Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib y gallwch gael Bonws Nadolig, y taliad untro di-dreth o £10 a delir cyn y Nadolig. Telir hwn yn awtomatig i'r cwsmeriaid hynny sy'n cael budd-dal cymwys yn yr wythnos gymwys.
I gael Bonws Nadolig, rhaid i chi fod yn byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Gibraltar, yn unrhyw un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop, neu'r Swistir a bod gennych hawl i o leiaf un o'r budd-daliadau canlynol yn yr wythnos gymwys:
Cofiwch, fyddwch chi ddim yn gymwys i gael y Bonws Nadolig ar sail derbyn Pensiwn y Wladwriaeth os ydych chi’n gohirio eich hawl i Bensiwn y Wladwriaeth.
Un taliad o £10 yw'r Bonws Nadolig.
Os ydych chi'n un o bâr priod neu ddibriod neu bartneriaeth sifil a bod gan y ddau ohonoch yr hawl i un o'r budd-daliadau cymwys, bydd y ddau ohonoch yn derbyn taliad Bonws Nadolig.
Bydd eich partner neu'ch partner sifil hefyd yn cael taliadau os yw'r ddau bwynt canlynol yn berthnasol:
a naill ai
neu
Fel arfer, telir y Bonws Nadolig yn syth i'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu, Swyddfa'r Post® neu Gynilion Cenedlaethol sy'n derbyn Taliad Uniongyrchol.
Os ydych wedi'ch cofrestru'n ddall, neu os oes angen i'r sawl sy'n gofalu amdanoch gasglu'ch arian, anfonir siec atoch y gellir ei chyfnewid am arian yn Swyddfa'r Post®.
Ni fydd y Bonws Nadolig yn effeithio ar fonysau eraill yr ydych yn eu cael o bosibl.
Does dim angen i chi hawlio'r Bonws Nadolig - fe'i cewch yn awtomatig. Os ydych chi'n meddwl eich bod yn gymwys i gael y taliad ond nad ydych wedi'i dderbyn, holwch yn eich Canolfan Byd Gwaith neu'r ganolfan bensiwn sy'n delio â'ch taliadau.