Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cael Budd-dal y Dreth Cyngor am gyfnod Estynedig

Pan fyddwch yn mynd yn ôl i’r gwaith, gweithio mwy o oriau neu ennill fwy o arian, efallai y bydd rhai o’ch budd-daliadau yn dod i ben. Efallai y bydd modd i chi gael Budd-dal Treth Cyngor am bedair wythnos yn ychwanegol, a elwir yn Budd-dal Treth Cyngor am gyfnod Estynedig. Cael gwybod mwy, gan gynnwys pwy sy’n gymwys.

Pwy sy’n gymwys?

Does dim rhaid i chi hawlio Budd-dal y Dreth Cyngor am gyfnod Estynedig os ydych chi neu'ch partner neu'ch partner sifil (a'u bod yn dal yn bartner i chi drwy gydol yr hawliad) wedi rhoi'r gorau i gael un o'r budd-daliadau a grybwyllir isod gan fod disgwyl i un ohonoch wneud un o'r canlynol am bum wythnos neu ragor:

  • mynd yn ôl i waith amser llawn
  • gweithio mwy o oriau
  • ennill mwy o arian

a'ch bod wedi bod yn cael un o'r canlynol

  • Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu gyfuniad o'r budd-daliadau hyn yn ddi-dor am o leiaf 26 wythnos
  • Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Anabledd Difrifol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cyfrannol yn ddi-dor am 26 wythnos

Bydd eich cyngor lleol yn penderfynu os allech gael Budd-dal Treth Cyngor am gyfnod Estynedig ar ôl iddynt wirio am faint o amser yr ydych chi wedi bod yn derbyn y budd-daliadau a enwir uchod.

Faint fyddwch chi’n ei gael?

Fel arfer, fe gewch yr un faint o Fudd-dal y Dreth Cyngor ag yr oeddech chi'n ei gael o’r blaen.

Sut mae'n cael ei dalu

Caiff ei dynnu oddi ar eich bil Treth Cyngor yn y ffordd arferol.

Pa gymorth arall sydd ar gael

Os ydych chi’n mynd yn ôl i’r gwaith, bydd eich cyngor lleol hefyd yn penderfynu os allech gael Budd-dal Treth Cyngor yn y Gwaith. Unwaith y mae eich cyfnod taliad estynedig wedi dod i ben, gallwch symud ymlaen i Fudd-dal Treth Cyngor (yn dibynnu os ydych ag hawl iddo) heb orfod gwneud cais newydd.

Sut mae apelio

Os gwrthodir Budd-dal Treth Cyngor neu'r Taliad Estynedig neu Fudd-dal Treth Cyngor yn y Gwaith i chi, gallwch ofyn i'r cyngor lleol ailedrych ar y penderfyniad.

Os ydych chi'n dal yn anhapus gyda'r canlyniad, gallwch apelio i Dribiwnlys Apêl annibynnol.

Additional links

Cyngor am fudd-daliadau ar-lein

Cael cyngor am fudd-daliadau ar-lein drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i ateb cwestiynau am eich sefyllfa

Peidiwch â chael eich cnoi...

Ydych chi wedi cael eich cysylltu gan siarc benthyg? Gallwch riportio benthycwyr didrwydded

Allweddumynediad llywodraeth y DU