Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi’n ymddeol dramor ac yn rhoi'r gorau i breswylio yn y DU, efallai y bydd yn dal yn rhaid i chi dalu treth y DU. Os byddwch chi’n dychwelyd i ymddeol (neu weithio) yn y DU ar ôl byw dramor fel person dibreswyl, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM fel y gallant sicrhau eich bod chi’n talu’r swm treth cywir.
Os ydych chi’n ymddeol dramor mae’n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM. Byddant yn canfod:
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon ffurflen P85 i chi er mwyn i chi gael unrhyw ad-daliad treth sy’n ddyledus i chi. Gallwch hefyd ddefnyddio’r ail ddolen isod i lawrlwytho’r ffurflen. Os byddwch chi’n gadael y wlad ar ôl i’r flwyddyn dreth ddechrau, byddant yn ystyried hyn.
Gallwch ddarllen manylion treth wrth adael y DU yn y canllaw isod.
Os byddwch chi’n dychwelyd i ymddeol neu weithio yn y DU ar ôl byw neu ymddeol dramor fel person dibreswyl, bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich amgylchiadau newydd fel y gallant sicrhau eich bod chi’n talu’r swm treth cywir.
Dyma’r pethau allweddol i’w gwneud o flaen llaw:
Efallai yr hoffech gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn ynghylch eich pensiwn a’ch budd-daliadau, i roi iddynt:
Bydd y dreth y byddwch chi’n ei thalu yn dibynnu ar p'un ai a ydych yn 'preswylio', yn 'preswylio'n arferol' ynteu â'ch 'domisil' yn y DU. Mae gan y DU cytundebau treth dwbl gyda sawl gwlad arall i sicrhau nid ydych chi’n talu treth dwywaith ar yr un incwm neu ennill. Os byddwch chi’n dychwelyd i’r DU ar ôl i’r flwyddyn dreth ddechrau, bydd hyn yn cael ei ystyried. Gallwch gael mwy o fanylion ynghylch yr holl faterion hyn drwy ddilyn y dolenni isod.