Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae llawer o sefydliadau'n cynnig cyngor diduedd am ddim ar broblemau dyled. Os oes angen help arnoch i reoli eich dyled, cewch wybod yma ble y gallwch gael cefnogaeth dros y ffôn neu yn eich ardal leol.
0808 808 4000
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 9.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 9.30 am ac 1.00 pm
Mae'r Llinell Ddyled Genedlaethol yn cynnig cymorth cyfrinachol ac annibynnol am ddim dros y ffôn i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Gallwch ffonio'r llinell gymorth a llwytho cyhoeddiadau oddi ar eu gwefan.
0800 138 1111
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8.00 am ac 8.00 pm
Mae gan Wasanaeth Cwnsela Credyd Defnyddwyr linell gymorth sy'n cynnig cyngor annibynnol a diduedd am ddim i bobl â phroblemau dyled sy’n byw yn y DU.
0800 716 239
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.00 am a 9.00 pm; dydd Sadwrn rhwng 9.00 am a 3.00 pm
Mae Payplan yn rhoi cyngor am ddim ar ddyledion a chyllidebu i bobl sy’n byw yn y DU. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau rheoli dyled sy'n rhad ac am ddim a Chytundebau Gwirfoddol Unigol (IVAs) heb ffi i'w thalu ymlaen llaw.
0845 345 4 345
Dydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 6.30 pm
Os ydych chi’n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ac yn byw yng Nghymru neu yn Lloegr, gall Cyngor Cyfreithiol Cymunedol gynnig help neu gyngor cyfreithiol am ddim dros y ffôn ar broblemau dyled, tai, cyflogaeth, addysg, budd-daliadau lles a chredydau treth.
Mae eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn rhywle da i gael cyngor am ddim. Maent yn darparu gwybodaeth a chyngor yn rhad ac am ddim am broblemau cyfreithiol, problemau ariannol a phroblemau eraill. Gallwch ddod o hyd i'ch canolfan CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar eu gwefan.
Mae Shelter yn cynnig cyngor cyfrinachol am ddim ar dai, dyledion, budd-daliadau lles, anghenion iechyd a gofal (gan gynnwys hawliau anabledd). Yn Lloegr, ffoniwch 0808 800 4444 os hoffech gael cyngor cyffredinol. Yng Nghymru, ffoniwch 0845 075 5005.
Rhwydwaith o ganolfannau cynghori annibynnol ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yw AdviceUK. I ddod o hyd i’ch asiantaeth agosaf, ewch i wefan AdviceUK neu ffoniwch 020 7407 4070.
Mae rhai awdurdodau lleol yn cynnig gwasanaeth cwnsela ar ddyledion yn rhad ac am ddim. Gallwch weld a yw'ch awdurdod lleol yn cynnig hyn drwy ddilyn y ddolen isod. Gofynnir i chi roi manylion ble'r ydych yn byw, ac yna cewch eich arwain at wefan eich awdurdod lleol ble cewch ragor o wybodaeth.
Os oes rhywun yn bygwth cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn a’ch bod yn gymwys i gael Cymorth Cyfreithiol, efallai yr hoffech gael cyngor annibynnol am ddim gan y Ganolfan Gyfraith leol.
Mae gwefan Advice NI yn rhoi rhestr o ganolfannau cynghori ar gyfer pobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon.