Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n denant preifat sy'n rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat a chithau ar incwm isel, mae'n bosibl y gallwch hawlio a derbyn Lwfans Tai Lleol. Dewch i gael gwybod mwy, gan gynnwys sut caiff ei dalu.
Os ydych yn rhentu eiddo neu ystafell gan landlord preifat, defnyddir y Lwfans Tai Lleol i gyfrifo faint o Fudd-dal Tai a gewch.
Mae faint o Fudd-dal Tai a gewch yn dibynnu ar ble rydych yn byw a phwy sy'n byw gyda chi.
Gosodir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol ar gyfer gwahanol fathau o lety ym mhob ardal. Mae'r cyfraddau yn amrywio o un ystafell mewn tŷ a rennir, hyd at eiddo gyda phedair ystafell wely.
Os ydych chi wedi bod yn cael Budd-dal Tai ers cyn 7 Ebrill 2008, bydd y Lwfans Tai Lleol yn berthnasol i chi os byddwch naill ai’n:
Bydd eich Budd-dal Tai yn seiliedig ar y Lwfans Tai Lleol sy'n berthnasol i chi.
Mae'r ffordd y caiff cyfraddau Lwfans Tai Lleol eu cyfrifo yn newid o fis Ebrill 2011. Efallai y cewch swm is o Fudd-dal Tai.
Os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai, mae'n bwysig eich bod yn ystyried y newidiadau hyn - yn enwedig os ydych yn meddwl am symud neu arwyddo tenantiaeth newydd.
Cyhoeddir cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol ar ddiwedd pob mis ar gyfer y mis canlynol. Er enghraifft, bydd cyfraddau mis Rhagfyr ar gael ar ddiwedd mis Tachwedd.
Gallwch wirio hyn yn lleol ar wefan eich cyngor lleol neu drwy fynd i wefan Lwfans Tai Lleol Uniongyrchol.
Bydd gwirio’r cyfraddau yn eich helpu i gael gwybod faint o help gyda'ch rhent y gallech ei gael - cyn i chi ddod o hyd i rywle i fyw. Bydd cael gwybod am hyn yn ei gwneud yn haws i chi benderfynu pa eiddo y gallwch ei fforddio.
Mae newidiadau pwysig i Lwfans Tai Lleol o 1 Ebrill 2011.
Os ydych yn gwneud cais newydd, bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi o'r dyddiad hwn.
Os ydych eisoes yn hawlio Budd-dal Tai, efallai y bydd gennych fwy o amser cyn y bydd y newidiadau hyn yn berthnasol i chi. Os na fydd yw eich amgylchiadau yn newid, byddwch yn parhau i gael yr un gyfradd o Lwfans Tai Lleol a gewch yn awr. Ar ôl 1 Ebrill 2011, bydd hyn yn parhau am naw mis ar ôl i’ch awdurdod lleol asesu eich Budd-dal Tai nesaf.
Cyfyngiadau ar gyfer Lwfans Tai Lleol
Cyflwynir cyfyngiad er mwyn i Lwfans Tai Lleol beidio fod yn fwy na:
Dileu taliad gormodedd £15 wythnosol
Ar hyn o bryd, os yw’r rhent rydych yn ei dalu yn llai na chyfradd y Lwfans Tai Lleol wythnosol, gallwch gadw hyd at £15 o wahaniaeth.
O fis Ebrill 2011, os bydd y rhent a dalwch yn llai na'r gyfradd wythnosol o Lwfans Tai Lleol, byddwch ond yn derbyn y swm y bydd angen i chi dalu am eich rhent yn unig.
Bydd hyn yn berthnasol i chi os ydych eisoes yn cael Budd-dal Tai, neu os ydych yn gwneud cais newydd.
Gostyngiadau i gyfraddau Lwfans Tai Lleol
Gostyngir cyfraddau Lwfans Tai Lleol ledled y wlad.
I’ch helpu cynllunio ar gyfer y newidiadau'r flwyddyn nesaf, gallwch gymharu’r cyfraddau presennol ble rydych yn byw gyda’r cyfraddau newydd sydd yn debygol o fodoli.
Gallwch hawlio Lwfans Tai Lleol cyn gynted ag y bydd gennych gytundeb rhent gyda'ch landlord.
Gwneir y taliad fel arfer i’ch cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Taliadau i landlordiaid
Ni wneir taliadau yn arferol i’ch landlord, fel arfer eich cyfrifoldeb chi yw talu’r rhent i’ch landlord. Os na fyddwch yn talu eich rhent, gallech gael eich cymryd i’r llys a’ch taflu allan o’r eiddo.
Os ydych yn pryderu cadw trefn ar eich arian gofynnwch i’ch cyngor lleol os gallant eich helpu. Mewn ambell achos efallai y gall dalu eich budd-dal i’ch landlord.
Os ydych yn cael Budd-dal Tai a'ch bod yn symud i gyfeiriad newydd neu os oes rhyw newid arall yn eich amgylchiadau, dylech roi gwybod i'ch cyngor lleol ar unwaith. Gweler ‘Budd-dal Tai’ i ganfod mwy am newidiadau mewn amgylchiadau.