Pa fath o gyllid myfyrwyr sy'n cyfri fel incwm wrth gyfrifo budd-daliadau?
Wrth ichi gyfrifo a ydych chi'n gymwys i gael budd-daliadau ar sail incwm tra byddwch yn fyfyriwr mewn addysg uwch, bydd y Ganolfan Byd Gwaith ac adran Budd-dal Tai eich awdurdod lleol yn cyfri rhai mathau o Fenthyciadau Myfyrwyr, grantiau a mathau eraill o gyllid myfyrwyr fel incwm.
Mathau o gymorth myfyrwyr sy'n cyfri fel incwm
Y mathau o gymorth myfyrwyr sy'n cyfri fel incwm yw:
- y rhan fwyaf o unrhyw Fenthyciad Cynhaliaeth y mae hawl gennych i'w gael, hyd yn oed os ydych yn dewis peidio â'i gymryd
- Grant Oedolion Dibynnol
- Taliadau Cronfa Mynediad at Ddysgu sydd wedi'u bwriadu i helpu gyda chostau byw cyffredinol (er, dan rai amgylchiadau, gellir diystyru rhan o'r taliad, neu'r taliad yn llawn)
- Grant Cynhaliaeth (ar gael i fyfyrwyr amser llawn y dechreuodd eu cyrsiau ym mis Medi 2006 neu'n hwyrach)
- Bwrsarïau (ar gael i fyfyrwyr amser llawn y dechreuodd eu cyrsiau ym mis Medi 2006 neu'n hwyrach) nad ydynt ar gyfer costau yn ymwneud â chyrsiau na gofal plant
Mathau o gymorth myfyrwyr nad ydynt yn cyfri fel incwm
Ni fydd y canlynol yn cyfri fel incwm:
- Grant Addysg Uwch (ar gyfer myfyrwyr amser llawn y mae eu cyrsiau'n dechrau yn 2004/2005 neu 2005/2006)
- Grant ffioedd dysgu (ar gyfer myfyrwyr amser llawn y mae eu cyrsiau'n dechrau cyn mis Medi 2006)
- Benthyciad Ffioedd Dysgu
- Grant Gofal Plant
- Lwfans Dysgu i Rieni
- Taliadau Cronfa Mynediad at Ddysgu nad ydynt wedi'u bwriadu ar gyfer costau byw cyffredinol
- Grant Cymorth Arbennig (ar gael i fyfyrwyr amser llawn y dechreuodd eu cyrsiau ym mis Medi 2006 neu'n hwyrach, ac sy'n dod o fewn y grwpiau o fyfyrwyr a restrir yn y rheoliadau Cymhorthdal Incwm neu Fudd-dal Tai)
- Bwrsarïau (ar gael i fyfyrwyr amser llawn y dechreuodd eu cyrsiau ym mis Medi 2006 neu'n hwyrach) sydd ar gyfer costau yn ymwneud â chyrsiau neu ofal plant
Os ydych yn derbyn unrhyw ffynonellau cymorth eraill, siaradwch â'ch cynghorydd myfyrwyr yn y coleg neu'r brifysgol i gael gwybod a ydynt yn cyfri fel incwm wrth gyfrifo'ch hawl i gael budd-daliadau.