegau prysur. Mae'r llywodraeth yn pennu faint gall cwmnïau trên ei godi ar bris y tocynnau hyn.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae prisiau'n cael eu rheoleiddio gan y llywodraeth, gallwch gysylltu ag un o'r canlynol:

  • Awdurdod Cludiant Teithwyr (PTE) Merseytravel (ar gyfer Merseyrail Electrics)
  • Transport for London (ar gyfer Gwasanaethau Ar y Ddaear Llundain)
  • Transport Scotland (ar gyfer First ScotRail)
  • Adran busnes, menter, technoleg a gwyddoniaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (ar gyfer Trenau Arriva Cymru)
  • Yr Adran Drafnidiaeth (ar gyfer pob cwmni trên arall)

Eich hawliau a'ch cyfrifoldebau pan fyddwch yn defnyddio gwasanaethau trên

Yn unol â'u trefniant masnachfraint, mae'n rhaid i bob cwmni trên gael a chyhoeddi siarter teithwyr. Bydd y siarter hwn yn pennu lefel y gwasanaeth y gall teithwyr ei ddisgwyl ar eu siwrnai pan fyddant yn mynd ar drên. I gael gwybodaeth am y gwasanaeth y gallwch ei ddisgwyl ac am eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel teithiwr, dilynwch y ddolen isod.

Cael y fargen orau ar gyfer teithwyr rheilffyrdd

Mae Passenger Focus yn gorff annibynnol sy'n gwarchod buddiannau defnyddwyr, a'i nod yw sicrhau'r fargen orau i bobl sy'n teithio ar y rheilffyrdd. Mae Travelwatch Llundain yn gweithio yn yr un ffordd i bobl sy'n teithio ar drenau drwy Llundain.

Os byddwch yn cwyno i gwmni trên am ei wasanaeth a'ch bod yn anfodlon â'r ymateb, gall y cyrff hyn fynd ar drywydd y gŵyn ar eich rhan.

Ewch i 'Cwyno am wasanaethau rheilffyrdd' i gael mwy o wybodaeth.

Cynnal a chadw traciau a signalau

Network Rail sy'n gyfrifol am reoli'r seilwaith rheilffyrdd ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn cynnwys pethau megis:

  • sicrhau ansawdd a diogelwch traciau a phontydd, gan wneud gwaith peirianyddol a gosod cyfyngiadau cyflymder
  • gofalu am ffensys a phlanhigion wrth ymyl y traciau
  • monitro sŵn a dirgrynu, llygredd a graffiti

Gwaith peirianyddol a newidiadau i wasanaethau

Bydd Network Rail yn gwneud y gwaith peirianyddol ar y traciau, ond y cwmni trenau sy'n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth am unrhyw newidiadau i wasanaethau. Dylech weld hysbysiadau neu hysbysebion lleol yn amlinellu'r gwaith peirianyddol arfaethedig mewn gorsafoedd. Gallwch hefyd wybod am waith a allai darfu ar eich taith ar wefan Ymholiadau National Rail neu drwy ffonio eu llinell ymholiadau ar 08457 48 49 50.

Monitro diogelwch y rheilffyrdd

Mae diogelwch rheilffyrdd Prydain yn cael ei fonitro gan y Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd. Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd yn annibynnol ar y diwydiant rheilffyrdd a'r llywodraeth ac yn gyfrifol am wneud yn siŵr:

  • bod Network Rail yn rheoli'r rhwydwaith rheilffyrdd yn effeithlon ac yn ddiogel
  • bod pob corff sy'n gweithio ar y rheilffyrdd yn cadw at gyfraith iechyd a diogelwch

I gael mwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen isod.

Ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd

Mae'r Swyddfa Rheoleiddio Rheilffyrdd hefyd yn gweithio gyda'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffyrdd (RAIB) i ymchwilio i ddamweiniau ar reilffyrdd y DU. RAIB yw'r corff annibynnol sy'n ymchwilio i ddamweiniau rheilffyrdd yn y DU.

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r RAIB ymchwilio i'r holl ddamweiniau rheilffyrdd sy'n ymwneud a thrên yn mynd oddi ar y traciau neu wrthdrawiad sy'n achosi, neu a allai fod wedi achosi:

  • marwolaeth o leiaf un person
  • anafiadau difrifol i bum person neu fwy
  • difrod helaeth i gerbydau trên, y seilwaith rheilffyrdd neu'r amgylchedd

Mae canfyddiadau ymchwiliadau RAIB i ddamweiniau i'w gweld ar wefan RAIB.

Diogelwch ar drenau ac mewn gorsafoedd

Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw'r heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd. Byddant yn gweithio i ddiogelu staff y rheilffyrdd a theithwyr ar hyd a lled Cymru, Lloegr a'r Alban.

I gael gwybodaeth am fod yn ddiogel wrth ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd, ewch i 'Diogelwch teithwyr rheilffyrdd'.

Allweddumynediad llywodraeth y DU