Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno am wasanaethau bws neu fysiau moethus

Oes gennych chi gŵyn am wasanaethau bws, am orsafoedd bws, arosfannau bws neu lochesi bws? Cael gwybod pwy y dylech gysylltu â nhw a sut i gwyno.

Sut i gwyno am wasanaethau bws neu fysiau moethus

Os oes gennych gŵyn am wasanaeth bws, dylech ysgrifennu at y cwmni i ddechrau. Rhowch gymaint ag y bo modd o fanylion am y daith, ac os oes modd, cynnwys y tocyn.

Os ydych yn dal i fod yn anhapus ar ôl hynny, gallwch fynd at y corff perthnasol sy'n delio â chwynion.

Llundain, Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae’r cyrff cwynion statudol hyn yn delio â chwynion am wasanaethau bws yn eu hardaloedd:

  • London TravelWatch
  • Passengers' View Scotland
  • Cyngor Defnyddwyr Gogledd Iwerddon

Gallant eich helpu gyda'r agweddau masnachol, megis prisiau tocynnau a lefelau gwasanaeth, tocynnau, amserlenni a llwybrau bysiau.

Lloegr (y tu allan i Lundain) a Chymru

Ar gyfer Lloegr (y tu allan i Lundain) a Chymru, dylid anfon cwynion at y Corff Apeliadau Bysiau. Gallant eich helpu i ddatrys cwynion yn ymwneud â:

  • diffyg dibynadwyedd
  • prydlondeb
  • ymddygiad staff
  • gwybodaeth wael

Fodd bynnag, yn wahanol i'r cyrff yn Llundain, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ni allant eich helpu gyda'r agweddau masnachol.

Gall y Corff Apeliadau Bysiau hefyd ddelio â chwynion o rannau eraill o'r DU sydd y tu allan i'r cylch o gyrff a sonnir amdanynt uchod, megis gwasanaethau bws moethus.

Newidiadau i wasanaethau

Os na fydd cwmni'n fodlon darparu neu barhau i redeg gwasanaeth oherwydd nad oes digon o deithwyr yn ei ddefnyddio, efallai y gallech dderbyn cymorth gan:

  • eich cyngor lleol
  • Weithrediaeth Cludiant Teithwyr

Cwyno am safonau

Mae cwynion ynghylch safonau cwmnïau bysiau yn cynnwys materion yn ymwneud â:

  • diogelwch
  • cynnal a chadw cerbyd
  • prydlondeb gwasanaethau bysiau lleol

Dylai’r fath hyn o gwynion gael eu cyfeirio at:

  • gomisiynydd traffig yr ardal draffig berthnasol
  • Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA)

Cwyno am arosfannau a gorsafoedd bysiau

Os ydych am gwyno am loches, arosfan neu orsaf bysiau, cysylltwch ag adran drafnidiaeth eich cyngor lleol.

Additional links

Race Online 2012

Gwella cyfleoedd byw y 10 miliwn o bobl sydd heb fod arlein erioed o’r blaen

Allweddumynediad llywodraeth y DU