Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Beth allwch chi ei wneud ynglŷn ag ôl-ddyledion rhent - canllaw

Os ydych chi’n gadael i’ch ôl-ddyledion rhent gronni, gallech chi golli eich cartref. Yma, cewch wybod sut i osgoi hyn drwy reoli eich dyledion a dod o hyd i ateb gyda’ch landlord. Hefyd, os yw eich landlord yn mynd â chi i’r llys, cewch wybodaeth ynglŷn â cheisio cyngor yn ogystal â gwybodaeth ynglŷn â beth sy’n digwydd ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Gweithredwch os ydych chi ar ei hôl hi gyda'ch rhent

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent, neu os ydych chi’n poeni y cewch drafferthion i’w dalu yn y dyfodol, gweithredwch ar unwaith drwy ddilyn y tri cham canlynol:

  • edrychwch i weld pa fath o denantiaeth sydd gennych
  • ceisiwch gyngor a lluniwch gyllideb er mwyn mynd i’r afael â’ch dyledion
  • ceisiwch ddod o hyd i ateb gyda’ch landlord

Os yw eich landlord yn anfon llythyrau atoch ynghylch ôl-ddyledion rhent, sicrhewch eich bod yn eu darllen. Bydd y llythyrau yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â faint o rent sy’n ddyledus gennych ac unrhyw gamau y mae’r landlord am eu cymryd.

1: Edrychwch i weld pa fath o denantiaeth sydd gennych

Mae tenantiaeth yn gytundeb cyfreithiol ysgrifenedig rhwng landlord a thenant ynglŷn â rhentu tŷ. Bydd y math o denantiaeth sydd gennych yn gwneud gwahaniaeth mawr i beth all ddigwydd, o bosib, os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent.

Edrychwch i weld pa fath o denantiaeth sydd gennych drwy ddilyn y ddolen isod.

Neu, gweler adran ‘Cymorth a chyngor’ yn ‘Ôl-ddyledion rhent’ i gysylltu â chynghorydd a fydd o bosib yn gallu rhoi gwybod i chi pa fath o denantiaeth sydd gennych.

Y gwahaniaeth a wneir gan eich tenantiaeth

Os yw eich landlord yn mynd â chi i’r llys, bydd y barnwr yn edrych ar y math o denantiaeth sydd gennych wrth wneud penderfyniad. Gall y math o denantiaeth sydd gennych olygu fod y barnwr yn penderfynu un ai:

  • pryd, ac nid os, y mae’n rhaid i chi adael eich cartref, neu
  • pryd a sut y telir ôl-ddyledion rhent ac a gewch chi aros yn eich cartref ai peidio

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod am rai o’r mathau gwahanol o denantiaeth.

2: Ceisiwch gyngor a lluniwch gyllideb

Os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent, dilynwch y ddolen isod i ddod o hyd i fanylion cyswllt mudiadau sydd â chynghorwyr a allai gynnig cymorth i fynd i’r afael â dyledion.

Gallwch ddod o hyd i dwrnai neu gynghorydd cyfreithiol gyda Chyngor Cyfreithiol Cymunedol

Cymorth y gall cynghorydd ei roi

Ewch i siarad â chynghorydd i gael cymorth ynghylch:

  • beth yw eich hawliau cyfreithiol
  • beth ddylech chi ei ddweud wrth eich landlord
  • dod o hyd i rywle newydd i fyw os na allwch chi fforddio lle rydych chi’n byw nawr
  • llunio cyllideb
  • edrych i weld os ydych chi’n gymwys ar gyfer unrhyw fudd-daliadau

Llunio cyllideb

Gallwch chi lunio cyllideb drwy edrych ar y canlynol:

  • faint rydych chi’n ei ennill
  • faint rydych chi’n ei wario
  • beth yw eich dyledion - mae ôl-ddyledion rhent yn ddyled ‘flaenoriaethol’, sy’n golygu ei bod yn bwysig eich bod yn ad-dalu’r ddyled hon yn gyntaf

Drwy ddilyn y ddolen isod, cewch wybod popeth y mae angen i chi ei wybod ynglŷn â delio â dyledion, gan gynnwys gwybodaeth am fudd-daliadau y gallwch eu hawlio yn ogystal â gwybodaeth am sut i fynd i’r afael â dyled cerdyn credyd.

3: Ceisiwch ddod o hyd i ateb gyda’ch landlord

Dylech gysylltu â’ch landlord i geisio dod i gytundeb gydag ef ar frys. Os ydych chi’n denant i gyngor neu i gymdeithas dai, ewch i siarad â’ch swyddog tai.

Mae’n bosib na fydd eich landlord am i chi adael oherwydd golyga hynny y bydd yn colli arian ac y bydd angen iddo ddod o hyd i rywun arall yn eich lle. Os nad ydych chi’n ceisio dod i gytundeb, mae’n bosib na fydd gan eich landlord ddewis ond gweithredu yn eich erbyn.

Sicrhewch eich bod yn cael copi ysgrifenedig o unrhyw gytundeb gyda’ch landlord, fel bod gan y ddau ohonoch yr un ddealltwriaeth o'r hyn sydd wedi ei benderfynu.

Fideo: ôl-ddyledion rhent - gair i gall

judge-gold-1_150x120

Gwyliwch fideo sy’n esbonio beth allwch chi ei wneud os oes gennych chi ôl-ddyledion rhent drwy ddilyn y ddolen isod.

Rhoi gwybod i chi am eich ôl-ddyledion

Bydd y math o denantiaeth sydd gennych yn penderfynu beth y gall eich landlord ei wneud ynghylch eich ôl-ddyledion rhent. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod:

  • pa fath o rybudd y mae’n rhaid i’ch landlord ei roi i chi ynglŷn â’ch ôl-ddyledion
  • pa gamau y mae’n rhaid i’ch landlord eu cymryd cyn cychwyn achos llys

Sut y cewch wybod bod eich landlord yn mynd â chi i’r llys

Cewch wybod bod eich landlord yn mynd â chi i’r llys pan fydd papurau llys yn cael eu hanfon atoch a fydd yn cynnwys dyddiad eich gwrandawiad llys. Bydd angen i chi geisio cyngor a pharatoi ar gyfer mynd i’r llys.

Sicrhewch eich bod yn mynd i’r llys

Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n mynd i'ch gwrandawiad llys. Dyma fydd eich cyfle i esbonio i’r barnwr pam fod gennych chi ôl-ddyledion rhent. Os nad ewch chi, mae’n debygol iawn y bydd y barnwr yn penderfynu y byddwch yn colli’ch cartref. Drwy ddilyn y ddolen isod, cewch wybod sut i geisio cyngor cyfreithiol a chewch wybod beth sy'n digwydd ar ddiwrnod y gwrandawiad.

Gweithredwch os cewch chi rybudd o droi allan

Mae’n hanfodol eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol os cewch chi rybudd gan y llys yn dweud eich bod yn mynd i gael eich troi allan o’ch cartref. Drwy ddilyn y dolenni isod, cewch wybod pa benderfyniadau all barnwr eu gwneud yn y llys a beth ddylech ei wneud nesaf.

Apelio yn erbyn penderfyniad barnwr ynghylch ôl-ddyledion rhent

Os ydych yn credu y bu i’r barnwr wneud camgymeriad yn eich gwrandawiad gwreiddiol, efallai y gallwch chi apelio.

Allweddumynediad llywodraeth y DU