Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes angen help arnoch i dalu'ch rhent pan fydd budd-daliadau penodol eraill yn dod i ben am eich bod yn dychwelyd i'r gwaith, yn gweithio mwy o oriau neu'n ennill mwy o arian, efallai y bydd modd i chi gael Budd-dal Tai am bedair wythnos yn ychwanegol.
Erbyn hyn, does dim rhaid i chi hawlio'r Budd-dal Tai am gyfnod Estynedig os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil (a'u bod yn dal yn bartner i chi drwy gydol yr hawliad) wedi rhoi'r gorau i gael un o'r budd-daliadau a grybwyllir isod gan fod disgwyl i un ohonoch wneud un o'r canlynol am bum wythnos neu ragor:
a'ch bod wedi bod yn cael un o'r canlynol:
neu
ac
Fel arfer, fe gewch yr un faint o Fudd-dal Tai ag yr oeddech chi'n ei gael cyn i'ch Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, eich Cymhorthdal Incwm, eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, eich Budd-dal Analluogrwydd, eich Lwfans Anabledd Difrifol neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol ddod i ben.
Fe'i telir gan eich cyngor lleol, yn yr un ffordd ag y byddwch chi fel arfer yn cael eich Budd-dal Tai.
Pan fydd eich Cymhorthdal Incwm, eich Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm yn dod i ben gan eich bod yn dechrau gweithio neu gan fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich cyngor lleol yn edrych i weld ers faint yr ydych wedi bod yn eu cael.
Pan fydd eich Budd-dal Analluogrwydd, eich Lwfans Anabledd Difrifol neu'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn dod i ben am eich bod yn dechrau gweithio neu am fod eich amgylchiadau'n newid, bydd eich cyngor lleol yn edrych i weld ers faint yr ydych chi wedi bod yn eu cael.
Yn y naill sefyllfa neu'r llall, eich cyngor lleol fydd yn penderfynu a oes gennych hawl i gael taliadau estynedig ai peidio.
Bydd eich cyngor lleol yn ystyried a oes gennych hefyd hawl i Fudd-dal Tai mewn gwaith. Ar ôl i chi gael y tâl am y cyfnod estynedig, bydd modd i chi gael y Budd-dal Tai mewn gwaith (ar yr amod bod gennych hawl iddo) heb orfod gwneud hawliad newydd.
Os gwrthodir Budd-dal Tai neu'r Taliadau Estynedig i chi, gallwch ofyn i'r cyngor lleol ailedrych ar y penderfyniad.
Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl annibynnol.