Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Yma, gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf, y mathau o docynnau y gallwch eu prynu a sut i osgoi cael tocyn teithio cosb yn Llundain. Gallwch hefyd gael gwybod sut i logi bws moethus neu fws cymunedol.
Yn dibynnu ar ble rydych yn byw yn y DU, gallwch brynu nifer o wahanol fathau o docynnau bws a bws moethus. Gallai'r rhain gynnwys tocynnau ar gyfer teithiau unigol i gardiau diwrnod, wythnos a mis, yn ogystal â chardiau i fyfyrwyr neu gardiau i bobl dros 60.
Os bydd eich taith yn cynnwys teithio ar fws a thrên, efallai y gallech brynu un tocyn cyfunol ac arbed arian. System docynnau integredig o drên i fws yw Plusbus. Gall bobl sy’n teithio ar drên i 270 o drefi a dinasoedd ar draws Prydain ychwanegu teithio’n ddiderfyn ac yn rhad ar fws o amgylch pwynt cychwyn neu gyrchfan eu taith trên. Mae dalwyr cerdyn trên yn cael gostyngiad o draean oddi ar brisiau tocynnau Plusbus yn ystod y dydd.
Gallwch ddod o hyd i'ch gwasanaeth bws agosaf pan fyddwch yn cynllunio'ch siwrnai gan ddefnyddio'r cynlluniwr siwrnai ar-lein.
Yng nghanol Llundain, mae'n rhaid i chi brynu'ch tocynnau o beiriannau mewn arosfannau bysiau cyn i chi fynd ar y bws. Oni fyddwch yn prynu tocyn dilys, mae'n bosibl y byddwch yn cael tocyn cosb neu orfod rhoi eich manylion cyswllt ar gyfer cael dirwy bosibl.
Ceir gwybodaeth ynghylch pob gwasanaeth drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Llundain ar wefan Transport for London (TfL).
Mae rhai cwmnïau'n llogi bysiau moethus ar gyfer defnydd preifat. Gallwch chwilio ar wefan Urdd Cwmnïau Bysiau Moethus Prydain am gwmnïau bysiau moethus.
Ceir nifer o gynlluniau bws sy'n cael eu rhedeg gan fudiadau gwirfoddol neu ddi-elw ac sy'n helpu pobl i deithio yn rhad ac yn hwylus. Mae ganddynt hawlenni arbennig sy'n golygu nad oes rhaid iddynt lynu wrth lawer o'r rheolau cerbydau gwasanaeth cyhoeddus arferol. Ceir manylion ar sut y gellir cael hawlen drwy ddilyn y ddolen isod.
Gallwch gysylltu â'ch cyngor lleol am fwy o wybodaeth am fysiau cymunedol yn eich ardal.