Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Pa ddyledion y dylech eu talu’n gyntaf

Wrth geisio rhoi trefn ar eich dyledion i weld sut mae eu talu'n ôl, bydd angen i chi nodi’r rhai pwysicaf. Gelwir y rhain yn ‘ddyledion blaenoriaethol’ a dyma’r dyledion y dylid eu talu’n gyntaf. Yma cewch wybod beth yw dyledion blaenoriaethol a ble y gallwch gael cymorth a chyngor.

Dyledion â blaenoriaeth

Nid y dyledion mwyaf yw’r dyledion pwysicaf o reidrwydd. Dyledion blaenoriaethol yw'r rhai lle gellir cymryd camau difrifol yn eich erbyn os na fyddwch chi'n talu'r hyn sy'n ddyledus.

Dyma ychydig enghreifftiau o ddyledion blaenoriaethol, a chanlyniadau peidio â delio â nhw.

Morgeisi a benthyciadau wedi’u sicrhau

Os na fyddwch yn talu eich taliadau morgais a’ch taliadau ar fenthyciadau sydd wedi’u sicrhau ar eich tŷ yn brydlon, gall y benthyciwr gymryd camau cyfreithiol i feddiannu eich tŷ a’i werthu.

Rhent

Os byddwch chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gall eich landlord ddwyn achos meddiannu yn eich erbyn yn y llys sirol, er mwyn eich troi allan o’ch cartref (a bydd yr ôl-ddyledion rhent yn dal yn ddyledus gennych).

Treth, Yswiriant Gwladol a TAW

Mae'n bwysig eich bod yn talu trethi. Gall peidio â thalu eich trethi arwain at gael eich gwneud yn fethdalwr. Ni fyddai dyled treth yn unig yn ddigon o reswm ar gyfer dedfryd o garchar, ond gallai achosion o dwyll difrifol arwain at achosion troseddol.

Gordalu credydau treth

Os talwyd gormod o gredydau treth i chi, gan amlaf bydd y Swyddfa Credyd Treth yn gofyn i chi dalu’r arian ychwanegol yn ôl. Os yw hynny’n golygu na fyddwch yn gallu talu costau byw hanfodol, megis rhent, biliau nwy neu drydan, ffoniwch y Swyddfa i drafod eich opsiynau.

Treth Cyngor

Rhowch wybod i'ch cyngor cyn gynted ag y tybiwch y byddwch yn cael trafferth talu'ch bil. Mae’n bosib y bydd yn gallu lleihau faint y mae’n rhaid i chi ei dalu. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gymwys i gael Budd-dal Treth Cyngor neu ddisgownt nad oeddech yn gwybod amdano.

Biliau cyfleustodau

Gall cwmnïau nwy a thrydan ddatgysylltu'r cyflenwad i'ch cartref os na fyddwch chi'n talu eu biliau. Gall hyd yn oed eich bil ffôn fod yn flaenoriaeth os oes angen ffôn arnoch i ennill eich bara beunyddiol.

Bydd angen i chi ddal ati i dalu eich biliau dŵr parhaus, ond gall unrhyw ôl-ddyledion dŵr sydd gennych gael eu cynnwys gyda’ch dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth (gweler isod).

Dyled hur bwrcas (HP)

Os yw'r hyn rydych chi'n ei brynu ar gredyd (neu 'HP') yn hanfodol – megis prynu car sy'n angenrheidiol ar gyfer eich gwaith – dylech ystyried honno'n ddyled flaenoriaethol.

Dyledion blaenoriaethol eraill

Os bydd unrhyw un o'r dyledion canlynol heb eu talu, gallai'r llys anfon beilïaid i'ch cartref i gymryd eich nwyddau:

  • Ardrethi Busnes
  • dirwyon llysoedd ynadon
  • taliadau cynhaliaeth a chynnal plant

Byddai eich nwyddau'n cael eu gwerthu i dalu'r ddyled. Os bydd arian yn dal yn ddyledus gennych ar ôl hyn, gallech gael eich anfon i'r carchar.

Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth neu ddyledion credyd

Mae’n bosib na fydd yn rhaid i chi golli’ch cartref na mynd i’r carchar am beidio â thalu eich dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth neu ddyledion credyd. Fodd bynnag, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys sirol ac y cewch orchymyn i dalu’r arian sy’n ddyledus gennych – yn aml, bydd costau ychwanegol ar ben hynny.

Os na fyddwch yn talu hyd yn oed ar ôl i chi gael gorchymyn i wneud hynny, mae gan y llys sirol ystod o opsiynau gorfodi y gall eich credydwyr geisio eu defnyddio yn eich erbyn.

Mae’n bwysig iawn eich bod yn cael cyngor annibynnol, am ddim, ynghylch eich opsiynau ar gyfer delio â'ch dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth.

Dyma enghreifftiau o ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth:

  • ôl-ddyledion ar gerdyn credyd a cherdyn siop
  • dyledion catalog
  • ôl-ddyledion ardrethi dŵr
  • gorddrafftiau a benthyciadau gan y banc
  • benthyciadau personol gan gwmnïau cyllid
  • benthyciadau gan fenthycwyr arian didrwydded (loan sharks)
  • arian a fenthyciwyd gan ffrindiau neu deulu

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Allweddumynediad llywodraeth y DU