Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Wrth i chi heneiddio mae rhai lwfansau ar sail oed sy'n gallu gostwng eich treth. Mae rhai o'r rhain yn symiau o incwm nad oes rhaid i chi dalu treth arnynt, ac mae eraill yn symiau sy'n gostwng eich bil treth. Mae Lwfans Person Dall ar gael hefyd.
Mae bron pawb sy’n byw yn y DU yn cael 'Lwfans Personol' sy'n gadael iddynt gael rhywfaint o incwm yn ddi-dreth bob blwyddyn. Os ydych chi’n cael Lwfans Personol mae’n bosib y bydd yn codi ym mlwyddyn dreth eich pen-blwydd yn 65, gan ddibynnu ar eich incwm trethadwy.
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen Lwfans Personol ar sail Oed P161 yn awtomatig atoch y mis cyn i chi gyrraedd 65 oed. Mae’n bwysig eich bod yn dychwelyd y ffurflen hon fel y gall Cyllid a Thollau EM gyfrifo faint o dreth sydd angen i chi ei thalu.
Ni fyddwch yn derbyn y ffurflen hon yn awtomatig os ydych yn hunan-gyflogedig, yn nesáu at 65 oed ac nid ydych yn talu unrhyw dreth yn ôl y system Talu Wrth Ennill. Caiff eich hawl i Lwfans Personol ar sail Oed ei gyfrifo pan fyddwch yn llenwi a dychwelyd eich ffurflen dreth Hunanasesu am y flwyddyn dreth y byddwch yn cyrraedd 65 oed.
Efallai na fydd Cyllid a Thollau EM yn gwybod faint oed ydych chi oni bai eich bod wedi rhoi gwybod iddynt o’r blaen, ond os ydych chi o fewn mis o gyrraedd 65 oed ac heb derbyn ffurflen, gallwch ei lawrlwytho isod neu gysylltu â Chyllid a Thollau EM a gofyn iddynt am ffurflen. Os ydych yn lawrlwytho’r ffurflen, anfonwch at y cyfeiriad sydd yn yr ail ddolen isod.
Gallwch hawlio Lwfans Pâr Priod os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil ac y cafodd un cymar neu bartner sifil ei eni cyn 6 Ebrill 1935.
Mae hwn yn swm a dynnir oddi ar eich bil treth – felly dim ond os ydych yn talu treth y gallwch ei hawlio. Fodd bynnag, os nad yw’ch incwm yn ddigon uchel i fanteisio ar y lwfans, gallwch drosglwyddo’r gweddill i’ch cymar neu’ch partner sifil.
I gael gwybod rhagor am Lwfans Pâr Priod, darllenwch y canllaw isod yn adran Treth Incwm y wefan.
Gallwch gael lwfans i leihau eich bil treth ar gyfer taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu gwneud i'ch cyn gymar neu'ch cyn bartner sifil:
Gallwch ddarllen rhagor am Ostyngiad Taliadau Cynhaliaeth yn adran Treth Incwm y wefan.
Mae Lwfans Person Dall yn cael ei ychwanegu i’r Lwfans Personol di-dreth – felly mae’n swm ychwanegol o incwm y gallwch ei gael bob blwyddyn heb dalu treth.
Gallwch ei hawlio os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil a heb fod yn talu digon o dreth i ddefnyddio'r holl lwfans, gallwch drosglwyddo unrhyw lwfans nad ydych wedi'i ddefnyddio i'ch gŵr, gwraig neu bartner sifil. Cewch wneud hyn ni waeth am gyflwr ei g/olwg, os yw’n talu treth.