Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi’n talu treth ar bensiwn a/neu swydd drwy’r system TWE (Talu Wrth Ennill), mae’n bwysig eich bod yn deall eich cod treth ac yn gwneud yn siŵr ei fod yn gywir. Mae hefyd yn bwysig eich bod yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM os ydych chi’n meddwl bod eich cod treth, neu unrhyw wybodaeth sy'n effeithio ar eich cod treth, yn anghywir.
Defnyddir cod treth gan eich cyflogwr neu gan bwy bynnag sy'n talu eich pensiwn er mwyn cyfrifo faint o dreth i'w thynnu o'ch cyflog neu’ch pensiwn. Gan amlaf, mae’n cynnwys un llythyren a sawl rhif, er enghraifft: 117L neu K497.
Os yw'ch cod treth (neu’ch codau treth) yn anghywir, gallech dalu gormod neu ddim digon o dreth.
I gael gwybod beth y mae’ch cod treth yn ei olygu, a sut y caiff ei gyfrifo ac i ddeall pa newidiadau all effeithio arno, darllenwch y ddolen isod.
Hysbysiad papur yw’ch 'Hysbysiad Cod TWE' ac mae'n rhoi gwybod i chi beth yw eich cod treth a sut y caiff ei gyfrifo. Fel arfer, caiff ei anfon atoch ar ddechrau’r flwyddyn dreth neu ar adegau eraill os oes rhywbeth wedi newid. Er enghraifft, os yw eich hawl i gael lwfansau sy'n gysylltiedig ag oedran neu lwfansau eraill wedi newid, neu os ydych chi wedi dechrau cael ffynhonnell newydd o incwm neu fudd cwmni newydd.
Er mwyn deall y cofnodion ar eich Hysbysiad Cod TWE ac i gael gwybod beth i’w wneud os byddwch yn credu eu bod yn anghywir, darllenwch y canllaw isod.
Mae Pensiwn y Wladwriaeth a rhai budd-daliadau’r wladwriaeth yn drethadwy, ond cânt eu talu cyn i dreth gael ei didynnu ohonynt.
Os ydych yn cael pensiwn cwmni neu bensiwn personol, caiff y dreth ei didynnu drwy ddefnyddio system cod treth TWE. Byddwch fel arfer yn talu unrhyw dreth sy'n ddyledus ar eich Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau’r wladwriaeth drwy'r system honno hefyd.
Fel arall, os ydych yn gweithio efallai y byddwch yn talu treth ar y taliadau hyn drwy god treth eich cyflogwr.
I gael deall rhagor am sut y mae Pensiwn y Wladwriaeth neu fudd-daliadau'r wladwriaeth yn effeithio ar eich cod treth, dilynwch y ddolen isod.
Os oes gennych chi fwy nag un ffynhonnell o waith a/neu incwm pensiwn sy'n cael eu trethu drwy TWE ar yr un pryd, gall fod yn gymhleth. Felly, mae'n bwysig iawn eich bod yn gwneud yn siŵr bod eich codau treth yn gywir er mwyn sicrhau eich bod yn talu'r swm cywir o dreth.
Rhoddir eich cod treth gan Gyllid a Thollau EM, ac mae’n seiliedig ar wybodaeth sydd ganddo am eich lwfansau a’ch incwm trethadwy: mae'n dweud wrth eich cyflogwr neu dalwr eich pensiwn faint o Dreth Incwm i'w didynnu o'ch cyflog neu'ch pensiwn.