Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim ar gyfer pobl dros 60

Mae'r rhan fwyaf o driniaethau dan y GIG (y Gwasanaeth Iechyd Gwladol) am ddim, ond efallai y codir tâl am rai pethau. Mae’r wybodaeth isod yn dangos pwy sydd â hawl i gael presgripsiynau a phrofion llygaid am ddim dan y GIG.

Presgripsiynau am ddim - pwy sy'n gymwys?

Mae gennych hawl i bresgripsiynau am ddim:

  • os ydych chi’n 60 neu'n hŷn
  • os oes gennych gyflwr meddygol penodedig a thystysgrif eithrio feddygol ddilys y GIG
  • os ydych chi wedi gwneud hawliad Cynllun Incwm Isel y GIG a bod gennych dystysgrif eithrio ddilys y GIG (HC2)
  • os ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (yr 'elfen credyd gwarant')
  • os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith seiliedig ar Incwm
  • os oes gennych Dystysgrif Eithrio Credyd Treth ddilys y GIG
  • os ydych yn bensiynwr rhyfel a bod y presgripsiwn ar gyfer eich anabledd cymeradwy a bod gennych dystysgrif eithrio pensiwn rhyfel ddilys

Os oes gennych hawl i bresgripsiwn am ddim, rhaid i chi lenwi'r datganiad ar gefn y ffurflen bresgripsiwn a'i lofnodi. Mae’n bosib y bydd y fferyllydd yn gofyn am gael gweld tystiolaeth i brofi eich hawliad.

Talu costau presgripsiynau'r GIG ymlaen llaw

Os ydych chi'n gorfod talu am eich presgripsiynau, efallai y bydd prynu tystysgrif i dalu am bresgripsiynau ymlaen llaw yn ddefnyddiol i chi. Bydd y dystysgrif yn arbed arian i chi os oes angen mwy na phedair eitem arnoch ar bresgripsiwn mewn tri mis, neu fwy na 14 eitem mewn 12 mis. Mae tystysgrif tri mis yn costio £28.25 ac mae tystysgrif 12 mis yn costio £104.00. Cost un presgripsiwn yw £7.20.

Gallwch wneud cais am dystysgrif drwy ddefnyddio ffurflen FP95 yng Nghymru a Lloegr a ffurflen EC95 yn yr Alban. Mae'r ffurflen hon ar gael o fferyllfeydd a meddygfeydd. Yn Lloegr, gallwch gael ffurflen a chymorth gan yr Awdurdod Prisio Presgripsiynau ar 0845 850 0030. Maent ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 6.00 pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 3.00 pm. Gallwch hefyd wneud cais am dystysgrif ar-lein os ydych chi'n byw yn Lloegr.

Profion llygaid am ddim - pwy sy'n gymwys?

Os ydych chi rhwng 16 a 70 oed argymhellir fel arfer eich bod chi’n cael prawf golwg pob dwy flynedd. Efallai y bydd yn rhaid i chi gael prawf golwg yn fwy aml na hyn os oes rheswm clinigol dros wneud hynny.

Mae gennych hawl i brofion llygaid am ddim dan y GIG:

  • os ydych chi’n 60 neu'n hŷn
  • os oes gennych glawcoma, neu os ystyrir eich bod mewn perygl o gael glawcoma (yn ôl offthalmolegydd)
  • os ydych dros 40 a chyda rhiant, brawd, chwaer, mab neu ferch gyda glawcoma
  • os oes gennych ddiabetes
  • os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall neu’n rhannol ddall
  • os ydych yn gymwys i gael Taleb Lens Cymhleth y GIG
  • os ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (yr 'elfen credyd gwarant')
  • os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith seiliedig ar Incwm
  • os oes gennych Dystysgrif Eithrio Credyd Treth ddilys y GIG
  • os ydych chi wedi gwneud hawliad Cynllun Incwm Isel y GIG a bod gennych dystysgrif eithrio ddilys y GIG (HC2 neu HC3)
  • os ydych yn bensiynwr rhyfel ac angen y prawf llygaid oherwydd anabledd yr ydych yn cael pensiwn rhyfel ar ei gyfer

Hefyd, efallai y cewch daleb tuag at gost sbectol neu lensys cyffwrdd:

  • os ydych chi neu eich partner yn derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn (yr elfen 'credyd gwarant')
  • os ydych chi'n derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith seiliedig ar Incwm
  • os oes gennych chi dystysgrif eithrio credyd treth ddilys y GIG neu dystysgrif eithrio ddilys y GIG (HC2 neu HC3)

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael taleb hefyd os cewch bresgripsiwn o lensys cymhleth.

Help os ydych chi ar incwm isel

Os ydych ar incwm isel, efallai y cewch gymorth gyda chostau iechyd dan y Cynllun Incwm Isel y GIG. Bydd lefel y cymorth yn dibynnu ar faint o incwm sydd gennych.

I wneud cais am gymorth, bydd angen i chi lenwi ffurflen HC1, sydd ar gael o rai ysbytai'r GIG, o swyddfeydd y Ganolfan Byd Gwaith ac ar-lein. Gallwch gael ffurflen a chymorth i'w llenwi gan Wasanaethau Cleifion Cynllun Incwm Isel y GIG neu drwy ffonio 0845 850 1166.

Gallwch hefyd gael ffurflen gan Linell Archebu Cyhoeddiadau'r Adran Iechyd ar 0845 601 1112, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am a 6.00 pm.

Cymorth gyda chostau iechyd eraill

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gyda'r canlynol hefyd:

  • ffioedd deintyddol y GIG, gan gynnwys archwiliadau
  • cost teithio i gael triniaeth dan y GIG dan ofal ymgynghorydd neu drwy atgyfeiriad gan feddyg neu ddeintydd
  • wigiau a gwregysau defnydd, er enghraifft gwregysau i'r stumog a'r meingefn, a theits cymorth

Mae'r llyfryn ‘Cymorth gyda chostau iechyd’ yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol. Mae ar gael mewn ysbytai GIG, mewn meddygfeydd, gan ddeintyddion ac optegwyr ac mewn rhai swyddfeydd Canolfan Byd Gwaith. Gallwch lwytho'r daflen i lawr mewn fformat PDF. Gallwch archebu copi hefyd gan yr Adran Iechyd ar 0845 610 1112, rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae NHS Direct yn darparu cyngor ar gymorth gyda chostau iechyd ar 0845 46 47 yng Nghymru neu Lloegr, ac ar 0800 22 44 88 yn yr Alban.

Additional links

Taliad Tywydd Oer

Os ydych chi ar incwm isel efallai y byddwch yn gymwys am Daliad Tywydd Oer

Cymorth gwresogi ac insiwleiddio

Os ydych yn derbyn budd-daliadau penodol gallech fod yn gymwys i gael cymorth i wresogi ac insiwleiddio eich cartref

Allweddumynediad llywodraeth y DU