Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Biliau dyledus am wasanaethau

Os ydych chi’n ei chael yn anodd talu biliau am wasanaethau, megis nwy a thrydan, mae'n bwysig eich bod yn delio â'r broblem. Mae cwmnïau'r prif wasanaethau (ac eithrio cyflenwyr dŵr) yn gallu atal eich cyflenwad. Mae hyd yn oed eich bil ffôn yn flaenoriaeth os oes angen ffôn arnoch i ennill eich bara beunyddiol.

Beth i'w wneud os na allwch dalu bil gwasanaethau

Gwnewch restr o bawb y mae arnoch chi arian iddyn nhw, sef eich credydwyr

Penderfynu pa ddyledion i'w talu gyntaf

Rhestrwch eich credydwyr yn nhrefn eu pwysigrwydd er mwyn gwybod pa rai i'w talu gyntaf. Mae rhai biliau'n bwysicach i'w talu nag eraill am eu bod yn ‘ddyledion â blaenoriaeth’. Mae biliau'r prif wasanaethau'n ddyledion â blaenoriaeth – mae hyn yn golygu y gall peidio â'u talu arwain at ganlyniadau difrifol.

Cael trefn ar eich cyllideb

Ceisiwch gael trefn ar eich cyllideb wythnosol neu fisol bersonol. Nodwch fanylion eich incwm a'ch gwariant. Edrychwch i weld beth y gallwch fforddio'i dalu i'ch credydwyr a phenderfynu faint y byddwch chi'n ei dalu i bob un ohonynt.

Cysylltu â'ch cyflenwyr gwasanaethau

Cysylltwch â phob cwmni gwasanaethau os oes gennych fil ganddyn nhw heb ei dalu. Esboniwch eich sefyllfa a chynnig talu swm y gallwch ei fforddio.

Mae pob cyflenwr tanwydd (trydan a nwy) yn dilyn cod ymarfer sy'n golygu na fyddan nhw'n atal eich cyflenwad os cytunwch chi ar gynllun talu a chadw ato. Bydd angen i chi holi’ch cyflenwr am fanylion ei god ymarfer. Dylai’ch cyflenwr ystyried eich gallu i dalu – os na fyddan nhw'n gwneud hynny, dylech gwyno wrth Cyswllt Defnyddwyr – gweler ‘Beth i'w wneud os cewch chi broblemau wrth ddelio â'ch cyflenwr tanwydd’ isod.

Gallai cynllun talu gynnwys:

  • talu'n fisol neu'n wythnosol
  • defnyddio mesurydd talu-ymlaen-llaw

Gyda mesurydd talu-ymlaen-llaw, byddwch yn defnyddio cerdyn clyfar, allwedd neu docyn (neu, weithiau ddarnau arian) i dalu am eich nwy neu'ch trydan wrth i chi ei ddefnyddio. Byddwch yn llenwi eich cerdyn neu'ch allwedd mewn PwyntiauTalu megis siopau papur newydd a Swyddfeydd Post. Os oes gennych fesurydd talu-ymlaen-llaw wedi'i osod, cofiwch mai dim ond pan fyddwch chi wedi rhoi rhywbeth i mewn y cewch chi'r cyflenwad.

Budd-daliadau a all helpu

Tanwydd Uniongyrchol

Os oes gennych filiau heb eu talu gan gyflenwr tanwydd neu ddŵr, gallwch ofyn i'ch swyddfa budd-daliadau eu talu'n uniongyrchol o'ch budd-dal, gelwir y drefn hon yn Danwydd Uniongyrchol. Mae hyn yn talu am y tanwydd rydych chi'n ei ddefnyddio ar y pryd ac mae hefyd yn talu rhywfaint bob wythnos oddi ar y bil sy'n ddyledus.

Os byddwch chi'n defnyddio'r drefn Tanwydd Uniongyrchol, darllenwch eich mesurydd a dywedwch wrth eich swyddfa budd-daliadau - bydd hyn yn help i sicrhau bod eich cyflenwr yn deall y sefyllfa'n iawn.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Gall y mwyafrif o bobl a anwyd cyn neu ar 5 Gorffennaf 1950 gael Taliad Tanwydd Gaeaf i helpu i dalu am gadw’n gynnes yn y gaeaf. Am 2010-11 mae’r cymhwysedd yn dibynnu ar eich amgylchiadau rhwng 20-26 Medi 2010. Mae hwn yn gyfandaliad di-dreth â’r rhan fwyaf o’r taliadau wedi’u gwneud cyn y Nadolig.

Buddion eraill

Os ydych chi'n ei chael yn anodd talu'ch biliau gwasanaethau ond nad ydych yn hawlio budd-daliadau, mae'n werth edrych i weld a ydych chi'n gymwys i gael rhai. Os ydych chi ar incwm isel neu os oes gennych gostau ychwanegol oherwydd eich sefyllfa bersonol, mae'n bosib y bydd rhai budd-daliadau y gallech eu hawlio.

Ffyrdd eraill i helpu

Cronfeydd ymddiriedolaeth

Mae rhai cwmnïau tanwydd wedi sefydlu cronfeydd ymddiriedolaethau a allai eich helpu i dalu’ch biliau os oes gennych anawsterau ariannol. Gofynnwch i’ch cwmni tanwydd os ydynt yn rhedeg cynllun.

Cael y fargen ynni orau

Efallai y gallwch arbed rhywfaint o arian drwy newid i gyflenwr neu dariff arall.

Beth i'w wneud os cewch chi broblemau'n delio â'ch cyflenwydd tanwydd

Os ydych chi'n cael trafferth datrys yr anawsterau gyda'ch cyflenwydd tanwydd, gallwch gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr, a fydd yn darparu cyngor a gwybodaeth ar sut i i barhau â’ch cywn os ydych yn anfodlon gydag ymateb y cwmni.

Os ydych chi’n cael eich bygwth â datgysylltiad, cysylltwch â Chyswllt Defnyddwyr ar unwaith.

Gallwch gysylltu â Chyswllt Defnyddwyr ar 0845 040 506 neu ymweld â’i wefan am ragor o wybodaeth.

Dyledion trethi dŵr

Bydd llawer o gwmnïau dŵr yn anfon biliau ddwywaith y flwyddyn, ym mis Ebrill ac ym mis Hydref. Gallwch dalu'ch bil i gyd ar unwaith neu fesul tipyn - bob wythnos, bob pythefnos neu bob mis efallai. Os byddwch chi'n mynd ar ei hôl hi gyda'ch taliadau, all y cwmni dŵr ddim atal eich cyflenwad, ond fe allan nhw gymryd camau i gael eu harian, ac, os oes angen, mynd â chi i'r llys.

Mae cynllun ar gael o’r enw ‘WaterSure’ a allai eich helpu o bosib. Ceir siart rediad defnyddiol ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr ble y gallwch weld os ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun WaterSure.

Cwynion

Os oes gennych gwyn am eich cwmni dŵr, dylech siarad neu ysgrifennu at eich cwmni dŵr yn gyntaf. Dylai fod gan bob cwmni dŵr eu trefn gwyno y gallant anfon atoch. Dylai’ch cwmni dŵr ateb eich cwyn o fewn deg diwrnod gwaith.

Os nad ydych chi’n hapus gyda’r canlyniad gallwch wedyn gwyno i’r Cyngor Defnyddwyr Dŵr. Gallwch gysylltu â nhw ar 0845 039 2837 neu ymweld â’i gwefan am ragor o wybodaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU