Diogelwch ar fws neu fws moethus
Mae bysiau'n ffordd wych o deithio o gwmpas. Ond mae camau penodol y dylech eu cymryd i sicrhau eich diogelwch wrth deithio, yn enwedig os byddwch yn teithio gyda'r nos neu ar eich pen eich hun.
Diogelwch personol
Os byddwch yn teithio ar eich pen eich hun:
- cadwch lygad ar eich bagiau
- peidiwch â rhoi'ch waled yn eich poced ôl
- os mai ymweld â'r ardal ydych chi, ceisiwch gadw'ch camera a'ch map o'r golwg cymaint ag y gallwch
Os byddwch yn teithio'n hwyr gyda'r nos:
- edrychwch ar amserlenni fel na fydd raid i chi aros am fws yn hirach nag sydd raid
- daliwch ati i edrych o'ch cwmpas er mwyn gwneud eich hun yn llai o darged i ladron
- arhoswch mewn llefydd sydd wedi'u goleuo'n dda mewn neu gerllaw i arosfannau a gorsafoedd bws
- ceisiwch drefnu bod rhywun yn dod i'ch cyfarfod
Diogelwch ffôn symudol
Mae rhagofalon syml y gallwch eu cymryd er mwyn eich atal rhag dioddef trosedd, a cheir rhai dulliau o wneud eich ffôn yn anodd ei ddefnyddio os caiff ei ddwyn:
- dylech osgoi siarad ar eich ffôn symudol wrth gerdded
- cyn i chi estyn eich ffôn symudol yn gyhoeddus, edrychwch pwy sydd o'ch cwmpas a rhowch eich hun mewn safle a fydd yn ei gwneud yn anoddach i ladron gael gafael ar y ffôn
- ceisiwch fod mewn man lle gall camerâu Teledu Cylch Cyfyng eich gweld
- cadwch gofnod o fanylion eich ffôn symudol; ei rif cyfeirnod a'i rif PIN
- defnyddiwch y clo ar fysellbad eich ffôn bob amser
- cofrestrwch eich ffôn symudol â'r darparwr gwasanaeth
- rhowch wybod am ladrad i'r heddlu ac i ddarparwr gwasanaeth eich ffôn symudol cyn gynted ag sy'n bosib
Delio â throseddau ar fysiau
Gall troseddau ar fysiau amrywio o ymosodiadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i fandaliaeth a phroblemau eraill, fel ymddygiad plant ysgol ar fysiau ysgol.
Mae'r diwydiant bysiau yn helpu i fynd i'r afael â throseddau o'r fath. Mae hyn yn cynnwys gosod larymau a sgriniau amddiffyn o amgylch gyrwyr a Theledu Cylch Cyfyng mewn bysiau, a hyfforddi staff i ddelio ag unrhyw achosion yn effeithiol.
Er bod troseddau yn erbyn teithwyr yn brin ar fysiau, os byddwch yn dioddef trosedd neu'n dyst i un dylech ffonio'r heddlu. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Damweiniau sy'n ymwneud â bysiau
Mae’r heddlu’n gyfrifol am ymchwilio i bob damwain traffig ar y ffordd.
Os yw'r heddlu'n dweud ei bod yn bosib y bu i ddamwain gael ei hachosi:
- ganlyniad i ddiffyg cynnal a chadw, yna gall yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) ymchwilio i'r ddamwain
- gan nam yng nghynllun neu wneuthuriad y cerbyd a achosodd y ddamwain, bydd VOSA yn gofyn i'r gwneuthurwr alw'r cerbyd yn ôl oherwydd rhesymau diogelwch